Prosesu Iaith Naturiol (MSc)
- Hyd: 1 year
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Nod y rhaglen hon yw datblygu eich galluoedd technegol yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o effeithiau moesegol a chymdeithasol delio â data testun.
Mae data testun yn ffynhonnell wybodaeth sylfaenol yn yr 21ain ganrif. Mae galw mawr am Brosesu Iaith Naturiol (NLP), y gangen o AI sy'n delio â'r math hwn o ddata, yn y byd academaidd a diwydiant.
Nod y rhaglen hon yw datblygu eich galluoedd technegol yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o effeithiau moesegol a chymdeithasol delio â data testun. Ar ben hynny, yn ogystal â thechnolegau Prosesu Iaith Naturiol (NLP) blaengar, bydd y cwrs hefyd yn pwysleisio agweddau ieithyddol y ddisgyblaeth, a thrwy hynny roi i chi set sgiliau unigryw o'r safbwyntiau peirianneg a churadu data.
Bydd graddedigion o'r rhaglen mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant NLP - gan gynnwys meysydd fel cyllid, amddiffyn, manwerthu, gweithgynhyrchu neu'r cyfryngau cymdeithasol. Bydd graddedigion sy'n rhagori yn y rhaglen hon wedi'u paratoi'n dda ar gyfer dechrau gyrfa ymchwil ym maes Deallusrwydd Artiffisial.
Nodweddion unigryw
- Dysgu mewn lleoliad unigryw lle caiff addysgu a dysgu eu harchwilio drwy setiau data a phroblemau'r byd go iawn, gyda mewnbwn gwerthfawr gan y diwydiant ar hyd y ffordd.
- Ymdriniaeth â thechnegau NLP yn ogystal â phrosesau curadu data gan dîm addysgu amlddisgyblaethol.
- Rhaglen a ddyluniwyd gan arbenigwyr byd-enwog o safon flaenllaw ryngwladol yn y maes.
- Caffael sgiliau NLP trosglwyddadwy y mae galw amdanynt mewn ystod eang o sectorau.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as computer science, computing, linguistics, mathematics or a cognate subject, or an equivalent international degree.
- or a university-recognised equivalent academic qualification.
If you have a 2:2 honours degree in computer science, computing, linguistics, mathematics or a cognate subject you may be invited to participate in a telephone or remote interview.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You may choose to supplement your application with:
- a detailed CV
- or any other supporting material you may consider to be appropriate.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn rhaglen dau gam a addysgir dros flwyddyn am gyfanswm o 180 credyd. Mae’r cam a addysgir yn werth 120 credyd, ac fe’i dilynir gan brosiect ymchwil gwerth 60 credyd. Mae’r modiwlau yn y cam a addysgir yn werth 20 credyd.
Prosiect unigol (gwerth 60 credyd) fydd cam thraethawd hir eich gradd, a byddwch yn ei ysgrifennu ar ffurf traethawd hir, wedi’r cam a addysgir. Cyflawnir y prosiect hwn yn yr haf, o dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Cam a addysgir
Byddwch yn astudio pedwar modiwl 20 credyd gorfodol i gyfanswm o 80 credyd ac yn dewis 40 credyd arall o blith rhestr o fodiwlau dewisol a ddewiswyd yn ofalus, gan astudio 60 credyd yn semester yr Hydref a semester y Gwanwyn, gydag un modiwl dewisol ym mhob semester.
Cam y Traethawd Hir
Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus byddwch yn mynd ymlaen i gam y traethawd hir ac yn cwblhau eich prosiect traethawd hir 60 credyd a gynhelir yn yr haf.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Machine Learning for NLP | CMT122 | 20 credydau |
Advanced Topics in NLP | CMT227 | 20 credydau |
Computational Data Science | CMT309 | 20 credydau |
Computational Linguistics | CMT318 | 20 credydau |
NLP Dissertation | CMT405 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Knowledge Representation | CMT117 | 20 credydau |
Distributed and Cloud Computing | CMT202 | 20 credydau |
Human Centric Computing | CMT206 | 20 credydau |
Automated Reasoning | CMT215 | 20 credydau |
Data Visualisation | CMT218 | 20 credydau |
Databases and Modelling | CMT220 | 20 credydau |
Principles of Machine Learning | CMT311 | 20 credydau |
Foundations of Statistics and Data Science | MAT022 | 20 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithgar sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf.
Defnyddir ystod amrywiol o dulliau addysgu a dysgu trwy'r MSc. Cyflwynir modiwlau drwy gyfres o naill ai sesiynau cyswllt diwrnod llawn neu hanner diwrnod, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a dosbarthiadau yn y labordy. Cyflwynir y rhain gan staff academaidd ac arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys aelodau o'r cyfleusterau Cyfrifiadura Ymchwil Uwch (ARCCA), a fydd yn canolbwyntio ar ddefnyddio caledwedd gyfrifiadurol perfformiad uchel ar gyfer NLP.
Bydd gan y mwyafrif o'ch modiwlau a addysgir wybodaeth bellach i chi ei hastudio a bydd disgwyl i chi weithio drwy hyn yn eich amser eich hun, yn unol â'r arweiniad gan y darlithydd ar gyfer y modiwl hwnnw.
Bydd ymarferion dosbarth ffurfiannol a labordy yn eich galluogi i ymarfer y sgiliau y byddwch yn eu dysgu, cael adborth ar eich cynnydd, a rhoi'r cymorth sydd ei angen arnoch i barhau i ddatblygu ymhellach
Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ac astudiaeth annibynnol i’ch galluogi i gwblhau eich traethawd estynedig. Gallwch awgrymu testun ar gyfer eich traethawd eich hun, neu gallwch ei ddewis o restr o opsiynau a gynigiwyd gan staff academaidd a phartneriaid diwydiannol, gan adlewyrchu eu diddordebau cyfredol. Bydd y dewis o brosiectau a fydd ar gael i chi yn cael eu cadarnhau yn ystod y cam dewis prosiect, a gallant ddibynnu ar y modiwlau y byddwch yn eu cymryd, ac argaeledd goruchwyliwr/partneriaid diwydiannol.
Pa gyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Gellir darparu tiwtora personol, asesiadau a seminarau yn Gymraeg.
Sut y caf fy asesu?
Asesir y modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen drwy ystod eang o asesiadau, megis aseiniadau ymarferol; adroddiadau ysgrifenedig; traethodau; ac arholiadau.
Gallai adborth am waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir, atebion 'enghreifftiol' a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.
Mae'r prosiect a'r traethawd hir unigol yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd yng nghamau cynharach y Rhaglen, ac yn eu galluogi i’w datblygu. Yn ogystal, mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos meddwl beirniadol a gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.
Ar ddechrau eich cwrs bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i chi sy’n aelod o staff academaidd yn yr Ysgol ac sy’n gweithio fel pwynt cyswllt er mwyn rhoi cyngor am faterion academaidd yn ogystal â phersonol mewn ffordd anffurfiol a chyfrinachol. Bydd eich tiwtor personol yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich Cynllun Datblygiad Personol.
Y tu allan i’r sesiynau a drefnir gyda’ch tiwtor, gweithredir polisi drws agored gan yr Uwch-diwtor Personol, ac mae ar gael i roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddynt godi.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Ar ôl cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
GD 1 mynegi pwysigrwydd curadu data yn systematig o ran llwyddiant dulliau NLP.
GD 2 adnabod ac adolygu'r cysyniadau a'r algorithmau allweddol sy'n sail i ddulliau NLP.
GD 3 gwerthuso priodweddau damcaniaethol gwahanol ddulliau NLP
GD 4 asesu'n feirniadol sut mae dulliau NLP yn dylanwadu ar lwyddiant tasg benodol
Sgiliau Deallusol:
SD 1 gweithredu a gwerthuso dulliau NLP i ddatrys tasg benodol
SD 2 esbonio a chyfleu'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i ddulliau cyffredin NLP
SD 3 gwerthuso'n feirniadol y goblygiadau moesegol a'r risgiau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â defnyddio dulliau NLP
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
SY 1 ffurfioli problemau'r byd go iawn mewn perthynas â dulliau NLP a ddewiswyd
SY 2 pennu'r dull NLP priodol (a'r strategaeth curadu data os oes angen) i fynd i'r afael ag anghenion lleoliad cais penodol
SY 3 Ymgymryd â phrosiect dadansoddi data testun NLP/dysgu peirianyddol/testun unigol nad yw'n ddibwys; diffinio nodau ac amcanion, dewis atebion a thechnegau priodol, cynnal gwerthusiad beirniadol o ganfyddiadau a chyfleu'r canlyniad yn glir
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
SA 1 gwerthuso ac asesu’n feirniadol eich gwaith eich hun a gwaith eraill drwy ddulliau ysgrifenedig a llafar
SA 2 cyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau cymhleth yn glir drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol, i ystod o gynulleidfaoedd
SA 3 ystyried a datblygu cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa
SA 4 astudio’n annibynnol, a myfyrio’n feirniadol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £27,500 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â'r rhaglen hon.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd graddedigion o'r rhaglen hon mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu gyrfaoedd fel gwyddonwyr data, peirianwyr dysgu peirianyddol, peirianwyr NLP a gwyddonwyr ymchwil. Bydd sgiliau technegol yn cael eu hategu â meddwl beirniadol, gwaith tîm ac ymwybyddiaeth amgylcheddol a moesegol, a fydd yn cael sylw yng nghyd-destun datblygu setiau data a modelau NLP. Ar ben hynny, trwy ryngweithio â darlithwyr gwadd o ddiwydiannau perthnasol, bydd myfyrwyr yn dod ar draws technolegau NLP o'r radd flaenaf sy'n barod ar gyfer cynhyrchu, a byddant yn gallu gweithio gyda setiau data'r byd go iawn. Mae'r addysgu a arweinir gan ymchwil y mae'r rhaglen yn ei gynnwys yn galluogi graddedigion i ddatblygu annibyniaeth dechnegol, meddwl beirniadol a sgiliau datrys problemau.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.