Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

Mae ein Canolfan Astudio Islam yn y DU wedi datblygu, a bellach dyma’r prif sefydliad academaidd ar gyfer ymchwil ac addysgu am Islam a Mwslemiaid ym Mhrydain, tra bod ein rhaglenni Diwinyddiaeth yn tynnu ar arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn Cristnogaeth, o adeg ei sefydlu i’r oes gyfoes.

academic-school

Staff arbenigol

Cewch eich addysgu gan ysgolheigion angerddol sy’n enwog am ansawdd ac effaith eu hymchwil.

star

Ein harbenigedd

Mae ein Canolfan Astudiaethau Islam yn y DU yn cyfuno’r ysgolheictod a’r ymchwil gorau yn y maes arbenigol pwysig hwn sy’n ehangu.

tick

Cyflogadwyedd

87% o'n graddedigion ôl-raddedig a addysgir mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Cyrsiau

Diwinyddiaeth (MTh)

Amser llawn, Rhan amser

Byddwch yn myfyrio’n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol mewn rhaglen sydd wedi’i dylunio i gefnogi datblygiad proffesiynol offeiriadaeth a phroffesiynau perthnasol eraill.

Ein fideos

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Cewch glywed gan academyddion a myfyrwyr am sut beth yw astudio crefydd gyda ni.

Mae astudio MA Islam ym Mhrydain Gyfoes wedi bod yn brofiad anhygoel a boddhaus. Rydw i wir wedi mwynhau dysgu o dan arweiniad yr ysgolheigion gorau ym maes Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig. Mae’r Ganolfan Islam-y DU yn llawn ysgolheigion anhygoel ac rydw i wedi ymwela ohonynt y tu fewn a’r tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth. Ochr yn ochr â’r elfen ddiddorol a addysgir, rydw i wedi mwynhau ymwneud â bywyd ehangach y Ganolfan; siaradwyr gwadd, prosiectau cymunedol ac amgylchedd gymdeithasol gynnes sydd wedi fy ngalluogi i ryngweithio â’r pynciau ymchwil diweddaraf ym maes Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig. Byddwn yn argymell yr MA yn gryf i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Mwslimiaid Prydeinig.
Hamzah Zahid MA Islam ym Mhrydain Gyfoes

Rhagor o wybodaeth amdanom ni

Angkor Wat

Myfyrio ac ymarfer diwinyddol

Mae ein rhaglenni Diwinyddiaeth wedi'u dylunio’n arbennig ar gyfer dilyn gyrfa mewn ymchwil neu addysg uwch a/neu rôl mewn gweinidogaeth ordeiniedig, caplaniaeth a'r proffesiynau gofal ac addysg cysylltiedig. I'r rhai sydd eisoes yn y weinidogaeth, maent yn eich galluogi i fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol. Gyda phum llwybr ar gael ac addysgu hyblyg, byddwch yn datblygu eich cymhwysedd deallusol a'ch sgiliau ymchwil, gan ddyfnhau eich ymarfer myfyriol a gwella eich gallu bugeiliol.

Female student in library

Meithrin gwell dealltwriaeth o Islam yn y gymuned ehangach

O astudio o fewn y brif Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU, byddwch yn cael y cyfle i ennill dealltwriaeth fanwl o eirfa gysyniadol a damcaniaethol sy’n ymwneud ag Islam ym Mhrydain. Sefydlwyd yr Ysgoloriaethau nodedig Jameel i alluogi’r myfyrwyr gorau i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd – y rhai hynny sydd â’r deallusrwydd a’r natur benderfynol i gymhwyso eu gwybodaeth er budd cymunedau Mwslimaidd yn y DU, a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Islam yn y gymuned ehangach.

A line of statues

Dilyniant PhD

Pa bynnag grefydd y byd sy'n cynnau eich diddordeb academaidd, bydd ein PhD/MPhil mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer gyrfa ymchwil lwyddiannus yn y byd academaidd, y cyfryngau, y sector cyhoeddus neu broffesiynau cysylltiedig.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school
book
icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Student working

Archaeoleg a chadwraeth

Mae ein graddau ymarferol o fri yn cyflwyno’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wneud eich marc yn y sector treftadaeth, ynghyd â’r sgiliau cyflogadwyedd i ddilyn eich gyrfa mewn sectorau perthnasol.

Student in a classroom

Hanes a hanes yr henfyd

Bodlonwch eich chwilfrydedd am hanes a dyfnhau eich gwybodaeth o’r cysyniadau allweddol. Cyfunir hyn i gyd gyda’r posibilrwydd o archwilio treftadaeth, gweithredu cymunedol a lleoliadau gwaith.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.