Rydyn ni’n ysgol bensaernïaeth flaenllaw sy’n frwdfrydig dros greu amgylchedd adeiledig a fydd yn gwella bywydau pobl heb ddinistrio'r blaned ar draul cenedlaethau'r dyfodol.
Astudiwch yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU ym mhrifddinas gosmopolitan Cymru.
Rhagoriaeth ymchwil
Mae ein hymchwil yn cynnwys y gwyddorau ffisegol, y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a dylunio, er mwyn meithrin rhagoriaeth mewn meysydd allweddol sy'n perthyn i bensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig.
Bri rhyngwladol
Mae ein hacademyddion sydd o fri rhyngwladol yn cydweithio'n agos â’n cymuned ymchwil ôl-raddedig lwyddiannus ar brosiectau fel y tŷ clyfar ynni cost isel cyntaf a adeiladwyd at y diben yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r galw am weithwyr creadigol proffesiynol sydd â sgiliau ym meysydd TG, saernïo digidol a meddalwedd efelychu, neu sydd â'r gallu i gynllunio dulliau datblygu meddalwedd penodol i ddatrys problemau dylunio unigryw.
Amser llawn, Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser, Rhan amser yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell
Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ôl-raddedigion sy’n chwilio am gwrs blaengar ac ysgogol sy’n rhoi pwyslais ar ddylunio ac yn ystyried amryw agweddau dylunio ac ymchwilio a’r ffordd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd.
Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol.
Mae’r rhaglen yn hoelio sylw ar egwyddorion cynllunio, dyluniad a chyflawniad a pherfformiad graddfa uchel ac adeiladau graddfa uchel a thyrrau o fflatiau, bydd yn rhoi cyfleoedd gyrfaol rhagorol.
Amser llawn yn dysgu o bell, Rhan amser yn dysgu o bell
The aim of this programme is to provide students with in-depth knowledge and understanding of the management and legal aspects of design, and the skills necessary to successfully administer the procurement of design services and building projects.
Dysgu cyfunol llawn amser, Dysgu cyfunol rhan amser
Nod y rhaglen hon yw helpu myfyrwyr i wybod a deall yn drylwyr agweddau rheolaethol a chyfreithiol dylunio a meithrin y medrau hanfodol ar gyfer gweinyddu prosesau caffael gwasanaethau dylunio a phrosiectau adeiladu.
Dysgu cyfunol llawn amser, Amser llawn yn dysgu o bell, Dysgu cyfunol rhan amser, Rhan amser yn dysgu o bell
Yn y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o agweddau cyfreithiol ac economaidd ymarfer pensaernïol a chaffael ym maes adeiladu yn ogystal â meithrin medrau y bydd eu hangen ar bensaer i weithredu’n effeithiol.
Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn pensaernïaeth a meysydd eraill o ddylunio adeiladau, y byd academaidd a'r diwydiant adeiladu.
Ein sgyrsiau
Astudiaeth ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Dysgwch beth i'w ddisgwyl o astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru gan Dr Sam Clark, Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn.
Gradd Meistr Pensaernïaeth (MArch)
Bydd Caroline Almond, Cadeirydd Blwyddyn 1 MArch, a’r Dr Mhairi McVicar, Cadeirydd Blwyddyn 2 MArch, yn rhoi crynodeb o raglen Meistr Pensaernïaeth a’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl ym mlynyddoedd 4 a 5.
Ymchwil ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Dysgwch fwy am ymchwil ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru gan Dr Vicki Stevenson, Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig.
Ein Hysgol
Mae gan ein Hysgol enw rhagorol yn rhyngwladol fel canolfan ar gyfer ymchwil i’r amgylchedd adeiledig a dylunio. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynhyrchu graddedigion hynod gyflogadwy sy’n gallu cymhwyso arbenigedd, manwl gywirdeb a dychymyg er mwyn datrys heriau sy’n ymwneud â phensaernïaeth a dylunio ledled y byd. Archwiliwch ein cyfleusterau, Ysgol ac ymchwil ac edrychwch ar rai o'n prosiectau myfyrwyr ôl-raddedig presennol yn ein harddangosfa ar-lein i ddysgu mwy am sut beth yw bod yn rhan o ysgol bensaernïaeth fywiog, gydweithredol gyda diwylliant stiwdio cryf.
Fel rhan o fuddsoddiad mawr diweddar rydym wedi adnewyddu ein Hadeilad Bute rhestredig Gradd II i gynnwys ystod o gyfleusterau pwrpasol ar gyfer staff a myfyrwyr.
Bydd ein harddangosfa rithwir yn rhoi’r cyfle i chi weld amrywiaeth o waith a gynhyrchwyd gan ein hamrywiaeth eang o gyrsiau dros y flwyddyn ddiwethaf.
SAWSA yw'r gymuned myfyrwyr fwyaf blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer y rhai sydd â diddordeb ym meysydd pensaernïaeth a dylunio.
Ein hymchwil
Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw’r 4ydd yn y DU yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), sy’n cadarnhau ein safle henw fel canolfan ragorol ar lefel fyd-eang am bensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig.
Gwyliwch ein ffilmiau byrion am ein cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen sydd o ddiddordeb i chi.
MA Dylunio Pensaernïol
Ffilm fer sy’n disgrifio ein MA Dylunio Pensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gan gynnwys cymuned yr Ysgol, manylion y cwrs, nodweddion a chyfleusterau, a chyflogadwyedd.
Gradd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA)
Dyma’r Athro Sarah Lupton, cadair bersonol a chyfarwyddwr rhaglenni yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn trafod y rhaglen Meistr Gweinyddu Dylunio.
MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth
Mae’r Athro Wassim Jabi yn darparu rhagor o wybodaeth am y rhaglen MSc mewn Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (Dysgu o Bell)
Dyma Sarah O’Dwyer, tiwtor dysgu o bell yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn trafod yr offer a ddefnyddiwn ar ein rhaglen dysgu o bell MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol.
MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol
Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol sydd wedi’i hachredu gan CIBSE yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy
Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy
Ffilm fer yn disgrifio ein MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy sydd wedi’i hachredu gan CIBSE a CTBUH yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.