Ewch i’r prif gynnwys

Croeso

Mae astudio radiograffeg fel myfyriwr ôl-raddedig gyda ni yn golygu y byddwch chi’n dod yn rhan o’n Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd cyfeillgar a chefnogol. Mae gennym ddwy raglen ôl-radd radiograffeg ac rydym hefyd yn cynnig modiwlau dethol annibynnol yn y maes hwn.

Pam y dylech astudio gyda ni

rosette

Ein henw da

Rydym yn ddarparwr addysg gofal iechyd blaenllaw yn y DU.

people

Ein tîm academaidd

Mae ein rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn elwa o gyfraniad ymchwilwyr o fri byd-eang a chlinigwyr sy'n arbenigwyr yn eu maes.

book

Ein hymchwil

Gosodwyd ein hymchwil yn 4ydd yn y DU yn gyffredinol a ni sydd ar y brig am ein hamgylchedd ymchwil (REF 2014).

globe

Ein myfyrwyr

Mae ein rhaglen yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i rannu syniadau a datblygu'r ymarfer gofal iechyd gorau.

building

Ein cyfleusterau

Ceir amgylchedd perffaith ar gyfer astudio ôl-raddedig yn ein labordai a'n llyfrgelloedd technoleg uchel.

Cyrsiau

Adrodd Radiograffig (PgCert)

Rhan amser

Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd sy’n fodd i bobl broffesiynolion gofal iechyd cymwysedig weithredu fel proffesiynolion annibynnol wrth gyflawni tasgau adrodd ar ddelweddau clinigol yn eu gweithle.

Radiograffeg (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Nod y cwrs hwn yw cynyddu eich gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol o radiograffeg, fel y gallwch ddefnyddio’r sgiliau hyn i fynd ymhellach yn eich proffesiwn.

Ein sgwrs

Radiograffeg (MSc) ac adrodd Radiograffig (PgCert)

Mae Karen Eckloff yn rhoi trosolwg manwl o'r ddwy raglen ôl-raddedig radiograffeg a gynigiwn.

Ein myfyrwyr

Glywed gan ein cyn-fyfyrwyr

Mohammad, Angela a Gabriel yn siarad am eu profiadau o astudio MSc Radiograffeg.

Byddwch yn rhan o rywbeth fydd yn newid bywydau, heddiw

Beth mae'n myfyrwyr yn ei feddwl am astudio gyda ni...

Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Ystafell Efelychu Caerllion

Mae ein hystafell efelychu yn adlewyrchu lleoliadau clinigol sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau a phrofiad allweddol.

LT1

Darlithfa

Mae ein darlithfa wedi'i hadnewyddu yn cynnal sesiynau addysgu mawr.

Girl on MOTEK treadmill

Canolfan Ymchwil Cinaesioleg Glinigol

Mae’r Ganolfan Ymchwil Cinaesioleg Glinigol (RCCK) yn cynnwys offer mesur biomecanyddol a ffisiolegol o’r radd flaenaf.

Llyfrgell Parc y Mynydd Bychan

Mae adnoddau addysgol ar gyfer ein rhaglenni iechyd gofal ar gael yn ein llyfrgell ar y safle.

Darganfod mwy am ein hymchwil

Woman at whiteboard

Ein hymchwil

Rydym ni'n optimeiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar draws cwrs bywyd yng Nghymru a thu hwnt, gan roi pobl a theuluoedd wrth galon ein hymchwil.

Myfyrwyr yn y ganolfan ymchwil yn Nhŷ Eastgate

Ein PhD mewn gwyddorau gofal iechyd

Drwy gynnal ymchwil sy'n seiliedig ar eich diddordebau eich hun yn un o adrannau ymchwil gofal iechyd mwyaf blaenllaw y DU, byddwch yn gosod y sylfeini ar gyfer gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i ofal iechyd yn y byd ehangach.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni

screen

Gwnewch eich gwaith ymchwil

Ewch i wefan ein Hysgol a thudalennau'r rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.

mobile-message

Dilynwch ni ar Twitter

I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.

icon-chat

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych