Cyfle i gael addysg a allai newid eich gyrfa gan arbenigwyr academaidd ac ymarfer blaenllaw a fydd yn eich herio i ystyried y byd busnes o safbwyntiau amgen.
Cydbwyso theori ac ymarfer wrth i chi baratoi at yrfaoedd ar draws ystod o ddisgyblaethau arbenigol busnes a rheoli. Bydd ein harbenigwyr academaidd ac ymarfer yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf i gyflwyno rhaglenni sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, wedi’u harwain gan heriau, ym maes cyfrifeg a chyllid, economeg, rheoli, cyflogaeth a sefydliadau, logisteg a rheoli gweithrediadau, a marchnata a strategaeth.
Achrededir yn rhyngwladol
Rydym wedi'n cydnabod am ragoriaeth a’n hachredu gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB International) a Chymdeithas MBAs (AMBA).
Gwasanaeth gwella gyrfaoedd
Byddwch yn elwa o gymorth pwrpasol gan ein cynghorwyr proffesiynol o ran canfod cyfleoedd profiad gwaith, prosiectau busnes byw a mewnwelediad i’ch helpu i ymuno â’r gweithle i gyflawni eich dyheadau gyrfaol.
Rhagoriaeth ymchwil
Y sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil ac yn 2il ar gyfer pŵer ymchwil (REF 2021).
Cewch feistroli hanfodion dadansoddeg busnes a chefnogi eich dyheadau gyrfaol i’r dyfodol trwy drin a thrafod sut y gellir eu cymhwyso'n ymarferol - yn strategol ac yn weithredol.
Enillwch y sgiliau dadansoddol, ansoddol a meintiol i ymateb i broblemau economaidd a wynebir gan asiantaethau’r llywodraeth, banciau canolog, sefydliadau ariannol a diwydiant.
Gweld y ‘darlun cyflawn’ o’r facro-economi a datblygu’r sgiliau i fynd i’r afael â phroblemau ariannol, bancio, cyllid ac economaidd ar draws cyfandiroedd.
Mae’r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i’w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.
Trin a thrafod ac archwilio cysylltiadau cyflogaeth, astudiaethau trefniadaeth a rheolaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar reoli'r sector cyhoeddus a pholisïau cyhoeddus.
Rydym yn trin a thrafod ac yn archwilio sylfeini craidd marchnata a strategaeth gan gynnwys mantais gystadleuol, datblygu cynnyrch newydd ac ymddygiad defnyddwyr.
Ein sgyrsiau a’n fideos
Diben ein Gwerth Cyhoeddus
Rydym yn ysgol fusnes sydd â chenhadaeth i gyflawni gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiadau economaidd. Gwerth Cyhoeddus yw'r enw sydd gennym am hyn.
Y peth gwych am fod yn Rheolwr Cleient yn Gartner yw nad oes unrhyw ddyddiau cyffredin. Gallai fod gen i weithdy cleient neu gyflwyniad, sesiwn ateb mewnol, ymchwil, treulio amser ar amcanion cleient ar gyfer digwyddiad, neu nifer o weithgareddau eraill. Mae astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi datblygu fy sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau a sgiliau cyflwyno, ac mae pob un ohonynt yn ddefnyddiol bob dydd.
Rydym wedi datblygu perthynas gyda busnesau o bob math i’n helpu i gynnig profiad dysgu unigryw i’n myfyrwyr. Gyda’u cefnogaeth, bydd gennych gyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gwaith, mynd i’r afael â prosiectau busnes byw, cydweithio â’n entrepreneuriaid preswyl, yn ogystal â mynd i darlithoedd gwadd, teithiau maes a gweithdai.
Rydym yn Ysgol Busnes sydd â phwrpas ac mae ein cenhadaeth yn glir – cael effaith gadarnhaol ar y byd. Rydym yn rhoi gwerth ar fwy na llwyddiant economaidd yn unig. Rydym am ddod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes. Gallwn arwain y ffordd ym maes busnes mewn byd sy’n newid. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
Paratowch ar gyfer eich gyrfa ymchwil yn y byd academaidd, fel ymarferydd busnes neu luniwr penderfyniadau polisi cyhoeddus ar ein rhaglenni doethurol. Fe gewch chi’r adnoddau, y gefnogaeth a’r cyfleoedd i gyfrannu at ddatblygiad gwybodaeth a chreu effaith a gwerth yn eich maes academaidd dewisol.
Ysgol busnes a rheolaeth ymchwil ddwys o safon fyd-eang
Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau astudio, cymorth a chymdeithasol yn cynnig yr amgylchedd gorau posibl i lwyddo. Tra eich bod gyda ni, byddwch chi’n ystyried ein Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion £13.5m yn gartref.
Mae’r gofod hwn, sydd wedi’i deilwra’n llawn, yn ehangu ein Hysgol i dri adeilad sy’n cyfuno darlithfeydd, ystafelloedd seminar a siop goffi ochr yn ochr â hwb ôl-raddedig pwrpasol ac ystafell fasnach o’r radd flaenaf.