Sut i wneud cais i astudio'n ôl-raddedig

Dilynwch y camau isod fel canllaw i'r broses gwneud cais am gwrs ôl-raddedig.
1. Dewiswch eich cwrs neu faes ymchwil
- Edrychwch am gwrs a addysgir neu am faes ymchwil.
- Gwiriwch a oes dyddiad terfyn ar gyfer gwneud cais.
- Sicrhewch eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad.
- Gwiriwch y ffioedd (maent yn amrywio'n dibynnu ar y cwrs) a'r costau byw.
- Os ydych yn gwneud cais am radd ymchwil ôl-raddedig yn unig, yna cysylltwch â'r Ysgol berthnasol i drafod eich cynnig ymchwil.
Sylwer bod gan y prosiectau ymchwil a gyllidir eu cyfarwyddiadau gwneud cais eu hunain a all fod yn wahanol i'r broses ôl-raddedig arferol.
2. Casglwch ddogfennau ategol
Bydd angen i chi ddarparu:
- Canlyniadau arholiadau (tystysgrifau neu adysgrifau yn Saesneg er mwyn profi eich bod yn meddu ar y cymwysterau a restrwyd ar eich ffurflen gais
- Canolwyr: mae rhai rhaglenni'n gofyn am un neu ddau ganolwr (fel arfer o leiaf un gan ddarlithydd neu athro diweddar) - gallwch ofyn i'ch canolwr lawrlwytho a llenwi ein ffurflen adroddiad canolwr neu gael geirda ganddynt wedi'i arwyddo a'i ddyddio ar bapur pennawd.
- Datganiad personol: mae angen datganiad personol penodol ar rai rhaglenni, felly gwiriwch y gofynion mynediad ar gyfer eich rhaglen. Rhowch wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais am fynediad fel: pam rydych chi am ddilyn y rhaglen hon, y buddion rydych chi'n disgwyl eu hennill ohoni a'r sgiliau a'r profiad sydd gennych chi sy'n eich gwneud chi'n ymgeisydd addas. Y terfyn nodau ar gyfer y datganiad personol yw 3,000.
- Cynnig ymchwil (ar gyfer myfyrwyr ymchwil nad ydynt yn gwneud cais am brosiectau a restrwyd)
- Tystysgrifau Iaith Saesneg (ar gyfer ymgeiswyr nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt) - gweler ein gofynion Iaith Saesneg.
Mae'n bosib uwch lwytho dogfennau fel:
- dogfennau Word (.doc neu .docx)
- PDFs
- delweddau JPEG (.jpeg neu .jpg)
1,024KB yw'r maint ffeil uchaf.
Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth sydd ei hangen ar hyn o bryd, gallwch wneud cais o hyd a llwytho eich dogfennau ategol i fyny pan fyddant ar gael.
3. Edrychwch ar opsiynau ariannu posibl
Ewch i'n tudalennau nawdd ôl-raddedig i weld beth sydd ar gael. Fel arfer ni allwch wneud cais am arian nes eich bod wedi derbyn cynnig i astudio. Felly mae'n bwysig gwneud cais am eich rhaglen cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau amser i chi wneud ceisiadau am nawdd.
Nid yw Prifysgol Caerdydd yn codi ffi am gyflwyno cais ar gyfer unrhyw un o’n rhaglenni ôl-raddedig.
Gallwch wneud cais am ran fwyaf o'n raglenni ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil ar ein tudalennau chwiliwr cyrsiau. Os hoffech wneud cais am fodiwlau unigol, cysylltwch â ni am rhagor o wybodaeth.
Cadw golwg ar eich cais
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, anfonwn e-bost atoch gydag enw defnyddiwr a chyfrinair fel y gallwch ddilyn eich cynnydd.
Beth os na allaf wneud cais ar-lein?
Mae'n gyflym ac yn hawdd gwneud cais ar-lein, ond gallwch wneud cais drwy'r post os oes angen.
Byddwch yn derbyn e-bost gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr yn cadarnhau'ch cynnig.
Pryd y byddaf yn derbyn penderfyniad ar fy nghais?
Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn clywed gennym o fewn 4-6 wythnos, er y gall ceisiadau am raddau ymchwil gymryd yn hirach.
Efallai fydd angen i chi gyfrannu blaendal er mwyn cadw eich lle ar raglenni ôl-raddedig penodol. Lle bydd angen i chi dalu blaendal, byddwch yn derbyn manylion amdano yn eich llythyr cynnig ffurfiol.
Cynnig diamod
Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig lle i chi – llongyfarchiadau!
Nawr yr unig beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yw derbyn y cynnig.
Cynnig amodol
Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig lle i chi, ond roedd rhywbeth ar goll o'ch cais – mwy na thebyg un o'ch dogfennau ategol. Bydd eich llythyr cais yn dweud yn glir pa dystiolaeth y mae angen ei darparu. Pan fydd gennym bopeth, bydd eich cynnig yn newid i Ddiamod.
Beth os nad oeddwn yn llwyddiannus?
Gallwch dderbyn eich cynnig:
- ar-lein drwy'r Porth Ymgeisydd
- drwy ebostio ein tîm Derbyn Myfyrwyr
Mae eich cynnig yn amodol arnoch yn derbyn eich lle a'n bodloni union amodau eich cynnig erbyn 14 diwrnod cyn dechrau'ch cwrs, oni bai nodir yn wahanol gan y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys amser i gyflwyno dogfennau swyddogol yn ôl y gofyn, er mwyn profi eich bod wedi bodloni'r amodau hynny. Bydd angen talu'r blaendal cyn y dyddiad cau a nodwyd er mwyn cadw eich lle.
Gwnewch gais am nawdd os oes angen i chi wneud hynny
Darganfyddwch sut i ariannu eich gradd ôl-raddedig
Dewch o hyd i rywle i fyw
Gwnewch gais am le yn llety’r Brifysgol neu chwilio am lety i’w rentu yn breifat.
Dathlwch!
Dywedwch wrth eich ffrindiau a'ch teulu eich bod yn mynd i Brifysgol Caerdydd.
Dilynwch ni ar Twitter neu hoffwch ein tudalen ar Facebook i gadw mewn cysylltiad ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd.