Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Mae astudio am PhD neu MPhil yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd yn cynnig y cyfle i chi ddod yn rhan o ysgol ymchwil cryf, deinamig a rhyngwladol llwyddiannus.

Mae ymchwil mewn cyfrifiadureg a gwybodeg yn ymwneud â mynd y tu hwnt i wybodaeth a thechnolegau cyfredol i adeiladu systemau cyfrifiadura y dyfodol.

Mae technolegau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol nawr, fel y we, ffonau clyfar, a chronfeydd data, i gyd yn gynhyrchion ymchwil yn y gorffennol mewn cyfrifiadureg a gwybodeg. Felly beth welwn ni yn y dyfodol?

Mae ymchwilwyr yma yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygiadau newydd mewn meysydd fel graffeg gyfrifiadurol, cloddio data a systemau symudol 'deallus'. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith ymchwil yn galluogi mathau newydd o raglenni, cynhyrchion a systemau cyfrifiadura i helpu pobl ym meysydd fel gofal iechyd, yr amgylchedd, diogelwch a busnes.

Mae cynnal ymchwil mewn cyfrifiadureg a gwybodeg yn gyffrous ac yn heriol ac rydym yn rhoi’r cyfle i chi weithio ochr yn ochr â’n staff ymchwil sy’n arweinwyr yn eu meysydd arbenigedd. Maen nhw’n cyhoeddi, golygu ac adolygu yn eang ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol, yn gweithredu fel arholwyr allanol yn y DU ac yn rhyngwladol, yn darparu ymgynghoriaeth ac yn sicrhau arian ymchwil.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 blynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser PhD 5 mlynedd, MPhil 2 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref
Dyddiad(au) cau ceisiadau Rhaid cyflwyno eich cais cyflawn (gan gynnwys trawsgrifiadau, tystysgrifau a dau lythyr geirda academaidd) erbyn y dyddiadau canlynol (oni bai eu bod yn dangos bod terfyn amser penodol ar gyfer yr ysgoloriaeth sy’n cael ei hysbysebu): diwedd mis Awst ar gyfer mynediad yn y mis Ionawr dilynol; ddiwedd mis Tachwedd ar gyfer mynediad yn y mis Ebrill dilynol; ddiwedd mis Chwefror ar gyfer mynediad yn y Gorffennaf dilynol; ddiwedd mis Mai ar gyfer mynediad yn y mis Hydref dilynol.

Trefnir ymchwil yn yr Ysgol yn dri Grŵp Ymchwil. Mae pob un dan arweiniad athro nodedig ac mae'n cynnwys staff academaidd, cynorthwywyr ymchwil a myfyrwyr ymchwil.Wrth astudio, bydd myfyrwyr ymchwil fel rheol yn cyhoeddi amryw o bapurau ac yn mynychu cynadleddau a fydd yn eu helpu i weithio tuag at eu traethawd ymchwil.  I fod yn llwyddiannus, bydd y papurau hyn yn cynnwys syniadau newydd a chanlyniadau ymchwil a fydd yn mynd y tu hwnt i wybodaeth gyfredol mewn cyfrifiadureg a gwybodeg. Bydd goruchwylwyr y myfyriwr yn eu helpu i ddatblygu’r syniadau hyn a chyflawni canlyniadau, a bydd aelodau eraill o grŵp ymchwil y myfyriwr yn eu helpu i gyfleu a gwella eu syniadau a’u canlyniadau.

Mae myfyrwyr ymchwil yn mynychu rhaglen o seminarau a roddir gan siaradwyr gwadd, yn ogystal â seminarau a roddir gan aelodau arbenigol o’r grŵp ymchwil.  Bob blwyddyn mae myfyrwyr yn mynychu digwyddiadau hyfforddi sy’n datblygu eu sgiliau drwy gyflwyno posteri a’u prosiect eu hunain.  Caiff cynnydd ei fonitro bob 6 mis, gydag adolygiad blynyddol er mwyn sicrhau cynnydd ar y lefel briodol.

Bydd canlyniadau gwaith ymchwil y myfyriwr yn cael eu cofnodi ar ffurf traethawd ymchwil sy’n dangos y gwaith o ddylunio a chyflawni darn gwreiddiol o waith ymchwil, ac asesir y traethawd ymchwil drwy arholiad llafar neu viva voce.

Wrth ystyried a ddylech ymuno â ni fel myfyriwr ymchwil, dylech adolygu'r pynciau a’r gweithgareddau yn y meysydd ymchwil a blaenoriaethau i wneud yn siŵr bod gennym ddiddordebau tebyg. Cysylltwch ag aelod arweiniol o staff yn un o'r meysydd hyn i helpu i nodi goruchwyliwr addas y gallwch drafod natur a chyfeiriad eich gwaith ymchwil gydag ef/hi.

Bydd y rhaglen ymchwil ôl-raddedig yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel academydd neu mewn rôl ymchwil a datblygu diwydiannol. Bydd graddedigion llwyddiannus yn gallu arddangos dealltwriaeth ddofn a gwybodaeth eang i gyflogwyr yn ymwneud â chyfrifiadureg gyfoes o safbwynt ymchwil a datblygu.

Mae enghreifftiau o lwybrau gyrfa yn cynnwys: Datblygwr Meddalwedd, Darlithydd, Datblygwr Gwe, Peiriannydd Meddalwedd, Pensaer Meddalwedd, Ymgynghorydd Technegol, Arbenigwr TG a Dadansoddwr Cefnogol.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Ymchwil wedi'i hunan-ariannu

Rydym yn croesawu ceisiadau os ydych chi’n hunan-ariannu neu os oes gennych gyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys ysgoloriaethau gan y llywodraeth neu eich cyflogwr. Dylech adolygu ein meysydd ymchwil a'n blaenoriaethau i wneud yn siŵr bod gennym ddiddordebau tebyg.

Ymchwil a ariennir

Rydym fel arfer yn dyfarnu nifer fach o ysgoloriaethau doethurol a ariennir ac ysgoloriaethau doethurol a ariennir gan EPSRC bob blwyddyn. Mae'r prosiectau hyn yn agored i fyfyrwyr DU/UE ac yn aml i fyfyrwyr tramor.

Er bod prosiectau a ariennir wedi’u dylunio ar gyfer astudiaeth llawn amser, mae croeso i chi drafod y posibilrwydd o gyflawni unrhyw brosiect yn rhan amser gyda’r goruchwyliwr cyn cyflwyno eich cais. Gallwch ddod o hyd i’w gwybodaeth gyswllt drwy ddilyn y dolenni proffil ar waelod pob disgrifiad prosiect isod.

Gallwch chwilio am ysgoloriaethau PhD ar dudalennau gwe'r brifysgol, yn ogystal ag ar wefan FindaPhD.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Gradd anrhydedd 2:1 neu radd meistr, mewn cyfrifiadura neu bwnc cysylltiedig. Caiff ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol priodol eu hystyried hefyd. Mae mathemateg i lefel gradd (neu gymhwyster cyfwerth) yn ofynnol ar gyfer ymchwil mewn rhai meysydd prosiect.

Gofynion Iaith Saesneg

Rhaid i ymgeiswyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ddangos eu hyfedredd drwy gael sgôr IELTS o 6.5, o leiaf, yn gyffredinol, gyda lleiafswm o 6.0 ym mhob elfen sgiliau.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

I ddechrau eich cais, defnyddiwch y blwch 'Gwneud cais' i ddewis y rhaglen, y dull astudio a'r flwyddyn mynediad sydd orau gennych.

Porwch ein tudalennau gwe yn ôl grŵp ymchwil i gael syniad am y themâu a'r prosiectau ymchwil sy'n cael eu cynnal yn yr Ysgol.  Pan fydd gennych syniad o'r hyn yr hoffech ymchwilio iddo, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar ein proffiliau staff academaidd i weld pa aelod(au) staff sydd â diddordebau ymchwil tebyg i chi. Yna gallwch gysylltu â nhw a rhoi syniad cryno iddynt o'r hyn yr hoffech ymchwilio iddo. Os ydyn nhw'n cytuno ac â diddordeb mewn derbyn cais gennych chi, yna dylech wneud cais yn y ffordd arferol.

Mae ymgeiswyr sydd eisoes wedi cysylltu â'r tiwtor perthnasol yn llawer mwy tebygol o gael eu derbyn na'r rhai sy'n gwneud cais heb wneud hyn.

Gyda phob cais, dylech gynnwys CV cyfredol, datganiad personol a chynnig ymchwil.

Cynnig ymchwil

Ni ddylai eich cynnig ymchwil fod yn fwy na 2000 gair a dylai gynnwys y canlynol. (nodwch y bydd cynigion sy'n fwy na 2000 o eiriau yn cael eu gwrthod yn ystod y cam ymgeisio cychwynnol.)

  • crynodeb o’ch maes ymchwil o ddewis, sy’n disgrifio’r arloesedd ac yn rhestru diffygion a cwestiynau y bydd eich astudiaeth yn mynd i’r afael â nhw
  • amlinelliad o'r dulliau a’r technegau rydych chi’n cynnig eu defnyddio
  • enw darpar oruchwyliwr, a disgrifiad o sut mae eich cynnig yn ymwneud â'i ddiddordeb a'i arbenigedd ymchwil
  • rhestr o gyfeiriadau yr ydych wedi'u dyfynnu yn yr uchod

Yn ogystal, gallwch hefyd lanlwytho enghraifft o waith blaenorol, fel cyfnodolyn neu bapur cynhadledd rydych chi wedi cyfrannu ato, neu bennod o draethawd hir o’ch MSc neu radd israddedig.

Mae canllawiau ar sut i ysgrifennu eich cynnig ymchwil ar gael ar dudalennau'r brifysgol.

Ysgoloriaethau a ariennir

Mae Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau cystadleuol bob blwyddyn. Fel arfer, bydd cyllid yn talu am gostau blynyddol, yn ogystal â ffioedd dysgu ôl-raddedig yn ôl y gyfradd cartref / cyfradd yr UE.

Gallwch chwilio am ysgoloriaethau PhD ar dudalennau gwe'r brifysgol, yn ogystal ag ar wefan FindaPhD.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaethau PhD yw 13 Mawrth. Rydym yn rhagweld y bydd y broses o lunio rhestr fer a chyfweld yn cael ei chynnal ym mis Ebrill.

Y broses dderbyn

Cyfweliad ffôn

Os yw eich cais yn bodloni’r gofynion mynediad, byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad gyda’ch darpar oruchwyliwr a chynrychiolydd y tiwtor derbyn ymchwil ôl-raddedig, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud fel arfer o fewn 5 diwrnod.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Ymchwil ôl-raddedig Cyfrifiadureg

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig