Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau Agored Ôl-raddedig

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i gael cymorth a chyngor ar astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynhelir ein diwrnod agored y gwanwyn Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024.

Ymunwch â ni ar y diwrnod rhwng 10:00 a 14:00 i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am sut beth yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Archebwch nawr

Beth i’w ddisgwyl

Yn y digwyddiad byddwch yn gallu:

  • darganfod mwy am yr ystod opsiynau ariannu sydd ar gael yn ein sgyrsiau ariannu
  • gofynnwch gwestiynau i’r staff am lety, cymorth gyrfaol, cyllid, sut i wneud cais, rhaglen Ieithoedd i Bawb, cymorth i fyfyrwyr, Undeb Myfyrwyr a llawer mwy
  • siaradwch â chynrychiolwyr o'n hysgolion academaidd
  • ewch ar daith o amgylch ein campws ym Mharc Cathays

Pam astudio gyda ni?

Dewch i wybod sut beth yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig sy'n astudio ac yn ymchwilio ar gampws Parc Cathays, yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru.

Dewiswch Brifysgol Caerdydd

Dewch i wybod pam y dylech chi ddewis Prifysgol Caerdydd.

Archwilio’r pynciau

Dewch i wybod rhagor am ystod y pynciau rydyn ni’n eu cynnig.

Byw yng Nghaerdydd

Dewch i wybod pam mae prifddinas Cymru’n lle mor ddeniadol.

Ffyrdd eraill o gael gwybod sut beth yw campysau’r Brifysgol

Dyma rai o'r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael syniad o sut brofiad fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Postgrad Cafe - CARBS PG Teaching Centre

Caffi'r Ôl-raddedigion

Dewch i wybod rhagor am y Brifysgol a chael blas ar fywyd y campws yn ystod taith gerdded.

Taith rithwir o amgylch y campws

Dysgwch am ein campysau a'n dinas a chael golwg 360 gradd ar ein llety.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiynau am ein digwyddiadau, cysylltwch â'n timau ôl-raddedig.