Ewch i’r prif gynnwys

Ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig

Mae nifer o ffyrdd i ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig, sy'n addas i'r math o gwrs neu raglen ôl-raddedig yr ydych am ei dilyn.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr ar gyfer ôl-raddedigion i dderbyn diweddariadau am gyfleoedd ariannu, Diwrnodau Agored a llawer mwy.

Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr yw gwneud cymaint o ymchwil ag sy’n bosib. Mentrwch wrth ystyried a gwneud cais am arian. Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl eich bod yn bodloni’r meini prawf, efallai cewch synod.

Emma, MA Astudiaethau Canoloesol

Ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig a addysgir

Mae nifer o ysgoloriaethau, benthyciadau, grantiau a bwrsariaethau ar gael i ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig a addysgir.

Ysgoloriaethau

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Ysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar

Mae ein Hysgoloriaeth Cwrs Hyfforddiant Bar Prifysgol Caerdydd ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael gradd dosbarth cyntaf.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gyfer MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg

Mae pymtheg ysgoloriaeth sy'n gyllid tuag at ffioedd dysgu a chostau byw ar gael i fyfyrwyr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd a bydd y rhain yn cael eu dyrannu ar sail gystadleuol.

Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Ariennir (MSc)

Mae Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn falch o wahodd ceisiadau am Ysgoloriaeth Rockley Photonics gynnig MSc wedi'i ariannu mewn ffiseg lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Vice-Chancellor's International Scholarship

We are offering around £1.5M in funding awards to students across foundation, undergraduate, postgraduate and PhD levels of study.

Benthyciadau a grantiau

Arian meistr Llywodraeth y DU

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu’n hwyrach, efallai y gallwch wneud cais am gyllid ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Grantiau Sylfaen James Pantyfedwen

Mae Sefydliad James Pantyfedwen yn dyrannu grantiau bob blwyddyn i gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru sy'n astudio ar gyfer gradd Meistr neu PhD.

Bwrsariaethau

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen meistr gymwys yn 2023/24.

Bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr gradd meistr o Gymru

Os ydych yn fyfyriwr Cymreig sy'n dechrau gradd meistr, yna medrwch fod yn gymwys am fwrsariaeth Llywodraeth Cymru.

Bwrsariaethau gwaith cymdeithasol

I ariannu eich gradd gwaith cymdeithasol, gallwch wneud cais i naill ai i sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru neu Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Bwrsariaethau’r Stationers’ Foundation

Mae’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi ffurfio partneriaeth â The Stationers’ Foundation i gynnig dwy fwrsariaeth hael i fyfyrwyr y DU sy’n astudio naill ai Newyddiaduraeth Newyddion neu Newyddiaduraeth Data.

Ariannu rhaglenni ymchwil ôl-raddedig

Mae sawl ffordd o ariannu rhaglenni ymchwil ôl-raddedig, gan gynnwys ysgoloriaethau, benthyciadau ôl-raddedig ac arian Cyngor Ymchwil.

Ysgoloriaethau

Ysgoloriaethau a phrosiectau PhD

Gweld yr holl ysgoloriaethau doethuriaeth (PhD) sydd ar gael ar hyn o bryd.

Benthyciadau a grantiau

Mentrau Hyfforddiant Doethurol

Mae ein proffil a’n henw da am fod yn ddwys o ran ymchwil yn ein galluogi i sicrhau cyllid ar gyfer astudiaethau doethurol o amrywiaeth eang o ffynonellau.

Benthyciadau doethuriaeth Llywodraeth y DU

Os ydych yn byw fel arfer yn y DU ac yn dechrau eich PhD ym mis Medi 2023, efallai y gallech wneud cais am fenthyciad doethurol i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau.

Cynghorau Ymchwil

Mae’r saith Cyngor Ymchwil yn y DU yn darparu cyllid gan y llywodraeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr y DU a’r UE yn uniongyrchol i sefydliadau ymchwil.

Grantiau Sylfaen James Pantyfedwen

Mae Sefydliad James Pantyfedwen yn dyrannu grantiau bob blwyddyn i gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig o Gymru sy'n astudio ar gyfer gradd Meistr neu PhD.

Os ydych yn astudio cwrs MRes, dylech edrych ar ein cyngor ariannol ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.

Dulliau eraill o ariannu'ch astudiaethau ôl-raddedig

Unistaff Jobshop

The Jobshop is the student employment service owned and run by Cardiff University Students’ Union and Cardiff University.