Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

star

Ysgol ymchwil flaenllaw

Rydym yn un o'r adrannau ymchwil peirianneg gorau yn y DU gyda 96% o'n hymchwil yn cael ei gydnabod fel rhai sy'n arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021).

certificate

Ystod eang o gyrsiau

Rydym yn darparu ystod eang o raglenni gradd meistr sydd wedi'u hachredu gan y sefydliadau peirianneg proffesiynol, ac mae ein cyfleoedd PhD yn cwmpasu'r holl brif ddisgyblaethau peirianneg.

briefcase

Rhagolygon gyrfa graddedigion rhagorol

Fel myfyriwr ôl-raddedig, bydd gennych ragolygon gyrfa ardderchog gan fod gennym gysylltiadau agos â'r diwydiant ac mae ein graddedigion yn uchel eu parch gan gyflogwyr.

Roedd y cwrs yn arbennig o ddiddorol gan fod gan y rhan fwyaf o'r gwaith cwrs geisiadau ymarferol ac mae'n berthnasol i'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd o fewn y diwydiant trydan. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael fy recriwtio gan Alsthom Grid yn ystod fy astudiaethau a dechreuais weithio gyda nhw cyn gynted ag y gwnes i drosglwyddo fy nhraethawd hir. Mwynheais yr amrywiaeth o fewn yr Ysgol a chwrdd â myfyrwyr o Frasil, Gwlad Groeg, yr Almaen, Nigeria, Tsieina, Japan a fy mamwlad Iwerddon.
Dan, Systemau Ynni Trydanol (MSc)

Cyrsiau

Adeiladu a Modelu Gwybodaeth Seilwaith (BIM) ar gyfer Peirianneg Ddeallus (MSc)

Amser llawn

Bydd yr MSc hwn yn rhoi'r hyfforddiant, y sgiliau a'r profiad ymarferol angenrheidiol i lwyddo ym meysydd deinamig a hynod gystadleuol BIM a pheirianneg glyfar.

Arloesi a Rheoli mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu (MSc)

Amser llawn

Nod y rhaglen MSc newydd hwn yw rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr cymwys maen nhw eu hangen i gael eu cyflogi fel peirianwyr proffesiynol. Bydd y cwrs yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil enwog cyfoes yn thema Mecaneg, Deunyddiau ac Uwch-weithgynhyrchu’r Ysgol.

Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (MSc)

Amser llawn

Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno drwy hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn theorïau lled-ddargludyddion cyfansawdd, creu, cymwysiadau, ac integreiddio â thechnoleg silicon.

Peirianneg Adeileddol (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Mae creu adeiladau modern yn waith cymhleth sy’n gofyn am sgiliau proffesiynol mewn sawl disgyblaeth. Mae'r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant uwch mewn dadansoddi, dylunio ac adeiladu strwythurau mewn amrywiaeth o ddeunyddiau.

Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdonfeddau (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Nod y radd hon yw cynhyrchu arbenigwyr ôl-raddedig gydag arbenigedd hanfodol mewn peirianneg electronig a microdon, a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod defnyddio sy’n tyfu ar gyfer y technolegau hyn.

Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MSc)

Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Nod y radd hon yw cynhyrchu arbenigwyr ôl-raddedig gydag arbenigedd hanfodol mewn peirianneg electronig a microdon, a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod defnyddio sy’n tyfu ar gyfer y technolegau hyn.

Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon gyda Blwyddyn Ymchwil (MSc)

Amser llawn

Cwrs MSc sydd â phwyslais ar ymchwil ac sydd hefyd yn ceisio rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau lefel uwch, fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon, sy'n tyfu'n gyflym.

Peirianneg Fecanyddol Uwch (MSc)

Amser llawn

Nod y rhaglen gradd hon yw darparu gwybodaeth uwch am beirianneg fecanyddol dros amrywiaeth o bynciau arbenigol, gydag astudiaeth fanwl, drwy brosiect uwch dan arweiniad ymchwil, mewn maes o’ch dewis.

Peirianneg Sero Net (MSc)

Amser llawn

Bydd yr MSc Peirianneg Sero Net yn rhoi gwybodaeth a sgiliau peirianneg a gwyddonol allweddol i chi allu darparu datrysiadau datgarboneiddio effeithiol i daclo newid hinsawdd mewn cymdeithas ehangach.

Peirianneg Sifil a Dŵr (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Nod y cwrs hwn yw ategu gradd israddedig perthnasol drwy gyflwyno’r myfyrwyr i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiannol a hydroleg amgylcheddol, gan gynnwys dangosyddion ansawdd dŵr a phrosesau cludo gwaddod yn nyfroedd arfordiroedd ac aberoedd a dyfroedd mewndirol.

Peirianneg Sifil a Geoamgylcheddol (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i ddarparu datblygiad proffesiynol ôl-raddedig arbenigol yn y ddisgyblaeth newydd a chynhwysol hon, sy’n cydnabod na ellir datrys nifer o heriau amgylcheddol gan ddefnyddio un ddisgyblaeth draddodiadol yn unig. Mae'r rhaglen yn cwmpasu meysydd traddodiadol mewn peirianneg sifil, gwyddorau daear a bioleg.

Peirianneg Sifil (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Mae’r cwrs sefydledig hwn yn cynnig y wybodaeth a’r arbenigedd angenrheidiol ar gyfer gyrfa ar draws sbectrwm eang peirianneg sifil.

Systemau Ynni Trydanol (MSc)

Amser llawn

Mae’r MSc mewn Systemau Ynni Trydanol yn canolbwyntio’n benodol ar integreiddiad cynhyrchu adnewyddadwy i rwydweithiau trawsyrru a dosbarthu ynni ac ar baratoi myfyrwyr am gyfnod newydd o gridiau gwirioneddol ‘smart’, ac mae wedi’i ddylunio i fodloni’r angen brys am arbenigwyr mewn systemau ynni trydanol uwch.

Ynni Cynaladwy a'r Amgylchedd (MSc)

Amser llawn, Rhan amser

Yng nghanol cyflwyniad technolegau amgylcheddol ac ynni newydd, nod y cwrs hwn yw hyfforddi graddedigion sy’n gallu gweithio ar draws rhyngwyneb disgyblaethau traddodiadol a bod yn effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol cynyddol.

Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (Efrydiaethau EPSRC) (PhD)

Amser llawn

Mae’r rhaglen gradd PhD hon mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhan o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC.

Peirianneg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Rydym yn cynnig rhaglen PhD 3 blynedd a rhaglen radd MPhil 1 flwyddyn.

Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon (MRes) (MRes)

Amser llawn

Nod y cwrs MRes hwn yw rhoi platfform rhagorol i chi ar gyfer datblygu gyrfa, boed hynny o fewn diwydiant neu ymchwil academaidd.

Ein sgyrsiau

Mae Dr Mike Harbottle yn esbonio mwy am ein graddau ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil, y cyfleoedd sydd ar gael i chi, a'n gofynion mynediad.

Astudiaeth ôl-raddedig yn yr Ysgol Peirianneg

Mae Dr Mike Harbottle yn esbonio mwy am ein graddau ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil, y cyfleoedd sydd ar gael i chi, a'n gofynion mynediad.

Mae'r Athro Peter Smowton yn sôn am y cyfleoedd ymchwil sydd ar gael ac yn esbonio pam mae lled-ddargludyddion cyfansawdd mor bwysig.

Cyfleoedd PhD mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd

Mae'r Athro Peter Smowton yn sôn am y cyfleoedd ymchwil sydd ar gael ac yn esbonio pam mae lled-ddargludyddion cyfansawdd mor bwysig.

Ein staff a'n myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am ein rhaglen gradd meistr mewn Peirianneg Fecanyddol Uwch.

Peirianneg Fecanyddol Uwch (MSc)

Ein staff a'n myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am ein rhaglen gradd meistr mewn Peirianneg Fecanyddol Uwch.

Dr Aled Davies yn mynd â chi drwy ein pedair rhaglen gradd meistr mewn peirianneg sifil, strwythurol, geoamgylcheddol ac hydroamgylcheddol.

Peirianneg Sifil

Dr Aled Davies yn mynd â chi drwy ein pedair rhaglen gradd meistr mewn peirianneg sifil, strwythurol, geoamgylcheddol ac hydroamgylcheddol.

Ein staff a'n myfyrwyr yn dweud wrthych am ein rhaglen gradd meistr mewn Systemau Ynni Trydanol.

Systemau Ynni Trydanol (MSc)

Ein staff a'n myfyrwyr yn dweud wrthych am ein rhaglen gradd meistr mewn Systemau Ynni Trydanol.

Mae Dr Tom Beach yn esbonio pam y dylech ystyried astudio ar ein rhaglen gradd meistr mewn Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM).

Modelu Gwybodaeth Adeiladu (MSc)

Mae Dr Tom Beach yn esbonio pam y dylech ystyried astudio ar ein rhaglen gradd meistr mewn Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM).

Mae Dr Valera-Medina yn cyflwyno rhaglen gradd meistr mewn Ynni a'r Amgylchedd Cynaliadwy gan gynnwys prif nodweddion y cwrs, ein myfyrwyr, gyrfaoedd a chyfleusterau.

Ynni a'r Amgylchedd Cynaliadwy (MSc)

Mae Dr Valera-Medina yn cyflwyno rhaglen gradd meistr mewn Ynni a'r Amgylchedd Cynaliadwy gan gynnwys prif nodweddion y cwrs, ein myfyrwyr, gyrfaoedd a chyfleusterau.

Clywch am y cwrs, ein myfyrwyr, ein cyfleusterau, a'r rhagolygon gyrfa ar gyfer graddedigion.

Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon (MSc)

Clywch am y cwrs, ein myfyrwyr, ein cyfleusterau, a'r rhagolygon gyrfa ar gyfer graddedigion.

Mae Dr Roberto Quaglia yn disgrifio manteision astudio ar ein rhaglen gradd meistr mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (MSc)

Mae Dr Roberto Quaglia yn disgrifio manteision astudio ar ein rhaglen gradd meistr mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Dewch i glywed sut bydd ymuno â rhaglen gradd meistr Technoleg Cyfathrebu ac Entrepreneuriaeth yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Technoleg Cyfathrebu ac Entrepreneuriaeth (MSc)

Dewch i glywed sut bydd ymuno â rhaglen gradd meistr Technoleg Cyfathrebu ac Entrepreneuriaeth yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Apeliodd y cwrs Peirianneg Geoamgylcheddol (MSc) ata i gan fod ystod eang o bynciau ac roedd yr hyblygrwydd gennyf i ganolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb trwy fodiwlau dewisol a'r prosect traethawd hir. Rwy'n parhau i ddefnyddio'r sgiliau hyn yn fy rôl bresennol fel ymgynghorydd. Fe wnaeth yr astudiaeth ôl-raddedig fy helpu i gael gwaith ac ers hynny rwyf wedi mynd o nerth i nerth yn gyflym yn fy maes.
Kat, Peirianneg Sifil a Geoamgylcheddol (MSc)

Astudio gyda ni

Solar panels

Cysylltiadau â'r diwydiant

Darganfyddwch sut rydym yn cydweithio â busnes a diwydiant i wella ein haddysgu a'n hymchwil.

Energy and environment

Meysydd ymchwil â blaenoriaeth

Darganfyddwch themâu ymchwil allweddol a adeiladwyd ar ein cryfderau a'n meysydd ymchwil presennol ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.

Impact

Effaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn dangos peth o'r ymchwil sy'n digwydd yn yr Ysgol Peirianneg.

Students in the combustion lab

Ysgoloriaethau a phrosiectau PhD

Chwiliwch drwy ein ysgoloriaethau a'n prosiectau PhD diweddaraf mewn peirianneg.

Gyrfaoedd ymchwil

Mae Dr Agustin Valera-Medina yn sôn am ei daith gyrfa ymchwil hyd yma mewn fideo ysbrydoledig ar gyfer darpar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Dewisais Brifysgol Caerdydd oherwydd y cyfle i weithio mewn amgylchedd ymchwil ysbrydoledig gyda phobl sy'n poeni nid yn unig am ansawdd y gwaith y maent yn ei wneud ond ei fwy o effaith. Mae lefel y gefnogaeth yn meithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol ac yn annog myfyrwyr ymchwil i gamu allan o'u parthau cysur, cofleidio eu galluoedd a chael effaith ar eu gwaith.
Jon, PhD Peirianneg

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

Student getting advice

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

mobile-message

Cysylltu â ni

Dim ond cyflwyno ffurflen ymholiad a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau neu drefnu sgwrs gyda chi.

icon-pen

Sut i ymgeisio

Gwybodaeth am sut i wneud cais am ein cyrsiau.

book

Lawrlwytho ein llyfryn ôl-raddedig

Dysgwch ragor am ein cyfleoedd i ôl-raddedigion a'r adnoddau sydd ar gael i chi yn ein hysgol.