Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

Ewch i’r afael â heriau arwain ac ystyried effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol busnesau byd-eang. Beth bynnag yw eich cefndir fel rheolwr, mae ein rhaglenni MBA yn cynnig profiad heriol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich cefnogi, yn datblygu eich gwybodaeth am fusnes, yn gwella eich hunanymwybyddiaeth ac yn mireinio eich gallu fel arweinydd effeithiol ac ysbrydoledig.

rosette

Achrededir yn rhyngwladol

Rydym wedi'n cydnabod am ragoriaeth a’n hachredu gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB International) a Chymdeithas MBAs (AMBA).

tick

Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth

Datblygwch eich hunanymwybyddiaeth a'ch gallu arwain mewn cyfres o weithdai ymarferol, gan ganolbwyntio'n benodol ar fod yn wydn, yn ddyfeisgar, yn gyfrifol ac yn berthynol.

star

Gwasanaeth Manteision Gyrfaol

Cewch ymgynghorydd gyrfa pwrpasol am gyngor gyrfaol un i un, yn ogystal â gweithdai sy'n canolbwyntio ar MBA i'ch helpu i ddatblygu CV byd-eang.

Cyrsiau

Gweinyddu Busnes gyda Deallusrwydd Artiffisial (MBA)

Amser llawn

Mae’r rhaglen ar gyfer pobl brofiadol mewn technoleg neu waith addas a hoffai dreulio cyfnod o astudio a datblygu personol i’w helpu i gyrraedd rolau arweinyddion uchelradd yn gyflymach.

Gweinyddu Busnes (MBA)

Amser llawn, Rhan amser

Ewch i’r afael â heriau arwain ac ystyried effaith economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol busnesau byd-eang.

Ar ôl cwblhau dros 30 mlynedd yn y Fyddin Brydeinig, mae'r MBA wedi caniatáu i mi 'sifileiddio' fy ffordd o feddwl ac ystyried agweddau moesegol ar fusnes. Fe wnaeth astudio fy ngalluogi i ddechrau yn fy rôl ddelfrydol, fel ymgynghorydd yn arwain tîm, yn syth, lle rwy'n bwriadu gyrru trawsnewidiad â phwrpas.
Steve Whitlock MBA

Ein sgyrsiau a’n fideos

Cipolwg ar yr hyn y byddwch yn ei astudio yn ystod MBA Caerdydd

Mae’r Athro Calvin Jones yn cyflwyno’r modiwl Heriau Byd-eang a Phrosesau Gwneud Penderfyniadau Strategol.

Diben ein Gwerth Cyhoeddus

Rydym yn ysgol fusnes sydd â chenhadaeth i gyflawni gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiadau economaidd. Gwerth Cyhoeddus yw'r enw sydd gennym am hyn.

Profiad o’r byd go iawn gyda’r Prosiect Cyflymu

Mae myfyrwyr MBA yn ymgymryd â phrosiectau byd go iawn mewn partneriaeth â'n cleientiaid corfforaethol. Byddwch yn gweithio i greu datrysiad sy'n seiliedig ar ymchwil i her neu flaenoriaeth sefydliadol gymhleth, gan gymhwyso’r hyn rydych wedi ei ddysgu’n ymarferol o'r rhaglen. Mae cynfyfyrwyr wedi gweithio gyda chleientiaid cwmnïau hedfan, gofal iechyd, busnesau newydd, llywodraeth a bancio i ymchwilio i gyfleoedd yn y farchnad ar gyfer cynhyrchion newydd, gwella effeithlonrwydd gweithredol, cefnogi trawsnewid busnes, a datblygu cynlluniau strategol.

Ymgysylltu â'r gymuned fusnes

Mae ein cyfres o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast sefydledig yn dod â chymuned o ymarferwyr busnes, llunwyr polisïau a'r cyfryngau at ei gilydd i drafod yr ymchwil ddiweddaraf ar draws ystod o themâu busnes a rheoli. Mae siaradwyr amrywiol ac ysbrydoledig yn cynrychioli byd academaidd ac ymarfer busnes.

Ymunodd David Sproxton, cyd-sylfaenydd Aardman Animations, â Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, i drafod y broses o drosglwyddo Aardman Animations i berchnogaeth gan weithwyr yn 2018.

Perchnogaeth gan Weithwyr Animeiddiadau Aardman

Ymunodd David Sproxton, cyd-sylfaenydd Aardman Animations, â Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, i drafod y broses o drosglwyddo Aardman Animations i berchnogaeth gan weithwyr yn 2018.

Dewch i glywed sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyfle i drawsnewid y ffordd y mae caffael yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

Caffael llesiant ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol

Dewch i glywed sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyfle i drawsnewid y ffordd y mae caffael yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

Eglurodd Steve Chown, Rheolwr Arloesedd Entrepreneuraidd NatWest a Sina Yamani, Rheolwr Gyfarwyddwr Lynq, sut mae banciau'n defnyddio technoleg i ddiwallu anghenion esblygol eu cwsmeriaid.

Technoleg ariannol y dyfodol

Eglurodd Steve Chown, Rheolwr Arloesedd Entrepreneuraidd NatWest a Sina Yamani, Rheolwr Gyfarwyddwr Lynq, sut mae banciau'n defnyddio technoleg i ddiwallu anghenion esblygol eu cwsmeriaid.

Arwain meddyliau, rhagoriaeth ymchwil a mewnwelediad ymarferol

Ewch i gael golwg ar ein blog - lle i ymgysylltu, rhoi sylwadau, egluro, cysylltu ac i rannu. Bydd yn rhoi syniad i chi o'n ffocws ymchwil a'n harbenigedd yn ogystal â'n syniadau ar draws ystod eang o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes, arweinyddiaeth a rheolaeth.

O Brexit i ymddygiadau yn y gweithle, a chysylltiadau cyflogaeth i lywodraethu, mae ein hacademyddion a'n blogwyr gwadd yn rhannu eu gwybodaeth a'u barn am yr heriau presennol a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg. Cymerwch gipolwg ar rai enghreifftiau diweddar.

Woman laughing in meeting

Ydych chi’n cael hwyl?

Dr Rebecca Scott am bwysigrwydd hiwmor yn y gwaith a’i effaith ar fathau o ymddygiad megis arwain, ymddiried, cyfathrebu a meithrin cysylltiadau mewn busnes.

Bernie Davies

Byddwch yn driw i chi eich hun a’ch breuddwydion

Bydd llawer o fyfyrwyr yn dyheu am redeg eu busnesau eu hunain ar ôl astudio yn y brifysgol. Gan ohebu ar gyfer Gair Rhydd, papur newydd myfyrwyr Caerdydd, cyfarfu Matt Ellis, myfyriwr israddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd, â’r awdur a’r wraig fusnes Bernie Davies sydd wedi ysgrifennu llyfr am sut i wneud hynny.

Welsh flag

Pam fod y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau’n amrywio ar draws Cymru?

Mae’r myfyriwr doethurol Suzanna Nesom yn trafod canfyddiadau ei hadolygiad llenyddiaeth ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yng Nghymru.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school

Gweld ein rhaglenni ôl-raddedig MBA

Porwch drwy ein rhaglenni.

icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Students talking in break room

Busnes, rheoli a chyllid

Cyfle i gael addysg a allai newid eich gyrfa gan arbenigwyr academaidd ac ymarfer blaenllaw a fydd yn eich herio i ystyried y byd busnes o safbwyntiau amgen.