Ewch i’r prif gynnwys

Deallusrwydd Artiffisial gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MSc)

  • Hyd: 2 years
  • Dull astudio: Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cewch archwilio technegau a chymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

Cewch archwilio technegau a chymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

Cewch ddysgu am  effeithiau moesegol a chymdeithasol technolegau AI yn ogystal â datblygu craffter, gonestrwydd deallusol a medrau ymarferol ar brosiectau gyda chleientiaid.

Mae'r cwrs unigryw hwn yn cynnig gwybodaeth arbenigol mewn meysydd fel rhesymu awtomataidd, cynrychioli gwybodaeth a dysgu peiriannol. Bydd gennych gyfle hefyd i deilwra eich profiad dysgu i gydweddu â'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfa drwy ddewis o ystod o fodiwlau dewisol, lleoliadau gwaith a phrosiectau proffesiynol.

Byddwch yn gwneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â chyflog, ar ôl cwblhau'r elfen o'r rhaglen a addysgir. Bydd hyn yn darparu profiad gwaith gwerthfawr i ddatblygu eich sgiliau gweithiwr proffesiynol TG. Cewch eich cefnogi i ddod o hyd i'r lleoliad hwn ac i wneud cais amdano, ond dylech nodi efallai na fydd hyn mewn maes sy'n ymwneud yn benodol â deallusrwydd artiffisial - y prif ffocws ar gyfer y lleoliad yw sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â'ch gradd.

Bydd graddedigion y rhaglen mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu gyrfaoedd fel gwyddonwyr data, peirianwyr deallusrwydd artiffisial, a pheirianwyr data. 

Mae'r cwrs gradd ddwy flynedd hon yn dod dan ymbarél yr Academi Gwyddor Data a redir gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Nodweddion unigryw

Ni ddylai cyrsiau gael mwy na 5 nodwedd unigryw, a dylai pob un gynnwys: pennawd o 35 o nodau (uchafswm) a brawddeg ddisgrifio (uchafswm o 140 o nodau). Dylai nodweddion unigryw ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud y rhaglen yn unigryw (USPs) ac ni ddylai gynnwys geiriad y gellid ei ddefnyddio ar gyfer sawl rhaglen.

  • Meithrin sgiliau deallusrwydd artiffisial trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt mewn ystod eang o sectorau.
  • Dysgu mewn cyd-destun unigryw, lle caiff dysgu ac addysgu eu harchwilio trwy setiau data a phroblemau o'r byd go iawn, a lle cânt eu llywio gan yr ymchwil ddiweddaraf yn y maes.
  • Dysgu gan arbenigwyr mewn prifysgol Grŵp Russell a arweinir gan ymchwil.
  • Mae'r cwrs wedi'i gyd-gynllunio gan y Maes Blaenoriaeth Gwybodaeth a Rhesymu sy'n dod ag ymchwilwyr byd-eang a byd-enwog ym maes Deallusrwydd Artiffisial ynghyd.
  • Y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith proffesiynol â chyflog i ddatblygu eich sgiliau TG ymhellach.
  • Bydd gennych yr opsiwn i gael gliniadur y gallwch ei gasglu yn ystod yr wythnos ymsefydlu. Bydd y gliniadur yn cynnwys manyleb sy’n addas ar gyfer eich rhaglen a bydd aros gyda chi drwy gydol eich cwrs.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis Cyfrifiadureg neu Gyfrifiadura, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2 gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon. Yn yr achosion hyn, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen radd amser llawn tri cham yw hon a addysgir dros ddwy flynedd. Yn y cam a addysgir byddwch yn astudio modiwlau craidd i gyfanswm o 120 credyd. 

Os byddwch yn llwyddo i gael lleoliad, byddwch yn gwneud hyn ar ôl y cam o'r cwrs a addysgir. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dechrau eu lleoliad yn ystod yr haf ym Mlwyddyn 1, ond gallai hyn gael ei ohirio os nad yw'r cyfnod a addysgir wedi'i gwblhau erbyn hynny. Os na allwch gael lleoliad, mae gennych y dewis o drosglwyddo i'r rhaglen radd MSc mewn Deallusrwydd Artiffisial (heb flwyddyn ar leoliad proffesiynol) a pharhau'n uniongyrchol gyda'ch prosiect traethawd hir.

Ar ôl cwblhau eich lleoliad yn llwyddiannus byddwch yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir gwerth 60 credyd, gan weithio gyda goruchwyliwr academaidd yn yr Ysgol a fydd yn eich goruchwylio.  

 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

You will study four 20-credit compulsory modules to a total of 80 credits, and choose a further 40 credits from a list of carefully selected optional modules. This will be followed by a 60-credit dissertation project undertaken in the summer.

Blwyddyn dau: Blwyddyn Ryngosod

Bydd eich lleoliad gwaith fel arfer yn para rhwng 7 a 12 mis, ac yn digwydd ar ddiwedd y rhan o'r cwrs a addysgir, cyn eich traethawd hir terfynol, gan eich galluogi i ymarfer y sgiliau newydd rydych wedi'u datblygu a defnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i dysgu yn y gweithle. 

Byddwch yn dychwelyd i'r brifysgol ar ôl cwblhau eich lleoliad gwaith yn llwyddiannus, fel arfer ar ddechrau tymor yr haf y flwyddyn ganlynol i gwblhau eich traethawd hir. 

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
LleoliadCMT305120 credydau
Traethawd hirCMT40060 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf i fyfyrwyr.

Defnyddir ystod amrywiol o arddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y MSc Deallusrwydd Artiffisial gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. Cyflwynir modiwlau drwy gyfres o sesiynau cyswllt, sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a dosbarthiadau labordy fel sy'n briodol i'ch rhaglen, gan ddefnyddio cymysgedd o addysgu ar-lein ac addysgu ar y campws. Gallai'r rhain gynnwys:

  • sesiynau addysgu wyneb yn wyneb (e.e. darlithoedd, dosbarthiadau ymarfer, arddangosiadau)
  • adnoddau ar-lein rydych chi'n gweithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun (e.e. fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
  • sesiynau rhyngweithiol ar-lein i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (e.e. trafodaethau, ffrydio cyflwyniadau yn fyw, codio byw, cyfarfodydd tîm)
  • sesiynau grŵp bach wyneb yn wyneb (e.e. dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth)

Bydd gan y mwyafrif o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw. Darperir dysgu a chymorth pellach drwy Learning Central (Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd) 

Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ac astudiaeth annibynnol i’ch galluogi i gwblhau eich traethawd estynedig.  Gallwch awgrymu testun ar gyfer eich traethawd eich hun, neu gallwch ei ddewis o restr o opsiynau a gynigiwyd gan staff academaidd a phartneriaid diwydiannol, yn adlewyrchu eu diddordebau cyfredol. 

Sut y caf fy asesu?

Asesir y modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen drwy ystod o asesiadau, sydd fel arfer yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs, megis adroddiadau ysgrifenedig, portffolios, asesiadau wedi'u hamseru, traethodau estynedig, aseiniadau ymarferol a chyflwyniadau llafar. 

Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir, atebion 'enghreifftiol' a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.

Caiff y lleoliad ei asesu drwy bortffolio o waith gan gynnwys gwerthusiadau gan y cyflogwr, dogfennau mapio SFIA, adroddiad drafft ac adroddiad terfynol. Bydd hyn yn dangos sut rydych wedi datblygu eich sgiliau tra roeddech ar leoliad. 

Bydd y traethawd hir yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu gallu i ddefnyddio ac adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd er mwyn dangos sgiliau meddwl yn feirniadol a syniadau gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol. 

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ei bod yn cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr i sicrhau cydberthynasau cadarnhaol rhwng myfyrwyr a staff. Bydd gennych chi aelod o staff i weithredu fel tiwtor personol i chi, a fydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol.  

Mae'r cwrs yn defnyddio Canol Dysgu Rhith-amgylchedd Dysgu (VLE) Prifysgol Caerdydd i ddarparu deunyddiau cwrs, a darperir gwybodaeth ychwanegol ar-lein. 

Bydd yr holl addysgu yn digwydd yng Nghaerdydd ac felly byddwch yn gallu manteisio ar bopeth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, o ran y brifysgol (llyfrgelloedd, neuaddau preswyl, Undeb y Myfyrwyr ac ati) a'r ddinas ehangach. 

  At hynny, byddwch yn gallu defnyddio'r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr y brifysgol: http://www.cardiff.ac.uk/studentsupport/ 

Mae myfyrwyr yn gyfrifol am ddod o hyd i'w lleoliadau eu hunain, ond bydd Swyddog Lleoliadau'r Ysgol yn hysbysu myfyrwyr am gyfleoedd addas ar gyfer lleoliad. Bydd cyfres o weithdai, cyflwyniadau a digwyddiadau rhwydweithio yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn i’ch helpu i ddod o hyd i leoliad addas. Yn ystod y lleoliad cewch eich cefnogi gan oruchwyliwr academaidd a fydd yn monitro eich cynnydd ac yn eich cynghori chi a'ch goruchwyliwr yn y gwaith ar asesu'r lleoliad. 

Adborth: 

Caiff myfyrwyr lawer o gyfleoedd am adborth yn ystod y sesiynau cyswllt.

Mae gan yr Ysgol banel myfyrwyr/staff hefyd sy’n cynnwys cynrychiolwyr a etholir gan y myfyrwyr a staff addysgu sy’n cyfarfod i drafod materion academaidd. Yn ogystal â gwaith y panel, rhoddir cyfle i bob myfyriwr gwblhau holiaduron adborth ar ddiwedd semester yr hydref a semester y gwanwyn. Mae’r dulliau hyn yn galluogi’r Ysgol i adolygu cyrsiau yn rheolaidd ac er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r ddarpariaeth orau posibl i’n myfyrwyr, a gyflwynir mewn ffordd gyson, ar draws pob un o’n graddau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon i’w gweld isod:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  1. Dealltwriaeth o bwysigrwydd sut mae data'n cael ei gynrychioli ar gyfer llwyddiant dulliau deallusrwydd artiffisial
  2. Gwybodaeth am y cysyniadau a'r algorithmau allweddol sy'n sail i ddulliau deallusrwydd artiffisial
  3. Dealltwriaeth o nodweddion damcaniaethol gwahanol ddulliau deallusrwydd artiffisial
  4. Dealltwriaeth o sut mae dulliau deallusrwydd artiffisial yn dylanwadu ar lwyddiant tasg benodol a'r gallu i ragweld hynny

Sgiliau Deallusol:

  1. Y gallu i weithredu a gwerthuso dulliau deallusrwydd artiffisial i ddatrys tasg benodol
  2. Y gallu i esbonio a chyfleu'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ddulliau deallusrwydd artiffisial cyffredin
  3. Arfarniad beirniadol o'r goblygiadau moesegol a'r risgiau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  1. Y gallu i ffurfioli problemau'r byd go iawn mewn perthynas â dulliau deallusrwydd artiffisial a ddewiswyd
  2. Y gallu i ddewis dull deallusrwydd artiffisial priodol (a strategaeth cyn prosesu data os oes angen) i fynd i'r afael ag anghenion lleoliad cymhwyso penodol
  3. Cymhwysedd wrth weithredu dulliau deallusrwydd artiffisial, gan fanteisio ar lyfrgelloedd presennol lle bo'n briodol
  4. Dangos cymhwysedd fel gweithiwr proffesiynol TG fel rhan o'r Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol. 

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  1. Arfarnu beirniadol o'ch gwaith eich hun a gwaith eraill drwy ddulliau ysgrifenedig a llafar
  2. Cyfathrebu clir ac effeithlon ynghylch syniadau, egwyddorion a damcaniaethau cymhleth drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol, i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  3. Gwerthfawrogi cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa
  4. Gallu i astudio’n annibynnol, a myfyrio’n feirniadol.

 

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £30,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Mae'r Ysgol yn annog myfyrwyr i dderbyn cyfleoedd lleoliad â chyflog yn unig. Fodd bynnag, mae angen i fyfyrwyr ystyried costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r lleoliad megis teithio a llety ac ati cyn derbyn lleoliad.   

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd graddedigion y rhaglen hon mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu gyrfa fel gwyddonwyr data, peirianwyr deallusrwydd artiffisial, a pheirianwyr data.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Computer science


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.