Ewch i’r prif gynnwys

Deallusrwydd Artiffisial (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cewch archwilio technegau a chymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a datblygu eich sgiliau ymarferol drwy gael eich amlygu i broblemau a setiau data'r byd real.

Cewch ddysgu am effeithiau moesegol a chymdeithasol technolegau AI yn ogystal â datblygu craffter, gonestrwydd deallusol a sgiliau ymarferol ar brosiectau gyda chleientiaid.

Mae'r cwrs unigryw hwn yn cynnig gwybodaeth arbenigol mewn meysydd fel rhesymu awtomataidd, cynrychioli gwybodaeth a dysgu peiriannol. Bydd gennych gyfle hefyd i deilwra eich profiad dysgu i gydweddu â'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfa drwy ddewis o ystod o fodiwlau dewisol, lleoliadau gwaith a phrosiectau proffesiynol.

Bydd graddedigion sy'n rhagori yn y rhaglen hon wedi'u paratoi'n dda ar gyfer dechrau gyrfa ymchwil ym maes AI.

Mae’r radd hon, sy’n para blwyddyn, yn dod o dan ymbarél yr Academi Gwyddor Data (DSA), sy’n cael ei rhedeg gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, mewn partneriaeth â’r Ysgol Mathemateg. Byddwch yn elwa ar wybodaeth a sgiliau’r ddwy Ysgol. Fodd bynnag, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg fydd yn dal i redeg eich gradd.

Nodweddion unigryw

  • Mae'r cwrs hwn yn ymgorffori dysgu'n seiliedig ar brosiectau yn defnyddio setiau data a phroblemau'r byd real.
  • Cewch gyfle i gael profiad gwaith gwerthfawr mewn lleoliadau gwaith a phrosiectau proffesiynol gydag ymarferwyr AI blaenllaw.
  • Caiff rhai o'ch modiwlau eu haddysgu yn ein Hystafelloedd Turing sydd newydd eu hadnewyddu.
  • Byddwch yn cael gliniadur yn ystod yr wythnos sefydlu fydd yn aros gyda chi drwy gydol eich cwrs.
  • Caiff y cwrs ei lywio gan yr ymchwil diweddaraf a'i gyd-gynllunio gan ymchwilwyr AI byd-enwog o'r Maes Blaenoriaeth Gwybodaeth a Rhesymu.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis Cyfrifiadureg neu Gyfrifiadura, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol neu os oes gennych radd anrhydedd 2:2 gallwch wneud cais o hyd ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon. Yn yr achosion hyn, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen dau gam a addysgir dros flwyddyn am gyfanswm o 180 o gredydau. Mae’r cam a addysgir yn werth 120 credyd, ac fe’i dilynir gan brosiect ymchwil gwerth 60 credyd. Mae pob modiwl yn y cam a addysgir yn werth 20 credyd.

Prosiect unigol (gwerth 60 credyd) fydd cam Meistr eich gradd, a byddwch yn ei ysgrifennu ar ffurf traethawd hir, ar ôl y cam Diploma. Cyflawnir y prosiect hwn yn yr haf, o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol 20-credyd i gyfanswm o 80 credyd, ac yn dewis 40 credyd pellach o blith rhestr o'r modiwlau dewisol a ddewiswyd yn ofalus. Dilynir hyn gan brosiect traethawd hir 60 credyd a gynhelir yn yr haf

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf.

Defnyddir ystod amrywiol o arddulliau addysgu a dysgu drwy'r MSc mewn Deallusrwydd Artiffisial. Cyflwynir modiwlau drwy gyfres o naill ai sesiynau cyswllt diwrnod llawn neu hanner diwrnod, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a dosbarthiadau yn y labordy.

Bydd gan y rhan fwyaf o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ac astudiaeth annibynnol i’ch galluogi i gwblhau eich traethawd hir. Gallwch awgrymu testun ar gyfer eich traethawd eich hun, neu gallwch ei ddewis o restr o opsiynau a gynigiwyd gan staff academaidd a phartneriaid diwydiannol, yn adlewyrchu eu diddordebau cyfredol.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r modiwlau a addysgir yn y rhaglen yn cael eu hasesu drwy arholiadau ac ystod eang o asesiadau yn ystod y cwrs, fel:

Adroddiadau ysgrifenedig; Traethodau estynedig; Aseiniadau ymarferol; Cyflwyniadau llafar.

Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; atebion ""enghreifftiol""; a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.

Mae'r prosiect a'r traethawd hir unigol yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd yng nghamau cynharach y Rhaglen, ac yn eu galluogi i’w datblygu. At hynny, mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos meddwl beirniadol a gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.

Dyrennir Tiwtor Personol i chi ar ddechrau eich cwrs, sy’n aelod o staff academaidd yn yr Ysgol ac sy’n gweithio fel pwynt cyswllt er mwyn rhoi cyngor am faterion academaidd yn ogystal â phersonol mewn ffordd anffurfiol a chyfrinachol. Bydd eich Tiwtor Personol yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich Cynllun Datblygiad Personol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd sut mae data'n cael ei gynrychioli ar gyfer llwyddiant dulliau deallusrwydd artiffisial
  • Gwybodaeth am y cysyniadau a'r algorithmau allweddol sy'n sail i ddulliau deallusrwydd artiffisial
  • Dealltwriaeth o nodweddion damcaniaethol gwahanol ddulliau deallusrwydd artiffisial
  • Dealltwriaeth o sut mae dulliau deallusrwydd artiffisial yn dylanwadu ar lwyddiant tasg benodol a'r gallu i ragweld hynny

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i weithredu a gwerthuso dulliau deallusrwydd artiffisial i ddatrys tasg benodol
  • Y gallu i esbonio a chyfleu'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ddulliau deallusrwydd artiffisial cyffredin
  • Arfarniad beirniadol o'r goblygiadau moesegol a'r risgiau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i ffurfioli problemau'r byd go iawn mewn perthynas â dulliau deallusrwydd artiffisial a ddewiswyd
  • Y gallu i ddewis dull deallusrwydd artiffisial priodol (a strategaeth cyn prosesu data os oes angen) i fynd i'r afael ag anghenion lleoliad cymhwyso penodol
  • Cymhwysedd wrth weithredu dulliau deallusrwydd artiffisial, gan fanteisio ar lyfrgelloedd presennol lle bo'n briodol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Arfarnu beirniadol o'ch gwaith eich hun a gwaith eraill drwy ddulliau ysgrifenedig a llafar
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau cymhleth yn glir ac yn effeithlon i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol
  • Gwerthfawrogi cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa
  • Gallu astudio’n annibynnol, a myfyrio’n feirniadol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £30,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nac ydy

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd graddedigion y rhaglen hon mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu gyrfa fel gwyddonwyr data, peirianwyr deallusrwydd artiffisial, a pheirianwyr data.

Lleoliadau

Gwahoddir partneriaid diwydiannol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno amrywiaeth o fodiwlau drwy ddarparu data a phroblemau go iawn i fynd i'r afael â hwy fel rhan o arholiad gwaith cwrs.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Cyfrifiadureg a gwybodeg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.