98% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Ymchwil o safon fyd-eang
Caiff ein graddau eu haddysgu gan ymchwilwyr sydd ar flaen y gad o ran eu pynciau, y mae eu harbenigedd a’u dirnadaeth yn llywio llywodraethau a llunwyr polisi yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Astudiaethau rhyngddisgyblaethol
Rydym yn Ysgol ryngddisgyblaethol sy’n credu’n gryf mewn manteision astudio a chydweithio ochr yn ochr â meysydd arbenigol ategol eraill.
Sut y gall cymdeithaseg eich helpu i wneud synnwyr o fyd sy’n cael ei ddiffinio gan newid ac aflonyddwch ond sydd, ar yr un pryd, yn cael ei siapio gan anghydraddoldebau parhaus a threiddiol?
Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant uwch mewn dulliau ymchwil ar draws holl ystod y gwyddorau cymdeithasol - mae’n cyd-fynd â gofynion grant ESRC ar gyfer cwrs PhD.
Datblygwch eich dealltwriaeth o droseddu ac ymarfer troseddol mewn cyd-destun rhyngwladol ac ystyriwch sut mae technolegau digidol yn creu ‘troseddau newydd’.
Mae'r ddoethuriaeth broffesiynol yn gymhwyster doethurol sy'n gwbl gyfwerth â'r PhD, ond yn wahanol iawn iddo gan ei fod yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil 'gymhwysol' yn hytrach nag ymchwil 'bur'.
Mae'r ddoethuriaeth broffesiynol yn gymhwyster doethurol sy'n gwbl gyfwerth â'r PhD, ond yn wahanol iawn iddo gan ei fod yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil 'gymhwysol' yn hytrach nag ymchwil 'bur'.
Mae'r ddoethuriaeth broffesiynol yn gymhwyster doethurol sy'n gwbl gyfwerth â'r PhD, ond yn wahanol iawn iddo gan ei fod yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil 'gymhwysol' yn hytrach nag ymchwil 'bur'.
Mae'r ddoethuriaeth broffesiynol yn gymhwyster doethurol sy'n gwbl gyfwerth â'r PhD, ond yn wahanol iawn iddo gan ei fod yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil 'gymhwysol' yn hytrach nag ymchwil 'bur'.
Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ddiwylliant o ymchwil eithriadol o gryf a rhyngddisgyblaethol, ac mae’n cynnig goruchwyliaeth arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau ymchwil.
Ein cyflwyniadau a’n fideos
Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Dyma Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Tom Hall, yn trafod beth sy’n gwneud Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn lle mor wych i astudio ynddi.
MSc Addysg
Dyma’r Athro Manuel Souto-Otero yn egluro’r MSc Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen hon sy’n flwyddyn o hyd yn rhoi dealltwriaeth fanwl o addysg fel maes astudio a’r cysylltiadau rhwng addysg a sefydliadau cymdeithasol eraill sydd â rôl wrth fynd i’r afael ag anawsterau cymhleth ym myd addysg.
MSc Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol
Bydd Dr Luca Giommoni yn cyflwyno’r MSc Rhyngwladol a Chyfiawnder Troseddol, sy’n newydd ar gyfer Medi 2022. Astudiwch y byd rheoli troseddau a throseddu, o drais domestig, masnachu mewn cyffuriau, a llygredd, i ledaeniad maleiswedd, twyll a mynegi casineb ar-lein.
MSc Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus
Dyma Dr Shailen Nandy yn esbonio’r MSc Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r rhaglen hon sy’n flwyddyn o hyd yn canolbwyntio ar ddeall beth sy’n achosi ystod o broblemau cymdeithasol pwysig a beth allai eu datrys. Mae'r rhain yn cynnwys heriau fel tlodi, anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol cynyddol, a chytundebau datblygu rhyngwladol.
Social Work (MA)
Programme director Abyd Quinn-Aziz talks us through our two-year Social Work (MA) course that will see you graduate as a registered social worker.
Roedd y modiwlau’n berthnasol i faterion o bryder cenedlaethol a rhyngwladol presennol, a mwynheais ddysgu a deall sut mae gwledydd gwahanol ag ideolegau gwahanol yn mynd i’r afael â materion tebyg, megis pensiynau, dirwasgiad economaidd, democratiaeth a dinasyddiaeth.
Agnes Mwangoka
MSc Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus
Bu Deeksha Sharma, a raddiodd mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) yn sgwrsio â ni am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dysgu a arweinir gan ymchwil
Yr hyn sy’n sylfaen i’n haddysgu, a’r hyn sy’n ei lywio, yw’r ymchwil academaidd a'r ysgolheictod diweddaraf. Fe gydnabyddir bod ein haddysgu o safon ragorol yn rhyngwladol, a’i fod yn cael effaith uniongyrchol ar bolisïau ac ymarfer ledled y byd.
Mae nifer o'n staff yn gynghorwyr i sefydliadau rhyngwladol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, seneddau San Steffan ac Ewrop, a Llywodraeth Cymru.
Anogir myfyrwyr ôl-raddedig i chwarae rhan lawn yn amgylchedd academaidd ac amgylchedd ymchwil yr Ysgol. Mae hyn yn cynnwys cynnal amrywiaeth mawr o grwpiau ymchwil gweithgar, cyfresi o seminarau, a grwpiau astudio anffurfiol.
Our flexible master’s degrees provide the intellectual tools with which to engage with current social and public debate. You’ll be taught by leading scholars who are recognised for their theoretical and methodological expertise both nationally and internationally.
Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer astudiaeth ymchwil ôl-raddedig a gynlluniwyd i roi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa. Mae ein rhaglen PhD yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer gyrfa sy'n seiliedig ar ymchwil, tra bod y Doethuriaeth Broffesiynol yn ceisio mynd i'r afael ag anghenion gyrfa gweithwyr proffesiynol sy'n ymarfer.
Lleoliad canolog
Rydym wedi’n lleoli yn Adeilad Morgannwg, sy’n adeilad hanesyddol rhestredig Gradd 1, wrth galon Canolfan Ddinesig Caerdydd, ger Llys y Goron Caerdydd, Neuadd y Ddinas, pencadlys gweinyddol Llywodraeth Cymru a Gorsaf Heddlu Ganolog Caerdydd. Mae ein hadeilad yn cynnwys darlithfeydd gyda thechnoleg recordio darlithoedd, ystafelloedd seminar a chaffi cyfeillgar ac anffurfiol ar gyfer cymdeithasu ac astudio mewn grwpiau.
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.