Ewch i’r prif gynnwys

Porwch drwy ein pynciau ôl-raddedig

Archaeoleg a chadwraeth

Archaeoleg a chadwraeth

Mae ein graddau ymarferol o fri yn cyflwyno’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wneud eich marc yn y sector treftadaeth, ynghyd â’r sgiliau cyflogadwyedd i ddilyn eich gyrfa mewn sectorau perthnasol.

Pensaernïaeth

Pensaernïaeth

Rydyn ni’n ysgol bensaernïaeth flaenllaw sy’n frwdfrydig dros greu amgylchedd adeiledig a fydd yn gwella bywydau pobl heb ddinistrio'r blaned ar draul cenedlaethau'r dyfodol.

Biowyddorau

Biowyddorau

Mae ein cyrsiau ôl-raddedig yn gweithio gyda'ch cryfderau fel gwyddonydd. Ni waeth a yw amgylchedd labordy'n well gennych neu ddysgu mewn darlithoedd, mae gennym gwrs ôl-raddedig at eich dant.

Busnes, rheoli a chyllid

Busnes, rheoli a chyllid

Cyfle i gael addysg a allai newid eich gyrfa gan arbenigwyr academaidd ac ymarfer blaenllaw a fydd yn eich herio i ystyried y byd busnes o safbwyntiau amgen.

Cemeg

Cemeg

Bydd ein cyrsiau yn eich helpu chi i ddatblygu eich addysg a chael effaith ar eich gyrfa yn y dyfodol. Boed yr yrfa honno mewn ymchwil academaidd neu ddiwydiannol, gofal iechyd, cynhyrchion fferyllol, cyfathrebu gwyddonol neu rywle arall, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau i weddu i'ch anghenion a'ch dyheadau gyrfaol.

Cyfrifiadureg a gwybodeg

Cyfrifiadureg a gwybodeg

Rydym yn ysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac rydym yn adnabyddus am addysgu rhagorol. Mae ein portffolio dynamig o raddau cyfoes yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd.

Deintyddiaeth

Deintyddiaeth

Gwireddwch eich potensial a dechrau eich taith broffesiynol drwy ymuno â’n hysgol arloesol sydd â naws deuluol.

Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Mae ein hôl-raddedigion yn cynnal ymchwil diddorol, sy'n aml yn hanfodol, i amrywiaeth eang o feysydd pwnc, a gyfoethogir gyda lefel uchel o weithgaredd ymchwil ac arbenigedd yn yr Ysgol.

Peirianneg

Peirianneg

Bydd ein hamrywiaeth o raddau a addysgir yn eich helpu i ddatblygu'r potensial i fod yn bencampwr diwydiant neu arweinydd yn y dyfodol, a bydd ein rhaglenni ymchwil yn eich galluogi i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil.

Saesneg iaith ac ieithyddiaeth

Saesneg iaith ac ieithyddiaeth

Ewch ati i archwilio ac ymchwilio i ffurf, swyddogaeth ac effaith cyfathrebu dynol ac iaith.

Llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol

Llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol

Ewch ati i fwynhau amrywiaeth llenyddiaeth Saesneg a dod o hyd i gysylltiadau ar draws diwylliant poblogaidd a theori, neu fireinio eich sgiliau Ysgrifennu Creadigol gyda’n hawduron proffesiynol.

Daearyddiaeth a chynllunio

Daearyddiaeth a chynllunio

Rydym yn ganolfan ryngwladol flaenllaw o ran addysgu ac ymchwilio ym maes cynllunio gofodol a daearyddiaeth ddynol.

Gwyddorau gofal iechyd

Gwyddorau gofal iechyd

Dewch i ddwysau eich dealltwriaeth, gwella eich sgiliau a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Hanes a hanes yr henfyd

Hanes a hanes yr henfyd

Bodlonwch eich chwilfrydedd am hanes a dyfnhau eich gwybodaeth o’r cysyniadau allweddol. Cyfunir hyn i gyd gyda’r posibilrwydd o archwilio treftadaeth, gweithredu cymunedol a lleoliadau gwaith.

Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi cynnig rhagoriaeth o ran addysgu a hyfforddi, a gallwn gyfuno hyn â phortffolio ymchwil rhagorol.

Y Gyfraith

Y Gyfraith

Ymunwch â'r unig brifysgol Grŵp Russell sy'n cynnig yr amrediad llawn o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ym maes y gyfraith.

Mathemateg

Mathemateg

Mae’r Ysgol Mathemateg yn cynnig amgylchedd bywiog a chefnogol i fyfyrwyr ôl-raddedig, gan gynnwys mathemateg bur a chymhwysol, gwyddor data a dadansoddeg, risg ariannol, ystadegau ac ymchwil weithredol.

MBA

MBA

Rhowch hwb i’ch gyrfa a pharatowch ar gyfer y cam mawr nesaf gydag MBA Caerdydd.

Meddygaeth

Meddygaeth

Ydych chi am ddatblygu eich gyrfa a gwella gofal cleifion? Rhagor o wybodaeth am sut i gael dealltwriaeth fwy dwfn, a gwella eich sgiliau drwy ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir.

Ieithoedd modern a chyfieithu

Ieithoedd modern a chyfieithu

Ymunwch ag un o'r ysgolion ieithoedd mwyaf deinamig yn y DU a dod yn rhan o'n cymuned fyd-eang gyfeillgar.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Datblygwch eich arbenigedd mewn astudiaethau perfformiad, cyfansoddi neu gerddoriaeth mewn cymuned gerddorol fywiog.

Therapi galwedigaethol

Therapi galwedigaethol

Rydym yn cynnig dwy raglen ôl-raddedig arloesol mewn Therapi Galwedigaethol.

Optometreg a gwyddorau’r golwg

Optometreg a gwyddorau’r golwg

Ni yw'r unig adran hyfforddi optometrig yng Nghymru ac mae gennym enw da o'r radd flaenaf am ein haddysg a’n hymchwil i wyddorau’r golwg.

Fferylliaeth a'r gwyddorau fferyllol

Fferylliaeth a'r gwyddorau fferyllol

Rydym yn un o ysgolion fferylliaeth a gwyddorau fferyllol gorau'r DU. Rydym yn falch o gael ein cydnabod yn fyd-eang am ragoriaeth ein hymchwil wrth ddatblygu gwybodaeth, datgelu darganfyddiadau sylweddol newydd o fudd i gymdeithas, a meithrin graddedigion hynod werthfawr, arloesol a mentrus sy'n addas ar gyfer ymarfer a chyflogaeth.

Athroniaeth

Athroniaeth

Cyfle i archwilio materion cyfoes diddorol, a chanolbwyntio ar bynciau sy’n flaenllaw ymhlith ein harbenigeddau.

Ffiseg a seryddiaeth

Ffiseg a seryddiaeth

Rydym ar flaen y gad o ran rhai o’r darganfyddiadau gwyddonol mwyaf cyffrous heddiw, a fydd yn cynnig amgylchedd ysbrydoledig i chi astudio ynddo.

Ffisiotherapi

Ffisiotherapi

Dewch i ddwysau eich dealltwriaeth, gwella eich sgiliau a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU, a 120 mlynedd o dreftadaeth gyfoethog.

Seicoleg

Seicoleg

Gyda rhagoriaeth gydnabyddedig mewn ymchwil ac addysgu, mae ein rhaglenni yn cynnwys set o fodiwlau a addysgir sy’n amrywiol ac a gynlluniwyd yn fanwl, yn ogystal â gweithgareddau ymchwil annibynnol ac ymarfer proffesiynol.

Radiograffeg

Radiograffeg

Dewch i ddwysau eich dealltwriaeth, gwella eich sgiliau a chymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Ymunwch â'n cymuned academaidd chwilfrydig, sy'n angerddol am astudio crefydd a diwinyddiaeth yng nghyd-destunau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Gwyddorau cymdeithasol

Gwyddorau cymdeithasol

Astudiwch radd ôl-raddedig wedi’i llywio gan yr ysgolheictod ddiweddaraf a’i haddysgu gan ymchwilwyr o fri rhyngwladol.

Cymraeg

Cymraeg

Cymuned fywiog a chroesawgar o academyddion a myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, llenyddiaeth, cymdeithas, diwylliant a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes ac yn rhyngwladol.