Bydd ein cyrsiau yn eich helpu chi i ddatblygu eich addysg a chael effaith ar eich gyrfa yn y dyfodol. Boed yr yrfa honno mewn ymchwil academaidd neu ddiwydiannol, gofal iechyd, cynhyrchion fferyllol, cyfathrebu gwyddonol neu rywle arall, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau i weddu i'ch anghenion a'ch dyheadau gyrfaol.
Achredir pob un o'n graddau meistr a addysgir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Cyfleusterau ymchwil o safon
Ar ôl cael buddsoddiad o dros £20 miliwn, mae ein cyfleusterau'n cynnig amgylchedd gwych am ragoriaeth.
Mae'r rhaglen wedi bod yn gynhwysol a diddorol iawn ac mae'r darlithwyr i gyd yn wych. Maen nhw wedi bod yn hynod o gefnogol ac amyneddgar a bob amser yn gwneud amser i fy ngweld i pan wyf i angen help. Rwyf i wedi gwneud llawer o ffrindiau ac wedi caru pob munud yn yr Ysgol Cemeg.
Mae cemeg feddyginiaethol yn wyddoniaeth gyffrous sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n ymwneud â'r gemeg sy'n sail i ddylunio, darganfod a datblygu cynhyrchion fferyllol newydd.
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Catalysis Heterogenaidd a Gwyddoniaeth Arwynebau, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth.
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Cemeg Ddamcaniaethol a Chyfrifiadurol, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Cemeg Organig Ffisegol, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Cemeg Deunyddiau a Chyflwr Solid, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth. Fel rhan o’r rhaglen Cemeg (PhD/MPhil), gall myfyrwyr gynnal eu hymchwil yn y grŵp hwn.
Mae’r Ysgol Cemeg wedi datblygu cryfder penodol mewn Synthesis Organig, gyda grŵp ymchwil pwrpasol i’r maes cyffrous hwn o astudiaeth.
Ein sgyrsiau
Cyflwyniad i'n rhaglenni gradd meistr a addysgir
Dr Tom Tatchell, Rheolwr Addysg a Myfyrwyr, sy'n rhannu popeth sydd angen i chi ei wybod am astudiaethau ôl-raddedig yn yr Ysgol Cemeg yn cynnwys cyfleoedd gyrfa i raddedigion, oriau cyswllt ar gyfer ein rhaglenni gradd a addysgir, y gwahaniaethau rhwng astudio israddedig ac ôl-raddedig, a mwy.
Cemeg Uwch (MSc)
Mae Dr Niklaas Buurma yn trafod sut mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd ymchwil mewn prifysgolion, asiantaethau’r llywodraeth a chwmnïau gwyddonol ledled y byd.
Cemeg Feddyginiaethol (MSc)
Mae Dr Michaela Serpi yn egluro sut mae cemeg feddyginiaethol yn wyddoniaeth sy'n datblygu'n gyflym ac yn ymwneud â'r gemeg sy'n sail i ddylunio, darganfod a datblygu cynhyrchion fferyllol newydd.
Mae gan ein Hysgol enw da byd-eang am ragoriaeth ymchwil, gyda chymuned fywiog ac amrywiol o fyfyrwyr ôl-raddedig. Cewch archwilio ein cyfleusterau a chael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol ac ymchwil yn cynnwys Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Rebekah yn rhannu ei phrofiadau fel myfyriwr cemeg ôl-raddedig.
Mae’r myfyriwr MChem a PhD Rebekah Taylor yn esbonio pam ddewisodd hi astudio cemeg yng Nghaerdydd ac yn rhannu cyngor defnyddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio gyda ni, gan gynnwys gwybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr, y sgiliau a gafodd hi yn ystod ei gradd a dinas Caerdydd.