Peirianneg Meddalwedd (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol i'w astudio, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Yn rhan o’r rhaglen un flwyddyn hon yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â datblygiad ymarferol gan ddefnyddio’r offer a thechnegau masnachol arloesol diweddaraf, a chymryd rhan uniongyrchol yn y diwydiant mewn amgylchedd masnachol dynamig.
Mae rhaglen MSc Peirianneg Meddalwedd wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion o gefndiroedd amrywiol sydd â rhywfaint o brofiad o raglennu er mwyn eu galluogi i ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i fod yn beiriannydd meddalwedd masnachol.
Yn rhan o’r rhaglen un flwyddyn hon yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â datblygiad ymarferol gan ddefnyddio’r offer a thechnegau masnachol arloesol diweddaraf, a chymryd rhan uniongyrchol yn y diwydiant mewn amgylchedd masnachol dynamig.
Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, gan gynnwys rhaglennu ar gyfer rhaglenni gwe gan ddefnyddio ieithoedd fel Python, HTML a Javascript, Cronfeydd Data, DevOps a thechnolegau sy'n dod i’r amlwg. Drwy gydol y radd canolbwyntir ar weithio mewn tîm a thechnegau hyblyg i reoli prosiectau. Daw'r rhaglen i ben drwy weithio gyda chleient go iawn o’r diwydiant ar brosiect cyffrous mewn tîm sy'n dod â’r holl wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u dysgu yn ystod y radd ynghyd.
Mae'r rhaglen hon, sy’n para blwyddyn, yn croesawu myfyrwyr sydd â chefndir mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn ogystal â disgyblaethau eraill. Disgwylir i fyfyrwyr fod â rhywfaint o wybodaeth sylfaenol flaenorol am raglennu.
Ar ôl graddio o’r rhaglen hon byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer gwaith mewn gyrfa ym maes peirianneg meddalwedd neu yn y diwydiant technoleg ehangach.
Nodweddion unigryw
-
Directly engage with industry through case studies, team projects, networking events and guest presentations.
-
Gain hands-on development experience using current leading-edge commercial tools and techniques.
-
Develop professional skills that are highly valued by employers when recruiting graduate software engineers, such as team working and project management, through real-world projects.
-
Learn in a vibrant start-up atmosphere.
-
You will be provided with a laptop during induction week that will remain with you throughout the duration of the course.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in a STEM subject with evidence of programming in degree transcript
- a 2:2 honours degree in a non-STEM subject with evidence of suitable professional programming experience
- or an equivalent international degree.
You may be invited for interview if you have gained a 2:2 degree in a non-STEM subject and have evidence of suitable non-professional programming experience.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn radd amser llawn, a addysgir dros flwyddyn.
Byddwch yn astudio modiwlau craidd a addysgir a ddaw i gyfanswm o 120 credyd. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â phrosiect tîm a thraethawd hir (gwerth 60 credyd) os ydyn nhw’n cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Fel rheol, bydd sesiynau addysgu a grŵp ffurfiol yn cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod yr wythnos, gyda thri diwrnod yr wythnos ar ôl ar gyfer gwaith prosiect grŵp, dysgu hunangyfeiriedig a chael gafael ar adnoddau eraill y Brifysgol yn ogystal â gwasanaethau cymorth, clybiau, cymdeithasau ac ati.
Mae myfyrwyr yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn gweithio ar ddatblygu prosiectau meddalwedd, gan gynnwys ar gyfer cleientiaid go iawn o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae llawer o'r addysgu, y dysgu a'r asesu yn seiliedig ar gyd-destun y prosiectau hyn.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Agile Software Development | CMT651 | 20 credydau |
Web Applications | CMT652 | 20 credydau |
Programming Principles and Practice | CMT653 | 20 credydau |
DevOps | CMT654 | 20 credydau |
Manipulating and Exploiting Data | CMT655 | 20 credydau |
Delivering User Experience | CMT656 | 20 credydau |
Dissertation (Team Project) | CMT690 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae gan yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, sy'n rhan o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ffocws diwydiannol cryf a gweithgar, sy'n llywio ac yn cyfarwyddo ein holl addysgu.
Mae sgiliau allweddol yn cael eu haddysgu drwy sesiynau a arweinir gan ddarlithwyr sydd fel arfer yn cynnwys cyfran uchel o ddysgu ymarferol, gan ddefnyddio’r offer a’r technegau masnachol diweddaraf. Byddwch yn cael cyfres o gysyniadau ac enghreifftiau, ac yna'n cael eich herio gydag un neu fwy o broblemau y gallwch gymhwyso'ch sgiliau newydd iddyn nhw.
Byddwch yn aml yn gweithio mewn timau i ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych i ddod o hyd i atebion i broblemau'r byd go iawn gan ddefnyddio dull dysgu seiliedig ar brosiectau. Rhoddir digon o amser ar gyfer mentora ar yr amserlen, sy'n ategu'r hunanastudio disgwyliedig sy'n ofynnol.
Darperir dysgu a chymorth pellach drwy Dysgu Canolog (Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd), ac anogir myfyrwyr hefyd i ymgysylltu â'r gymuned dechnoleg leol drwy gyfarfodydd a digwyddiadau rhwydweithio eraill.
Sut y caf fy asesu?
Asesir y modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen drwy ystod o ddulliau, sydd fel arfer yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs, fel adroddiadau ysgrifenedig, portffolios, asesiadau wedi'u hamseru, traethodau estynedig, aseiniadau ymarferol a chyflwyniadau llafar.
Bydd y prosiect tîm a'r traethawd hir yn eich galluogi chi i ddangos eich gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd, a manteisio arnyn nhw, er mwyn arddangos meddwl beirniadol a gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol ac mewn grŵp.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydyn ni’n ymfalchïo ein bod yn cynnig strwythur cefnogaeth cynhwysfawr er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol i’r myfyrwyr. Bydd aelod staff yn cael ei ddyrannu’n diwtor personol i chi, a fydd yn bwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol.
Bydd arddull cyflwyno’r cwrs a’r ffocws ar brosiectau yn golygu eich bod yn derbyn cefnogaeth reolaidd gan staff academaidd a hefyd gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Byddwch hefyd yn cael mynediad llawn i'r cyfleusterau cyfrifiadura 24 awr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Byddwch hefyd yn cael mynediad i’r ystod lawn o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan Wasanaeth Cefnogaeth i Fyfyrwyr y Brifysgol.
Adborth:
Caiff myfyrwyr lawer o gyfleoedd am adborth yn ystod y sesiynau cyswllt. Byddwch yn cymryd rhan mewn rhoi adborth yn ystod gweithgareddau fel adolygiadau cod, ymarferion ôl-weithredol, a hunanasesu. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth gan staff addysgu, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a rhanddeiliaid y prosiect, gan roi profiad i chi o'r adborth go iawn y gallech ddod ar ei draws pan fyddwch yn dod o hyd i waith.
Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?
The Learning Outcomes for this Programme describe what you will be able to do as a result of your study at Cardiff University. They will help you to understand what is expected of you.
Knowledge & Understanding:
On successful completion of the Programme you will be able to:
- Demonstrate a systematic understanding of general software engineering concepts, both theoretical and practical.
- Demonstrate an understanding of the methods, techniques, and tools available to specify, design, implement and manage software systems.
Intellectual Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to:
- Critically analyse and evaluate current issues in Software Engineering (e.g. legal, ethical professional, social)
- Critically evaluate the available options to select the most suitable methodology, tools and techniques for use in each stage of software development.
- Analyse complex problems effectively, identify edge cases, inconsistencies, potential pitfalls, and other issues.
Professional Practical Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to:
- Demonstrate software design and programming skills.
- Design, implement, test, debug, and deploy, using appropriate tools a simple, secure, information based application.
- Creatively apply software engineering knowledge and techniques to the solution of real world, client problems.
- Work with a variety of platforms using a range of languages, technologies, and tools.
Transferable/Key Skills:
On successful completion of the Programme you will be able to:
- Work effectively in a team to manage client facing projects using current commercial tools and techniques to understand, specify, plan, schedule and manage a commercial software development project and track the project during its lifecycle.
- Clearly communicate ideas, principles and theories by oral, written, diagrammatic and practical means.
- Demonstrate self-direction, initiative, professionalism, critical judgement and planning skills in tackling and solving Software Engineering problems using appropriate technologies.
- Use research methods to further enhance learning, applying this acquired knowledge to given problems.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £27,500 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfarpar penodol angenrheidiol i astudio ar y rhaglen hon.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i gyfarfod â chwmnïau, gweithio gyda’r cwmnïau hynny ac ychwanegu at eich cysylltiadau yn y diwydiant. Mae galw mawr am beirianwyr meddalwedd medrus. Mae hyn yn golygu bod y rhagolygon cyflogaeth ar gyfer graddedigion yn y diwydiant cyfrifiadura a TGCh yn wych. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych chi sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn agor drysau i yrfaoedd mewn llawer o sectorau.
Dengys ystadegau diweddar fod mwyafrif llethol ein graddedigion yn dilyn eu llwybr gyrfa dewisol ac yn cyflawni swyddi fel Peiriannydd Meddalwedd, Datblygwr y We, Rhaglennydd Cyfrifiadurol, Datblygwr Meddalwedd Cyswllt, Dadansoddwr Busnes a Swyddog Datblygu Systemau. Maent yn mynd ymlaen i weithio i gwmnïau gan gynnwys Airbus Group, Amazon, BBC, BT, Capgemini, Confused.com, GCHQ, IBM, Grŵp Bancio Lloyds, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Morgan Stanley, Sky, Heddlu De Cymru a Thomson Reuters. Mae eraill wedi dewis astudio ymhellach neu ymchwilio ym Mhrifysgol Caerdydd neu mewn prifysgolion blaenllaw eraill.
Yn ogystal â Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y brifysgol i fyfyrwyr, mae gan yr Ysgol Swyddog Gyrfaoedd a Swyddog Lleoliadau neilltuedig.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Cyfrifiadureg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.