Ewch i’r prif gynnwys

‘Cyfle gwych’ ar gyfer addysgu ac ymchwil

23 Gorffennaf 2019

New computer science and maths building

Cwmni adeiladu byd-eang ISG wedi’i benodi’n gontractwr ar gyfer adeilad cyfrifiadureg a mathemateg newydd a phwrpasol Prifysgol Caerdydd.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau fydd yn dod â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg (COMSC) a'r Ysgol Mathemateg (MATHS) ynghyd mewn un cyfleuster o’r radd flaenaf.

Bydd yr adeilad ar Heol Senghennydd yn cefnogi twf y ddwy adran ac yn cynyddu cyfleoedd i gydweithio a chynnal ymchwil.

Mae wedi’i ddylunio gan Stride Treglown, stiwdio yn ne Cymru sy’n hyrwyddo ymarfer yn genedlaethol, gydag Adjaye Associates, sy’n stiwdio dylunio blaenllaw.

Cadarnhaodd y Brifysgol bod ISG wedi’i enwi’n gontractwr ar gyfer y prosiect.

Meddai’r Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein cynlluniau gyda’r contractwr ISG.

“Mae hwn yn gyfle gwych fydd yn cynnig manteision i’n staff a’n myfyrwyr. Bydd yn gwella profiad y myfyrwyr yn sylweddol a’n hymchwil arloesol.

“Mae’r ddwy Ysgol yn ehangu o ran nifer y myfyrwyr, felly bydd hyn yn ein galluogi i ymdopi â’r twf mewn adeilad modern pwrpasol, yn ogystal â chefnogi cynlluniau graddau ar y cyd arloesol.

“Drwy ddod â’r ddwy Ysgol ynghyd, byddwn ni hefyd yn gallu datblygu ymchwil newydd mewn meysydd fel seiberddiogelwch a gwyddor data, sydd o bwys enfawr i gymdeithas.”

Ychwanegodd Jon James, cyfarwyddwr rhanbarthol ISG: “Mae adeiladu cyfleusterau o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn bwysig iawn i ni wrth i ni barhau i helpu ein dinas ennill ei phlwyf a’i henw da am ragoriaeth ym myd addysg.

“Gan adeiladu ar lwyddiant gwych ein prosiect yn Ysgol Busnes Caerdydd y Brifysgol, mae’r adeilad newydd ar gyfer yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodaeth a’r Ysgol Mathemateg wedi’i ddylunio i helpu dwy gyfadran i gydweithio’n agos a dod â nhw ynghyd am y tro cyntaf mewn lleoliad sydd wedi’i adeiladu’r bwrpasol ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae llawer iawn o gyffro ynghylch y cynllun hwn gan ei fod yn cynnig cyfle i helpu i gefnogi datblygiad technoleg ac arloesedd trawsnewidiol yn y dyfodol.

Mae'r safle ar gampws Cathays, ger gorsaf reilffordd Cathays, ac fe'i defnyddir fel maes parcio i'r Brifysgol ar hyn o bryd.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.