Ewch i’r prif gynnwys

Seiber Ddiogelwch a Thechnoleg (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol llawn amser

Dyddiad dechrau
Cyber Security Research Lab
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dyma raglen seiber ddiogelwch uwch a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â PwC ac a gefnogir gan gyllid gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i baratoi gweithwyr proffesiynol seiber ddiogelwch o safon sy’n ddeniadol i sefydliadau ledled y byd ac yn barod i weithio.

certificate

Wedi'i ardystio gan NCSC

Mae'r rhaglen hon wedi'i hardystio gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) 2022.

Cyber Security certificate
book

Ymchwil ac arferion arloesol o fyd diwydiant

Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol ynghyd ag arbenigwyr technegol PwC a fydd yn helpu i gyflwyno modiwlau ac yn darparu tiwtora diwydiannol.

star

Profiad datblygu ymarferol

Byddwch yn datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol a dealltwriaeth uwch wrth i chi weithio ar broblemau o’r byd go iawn mewn cyfleusterau fel ein labordy seiber ddiogelwch a fforensig modern.

server

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â diwydiant

Datblygwyd ein cwrs MSc gan ymchwilwyr seiber ddiogelwch o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â'r tîm Mae arbenigwyr PwC yn cyflwyno dosbarthiadau meistr ymarferol yn rheolaidd, gan gefnogi datblygiad sgiliau technegol ymarferol. Mae arbenigwyr PwC yn cyflwyno dosbarthiadau meistr ymarferol yn rheolaidd, gan gefnogi datblygiad sgiliau technegol ymarferol.

Logo for PwC

Mae'r rhaglen MSc unigryw hon yn cynnig llwybr clir i chi at yrfa lwyddiannus mewn seiberddiogelwch - maes cyffrous sy’n datblygu’n gyflym. Datblygwyd y rhaglen gan ymchwilwyr blaenllaw yng Nghanolfan Ymchwil Seiber Ddiogelwch Caerdydd mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr yn y diwydiant o gwmni PwC.

Ein nod yw eich galluogi i gael dealltwriaeth fanwl o’r sefyllfa newidiol o ran bygythiadau seiber, a'r ystod eang o seiber-ymosodiadau ar systemau gweithredu, rhwydweithiau cyfrifiadurol, a rhaglenni gwe. Mae'r cwrs yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o dechnolegau sylfaenol, eu gwendidau, a sut y gellir eu diogelu'n effeithlon. Yn ogystal â rhoi sylw i sylfeini damcaniaethol cyfrifiadureg a seiber ddiogelwch, mae'r rhaglen yn cynnwys elfen ymarferol sylweddol sy’n rhoi cyfle i chi roi’r wybodaeth ar waith.

Mae'r technegau a'r dulliau diogelwch a addysgir yn cynnwys, ymhlith eraill, dadansoddi traffig rhwydwaith, cyfrif rhwydweithiau, sganio pyrth, segmentu rhwydweithiau, atal ymosodiadau chwistrellu, atal ymosodiadau cyffredin ar raglenni gwe (ymosodiadau chwistrellu, XSS, CSRF), cyflunio amgylcheddau TG yn y cwmwl i fod yn ddiogel. Byddwch yn dysgu cynnal ymchwiliadau a dadansoddiadau fforensig digidol a rhwydwaith, gan ddefnyddio offer fforensig modern a phecynnau meddalwedd. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffactorau dynol sy'n effeithio ar seiber ddiogelwch, materion preifatrwydd, a deddfwriaeth a rheoliadau seiber ddiogelwch.

Dyma gyfle cyffrous i ddysgu gan ymchwilwyr seiber ddiogelwch ac ymarferwyr uchel eu parch o fyd diwydiant, ac i ddod yn gyfarwydd â syniadau ymchwil, safonau’r diwydiant, a thechnolegau o'r radd flaenaf.

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch wedi dysgu sut i asesu, nodi a datrys bygythiadau seiber ddiogelwch ar lefel broffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu rhoi sylw i anghenion busnes ochr yn ochr ag anghenion seiber ddiogelwch sefydliadau, a dylanwadu ar benderfyniadau busnes drwy gyfleu pwysigrwydd mesurau seiber ddiogelwch yn effeithiol i wahanol gynulleidfaoedd.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn meysydd pwnc perthnasol, megis Cyfrifiadura, TG neu Beirianneg Meddalwedd, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 1 Gorffennaf. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael. 

Broses ddethol
Ar ôl y dyddiad cau, bydd ceisiadau cyflawn yn cael eu hadolygu a'u rhestru. Bydd yr ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf yn cael cynnig.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd ar ffurf modiwlau a addysgir  yn ystod cam Diploma eich gradd. Mae yna chwe modiwl a addysgir, ac mae pob un yn werth 20 o gredydau.

Prosiect Meistr unigol (gwerth 60 o gredydau) fydd cam olaf eich gradd, a byddwch yn ei ysgrifennu ar ffurf traethawd hir, ar ôl y cam Diploma.  Cyflawnir y prosiect hwn yn ystod yr haf dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n cael ei ddilyn dros un flwyddyn academaidd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Fel myfyriwr amser llawn, byddwch yn cwblhau'r holl fodiwlau 20-credyd gofynnol i gyfanswm o 120 o gredydau yn ystod y cam a addysgir, ac yna byddwch yn gwneud prosiect traethawd hir 60-credyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf.

Cyflwynir modiwlau drwy ddysgu cyfunol. Caiff myfyrwyr eu tywys drwy weithgareddau dysgu sy'n briodol i fodiwl, a allai gynnwys:

  • sesiynau rhyngweithiol ar-lein wythnosol i weithio gyda myfyrwyr a staff eraill (e.e. ffrydio cyflwyniadau, trafodaethau, sesiynau gan ymarferwyr gwadd o fyd diwydiant, codio byw, cyfarfodydd tîm, sesiynau ymarferol dan oruchwyliaeth ac ymarferion labordy)
  • adnoddau ar-lein a gaiff eu cyflwyno i'r myfyrwyr, a fydd yn gallu gweithio drwyddynt ar eu cyflymder eu hunain (e.e. fideos, adnoddau gwe, e-lyfrau, cwisiau)
  • Sesiynau grwp bach wyneb yn wyneb (e.e. dosbarthiadau cymorth, sesiynau adborth, gweithgareddau ymarferol)

Rydym yn gwahodd darlithwyr gwadd o fyd diwydiant yn rheolaidd, ac rydym yn ymfalchïo yn y profiadau seiber ddiogelwch ymarferol a gynigir gennym. Mae ein partner o fyd diwydiant - PWC - yn cyfrannu at ddarparu dau fodiwl a addysgir, a goruchwylio traethodau MSc.

Bydd gan y mwyafrif o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau drwy gyfuniad o asesu gwahanol fathau o waith, gan gynnwys gwaith cwrs, arholiad, a chyflwyniadau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn cynnig amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.

Dyrennir tiwtor personol i chi ar ddechrau eich cwrs, sy'n aelod o staff academaidd yn yr Ysgol ac sy'n gweithio fel pwynt cyswllt er mwyn rhoi cyngor am faterion academaidd yn ogystal â phersonol mewn ffordd anffurfiol a chyfrinachol. Bydd eich tiwtor personol yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich Cynllun Datblygiad Personol.

Y tu allan i'r sesiynau a drefnir gyda'ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan ein huwch diwtor personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddynt godi.

Yn ogystal, mae'r rhaglen MSc hon yn cynnig cyfle unigryw i chi elwa ar fentora diwydiannol.

Byddwch yn cael adborth rheolaidd ar waith ffurfiannol a chrynodol drwy sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynwyd neu drwy gael atebion enghreifftiol a/neu drafod mewn sesiynau cyswllt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu'r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi'n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw'n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.

Mae deilliannau dysgu'r rhaglen hon isod:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Dadansoddi'n yn feirniadol ystod gynhwysfawr o broblemau seiber ddiogelwch cymhleth gan ddefnyddio ystod o wybodaeth am gysyniadau a therminoleg seiber ddiogelwch allweddol, llywodraethu a rheoli seiber ddiogelwch, asesu risg, datblygu systemau a rhaglenni diogel, dadansoddi maleiswedd a phrofion treiddio , fforenseg ddigidol a rhwydwaith.
  • Dadansoddi'n feirniadol a datrys ystod gynhwysfawr o broblemau seiber ddiogelwch cymhleth gan ddefnyddio gwybodaeth am ddiogelwch systemau cronfa ddata, diogelwch cwmwl, systemau gweithredu, a diogelwch systemau gweithredu.

Sgiliau Deallusol:

  • Gwerthuso'n feirniadol y dirwedd ddiogelwch mewn amgylchedd TG a sefydliadol, gan ddefnyddio syniadau gwreiddiol, ac atebion a dulliau priodol i gyflwyno'r achos dros ddatrysiad seiber ddiogelwch addas.
  • Defnyddio syniadau gwreiddiol, mentergarwch, a chyfrifoldeb personol wrth wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
  • Dewis (gyda chyfiawnhad) a defnyddio dulliau creadigol ar gyfer mynd i'r afael â materion cymhleth; gwneud penderfyniadau priodol pan nad oes data cyflawn ar gael.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Cynnal asesiadau risg a datblygu strategaethau a pholisïau diogelwch, gan gynnwys ystyried cyfluniadau diogelwch technegol, ffactorau dynol sy'n effeithio ar bolisïau diogelwch, ymatebion fforensig a monitro diogelwch, ac ystyried rolau a chyfrifoldebau proffesiynol ym maes seiber ddiogelwch.
  • Defnyddio ystod gynhwysfawr o dactegau effeithiol ar gyfer ymateb i fygythiadau seiber ddiogelwch, gwendidau, ac ymosodiadau mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol a systemau gweithredu.
  • Amddiffyn amgylcheddau TG sy'n seiliedig ar gwmwl, systemau cronfa ddata, a systemau gweithredu o wahanol fathau gan ddefnyddio ystod gynhwysfawr o dechnegau (gan gynnwys cyflunio amgylcheddau TG diogel sy'n seiliedig ar gwmwl, mynd i'r afael â diffygion cyffredin systemau gweithredu, a chaledu systemau gweithredu).
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau seiber ddiogelwch yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol i gynulleidfaoedd sy'n arbenigwyr ac i rai nad ydynt yn arbenigwyr.
  • Defnyddio ystod o ddulliau a thechnegau diogelwch (e.e. methodolegau asesu risg) gan fanteisio ar ystod eang o'r cysyniadau sylfaenol sy'n sail i ddatblygu systemau a chymwysiadau diogel.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn annibynnol, gan gymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Defnyddio sgiliau meddwl gwreiddiol, rhesymegol a dadansoddol ar gyfer problemau cymhleth.
  • Gweithio'n annibynnol i ddewis ac amddiffyn methodoleg, technegau ac offer ymchwil priodol.
  • Nodi bylchau yn yr ymchwil bresennol a phroblem seiber ddiogelwch ymarferol newydd y mae angen mynd i'r afael â hi.
  • Datblygu ac ysgrifennu adroddiad academaidd gwreiddiol yn cyflwyno dadl argyhoeddiadol sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth ddibynadwy.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £30,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein graddedigion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer rolau arwain ym maes seiber ddiogelwch, ac ar gyfer gyrfa mewn sefydliadau diwydiannol, masnachol neu lywodraethol sydd â chyfrifoldeb penodol am wybodaeth a seiber ddiogelwch, gan gynnwys rheoli seiber ddiogelwch ac asesu risg, diogelwch rhwydweithiau a diogelwch systemau gweithredu, profion treiddio ac ymchwiliadau fforensig.

Ymhlith y cyrchfannau gyrfa mae: rheolwr diogelwch gwybodaeth, rheolwr risg seiber ddiogelwch, rolau diogelwch technegol ym maes TG a fforenseg cyfrifiaduron, rolau rheoli hunaniaeth, datblygwr systemau diogel, ac ymchwil ddiwydiannol a phrifysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Computer science


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.