
Cymraeg
Cymuned fywiog a chroesawgar o academyddion a myfyrwyr sydd wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, llenyddiaeth, cymdeithas, diwylliant a hunaniaeth yn y Gymru gyfoes ac yn rhyngwladol.
Pam astudio gyda ni?
Mae ein MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a'n llwybrau PhD/MPhil yn eich galluogi i ymchwilio i'r berthynas rhwng llenyddiaeth, iaith, diwylliant a hunaniaeth o safbwynt rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol. Gallwch deilwra’r cynnwys yn ôl eich diddordebau yn unol â’n harbenigedd a byddwch yn dod yn rhan o gymuned ymchwil ac addysgu drawsnewidiol, heriol a dynamig.
Profiad proffesiynol
Byddwch yn elwa o gyfleoedd a hyfforddiant a fydd yn datblygu eich proffil proffesiynol a’ch sgiliau cyflogadwyedd.
Rhagoriaeth ymchwil
Yn 9fed ar gyfer effaith ein hymchwil ac yn 11eg ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil (Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth, REF 2021).
Astudio hyblyg
Astudiwch drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu gyfuniad o’r ddwy, a theilwra'r rhaglen yn unol â'ch diddordebau a’ch amcanion chi.
Cyrsiau
Gair gan ein myfyrwyr
Mae ehangder profiadau cadarnhaol ein myfyrwyr ôl-raddedig yn amrywio yn ôl eu cefndir, eu diddordeb penodol yn y Gymraeg ac ystod eu hamcanion. Yn y blogiau hyn gallwch ddarllen am sut y gwnaeth Osian ac Emma, ein graddedigion diweddar, greu profiad gradd unigryw iddynt eu hunain.
Dewisais astudio’r rhaglen MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd gan ei bod yn radd gyffrous, amrywiol a diddorol dros ben. Yr hyn rydw i wedi’i fwynhau fwyaf yw’r cyfle i brofi gwahanol agweddau ar y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd, o lenyddiaeth i ieithyddiaeth, ac o bolisi iaith i gymdeithaseg iaith. Mae astudio sosioieithyddiaeth, a dysgu am y ffactorau sy’n dylanwadu ar y ffyrdd rydym ni i gyd yn defnyddio’n iaith neu’n ieithoedd, wedi gwneud i mi feddwl yn wahanol am y ffyrdd rydw i’n defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg o ddydd i ddydd.
Eich profiad yng Nghaerdydd
Drwy roi'r cyfle i chi astudio pynciau arbenigol, datblygu prosiectau ac archwilio’r berthynas rhwng eich diddordebau ymchwil a gofynion y gweithle, bydd y radd hon yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi gyfrannu’n greadigol ac yn ymarferol at ein dealltwriaeth o iaith a diwylliant. Mae ein pwyslais ar ymateb i heriau cyfoes drwy ddatblygu arbenigedd ymchwil mewn astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, a’ch galluogi i ofyn cwestiynau ymchwil gwreiddiol a chynnig sylwadau a safbwyntiau newydd.

Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad John Percival ar gampws Parc Cathays. Ychydig funudau o Undeb y Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth y Brifysgol, a gallwch gerdded i ganol y ddinas o fewn 10 munud.
Rydym hefyd wedi ein lleoli y drws nesaf i Lyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n gartref i gasgliad o weithiau ac archifau perthnasol, gan gynnwys Casgliad Salisbury.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd MA
Bwrw golwg ar ein cyrsiau.
Gweld ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig
Edrych ar ein cyrsiau.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.