Ewch i’r prif gynnwys

Croeso cynnes

Mae Dr Jennifer Galloway, Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn yn eich croesawu i'r Ysgol Deintyddiaeth.

Ein Hysgol

Mae’r Ysgol wedi'i lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ar Gampws Prifysgol Caerdydd ym Mharc y Mynydd Bychan, ac mae'n rhannu'r safle gydag Ysbyty Athrofaol Cymru, yr ysbyty prifysgol mwyaf ond dau yng ngwledydd Prydain. Mae’r Ysgol yn elwa ar 100 acer o barcdir a chaeau chwarae cyfagos, ac nid yw ond dwy filltir o ganol y ddinas.

Er ei bod wedi’i lleoli mewn ysbyty mawr, mae cymuned glòs gan yr Ysgol, gyda phoblogaeth ôl-raddedig o oddeutu 50 o fyfyrwyr cofrestredig. Mae ystafelloedd ôl-raddedig pwrpasol ar gael at ddefnydd ein myfyrwyr. Mae gennym dîm ôlraddedig pwrpasol hefyd, sy’n eich cefnogi ac yn sicrhau eich bod teimlo’n gartrefol o’r diwrnod cyntaf un.

Mwynheais i’r cwrs yn fawr oherwydd natur groesawgar y goruchwylwyr a’r staff yn yr ysbyty. Oherwydd hyn, roedd yr amgylchedd gwaith yn brofiad rhagorol ar lefel bersonol a phroffesiynol fel ei gilydd. Mae’r holl brofiad anhygoel gyda chleifion yn golygu bod y rhaglen hon yn un o’r goreuon, heb os.
Masoumah Khuraibet Orthodonteg

Pam astudio gyda ni?

telescope

Cyfleusterau

Mae clinigau deintyddol o’r radd flaenaf ar gael ledled yr Ysgol, sy’n hwyluso addysgu o’r gadair ochr mewn amgylchedd proffesiynol a gofalgar. Mae gan ein labordai clinigol y dechnoleg CAD-CAM ddiweddaraf, a chyfleusterau argraffu tri dimensiwn ar gyfer prosthesisau mewneneuol. Cwblhawyd gwaith ailwampio gwerth £2.2 miliwn ar ein cyfleusterau addysgu cyn-glinigol (pennau ffug) hefyd yn ddiweddar.

location

Lleoliad

Rydym wedi ein lleoli ym mhrifddinas Cymru, ac ar ben hynny mae adeilad Ysbyty ac Ysgol Deintyddol y Brifysgol wedi'i leoli ar y campws gofal iechyd mwyaf yn y wlad, felly byddwch yn cael hyfforddiant mewn amgylchedd clinigol cyfannol o gychwyn cyntaf eich cwrs.

rosette

Ystadegau

Mae ein hystadegau’n dweud y cyfan! Rydym ymhlith y 3 gorau ar gyfer deintyddiaeth yn y DU yn ôl The Complete University Guide 2020 ac ymhlith y 50 gorau yn fyd-eang ar gyfer Deintyddiaeth yn ôl Rhestr Ryngwladol QS ar gyfer 2020.

certificate

Ymchwil

Barnwyd bod 100% o’r ymchwil a gyflwynwyd gennym o safon ryngwladol ac yn y safle 1af yn ei Uned Asesu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) mwyaf diweddar.

building

Cyswllt cleifion

Wedi’i lleoli yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, lle mae oddeutu 100,000 o gysylltiadau â chleifion bob blwyddyn – gyda 75% o’r rhain yn uniongyrchol berthnasol i hyfforddiant clinigol myfyrwyr.

molecule

Labordai pwrpasol

Mae lloriau uchaf yr Ysgol a’r Ysbyty Deintyddol yn gartref i’n labordai ymchwil pwrpasol, sy’n darparu mynediad at yr holl ddeunyddiau a’r offer sydd eu hangen i gynnal ymchwil biolegol, clinigol a throsiadol sy’n gystadleuol ar lefel rhyngwladol.

Cyrsiau

Bioleg y Geg (MSc)

Amser llawn

Nod yr MSc yw cynnig dealltwriaeth academaidd drylwyr o strwythur a bioleg meinweoedd y geg a chlefydau deintyddol.

Deintyddiaeth Glinigol (Endodontoleg) (MClinDent)

Amser llawn

Wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu sgiliau clinigol uwch i'ch galluogi i ddod yn fono-arbenigwr mewn Endodontoleg.

Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg) (MClinDent)

Amser llawn

Wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu sgiliau clinigol uwch i'ch galluogi i ddod yn fono-arbenigwr mewn Prosthodonteg sownd ac y gellir eu tynnu.

Gwyddor Mewnblannu (MSc)

Amser llawn

Mae'r cwrs hwn yn rhaglen academaidd a chlinigol a fydd yn arwain at MSc mewn Mewnblanoleg. Yn y rhaglen hon, mae myfyrwyr yn trin cleifion a ddarperir ar eu cyfer o dan oruchwyliaeth arbenigol. Mae myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y sbectrwm llawn o arfer mewnblaniad cyfoes lle y cynhelir pob math o impiadau meinwe meddal ac asgwrn.

Orthodonteg (MScD)

Amser llawn

Byddwch chi'n ennill y sgiliau y mae eu hangen arnoch i allu perfformio fel arbenigwr cymwys mewn Orthodonteg, gan ganolbwyntio ar y meysydd clinigol, damcaniaethol ac ymchwil angenrheidiol i ddarparu gofal priodol i gleifion.

Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol (MSc)

Amser llawn

Mae'r Rhaglen yn darparu hyfforddiant manwl yn y maes hwn o wyddoniaeth biofeddygol, gan gynnwys bioleg bôn-gelloedd, bioddefnyddiau a pheirianneg meinweoedd/organau.

Deintyddiaeth (PhD,MPhil) (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Ein prif amcan yw darparu prosiectau ymchwil rhyngwladol-gystadleuol, gan gynhyrchu ôl-raddedigion medrus a chystadleuol gyda rhagolygon gyrfa ardderchog yn y dyfodol.

Gwyddorau Biofeddygol a'r Geg (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae ein Gwyddorau Biofeddygol a’r Geg yn faes ymchwil lle gallwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

PhD gyda Chydran Glinigol (PhD)

Amser llawn

Cymerwch ran mewn ymchwil gyffrous a fydd yn llywio dyfodol gofal deintyddol, gan ddatblygu eich sgiliau gofal clinigol a gofal cleifion ar yr un pryd.

Ymchwil Glinigol Gymhwysol ac Iechyd y Cyhoedd (PhD, MPhil)

Amser llawn, rhan-amser

Mae Ymchwil Glinigol Gymhwysol ac Iechyd Cyhoeddus yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

Clywed yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud

Dewch i glywed yr hyn sydd gan ein myfyrwyr i'w ddweud am astudio rhaglen ôl-raddedig yn yr Ysgol Deintyddiaeth.

Astudio MSc Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol

Mae ein myfyrwyr yn trafod sut beth yw astudio Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol yn yr unig Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru. Mae'r MSc yn cyfuno modiwlau a addysgir a phrosiect ymchwil 5 mis y gallwch chi ei ddewis.

Astudio MSc Bioleg y Geg

Mae ein myfyrwyr yn trafod y profiad o astudio Bioleg y Geg yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r cwrs yn cynnig addysgu dan arweiniad ymchwil a thrafodaeth ar ficrobioleg a bioleg gellog y geg, sy'n eich galluogi i ddatblygu eich barn feirniadol.

Jhenelle - MClinDent Clinical Dentistry (Endodontology)

Hear from Jhenelle, a current MClinDent Clinical Dentistry (Endodontology) student, about what it's like to study at Cardiff University.

Shatha - MSc Bioleg y Geg

Clywch gan Shatha, myfyriwr graddedig MSc Bioleg y Geg, am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Azrul - MScD Orthodonteg

Clywch gan Azrul, myfyriwr graddedig MSc Orthodonteg, am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Saba - MClinDent Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg)

Clywch gan Saba, myfyriwr graddedig MClinDent Deintyddiaeth Glinigol (Prosthodonteg), am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Lisa - MSc Gwyddor Mewnblannu

Clywch gan Lisa, myfyriwr graddedig MSc Gwyddor Mewnblannu, am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Robert - MSc Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol

Clywch gan Robert, myfyriwr graddedig MSc Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol, am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Lujien - MSc Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol

Clywch gan Lujien, myfyriwr graddedig MSc Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol, am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yousif - MClinDent Deintyddiaeth Glinigol (Endodontoleg)

Clywch gan Yousif, myfyriwr graddedig MClinDent Deintyddiaeth Glinigol (Endodontoleg), am sut brofiad yw astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae MSc Mewnblanoleg Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwybodaeth eang am Fewnblanoleg adferol a llawfeddygol mewn awyrgylch cyfeillgar sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Mae’n brofiad bythgofiadwy a byddwn yn argymell y cwrs i bob deintydd! Sofia Paikou, Mewnblanoleg
Sofia Paikou Mewnblanoleg

Rhagor o wybodaeth

Bydd rhai cyrsiau'n hwyluso datblygiad proffesiynol a phersonol drwy ystod eang o brofiadau addysgol a phrofiadau clinigol uniongyrchol

Ein cyrsiau

Mae gennym ystod eang o gyrsiau meistr a addysgir sy’n cynnig llwybrau at arbenigedd clinigol ac at ddatblygu hyfforddiant ymchwil yn y gwyddorau biofeddygol a bywyd.

Tissue engineering and regenerative medicine is an inter-disciplinary research field, combining life sciences, biomaterials and engineering, with an aim to regenerate, repair or replace damaged and diseased cells, tissues or organs.

Ein hymchwil

Mae ein hymchwil fyd-enwog yn cynnig ffyrdd o wella iechyd a lles cymdeithas.

studentghana

Cydweithio rhyngwladol

Mae gan yr Ysgol Deintyddiaeth nifer o gydweithrediadau llwyddiannus gyda llawer o brifysgolion a phartneriaid diwydiannol ledled y byd

Ar ôl gorffen fy ngradd Bagloriaeth mewn Biocemeg yn Sbaen, ro’n i’n chwilio am faes mwy penodol a heriol. Megais ddiddordeb yn natblygiad meinwe drwy bioargraffu 3D, ac felly dewisais ganolbwyntio ar hyn. Roedd y cyfleusterau’n anhygoel, ac roedd y staff bob amser yn barod i helpu ac yn agored i gwestiynau a syniadau newydd. YByddwn yn argymell y cwrs yma i unrhyw un sydd â diddordeb mawr mewn ymchwil ac sy’n barod i ganolbwyntio ei yrfa ar faes sy'n prysur ddatblygu gan y bydd yn cynnig llawer o gyfleoedd
Gabriela Valásquez Díaz Peirianneg Meinweoedd a Meddygaeth Adfywiol

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Postgraduate students applying for a postgraduate loan

Ariannu eich astudiaethau

Mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau, pecynnau cymorth llywodraeth y DU, a’r benthyciadau i fyfyrwyr sydd ar gael ar eich cyfer.

Cegin (hygyrch)

Pori drwy ddewisiadau llety

Ddim yn siŵr pa lety i ddewis? Gall ein canllaw cymharu defnyddiol eich helpu i wneud penderfyniad.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school

Cymerwch olwg ar ein meini prawf derbyn

Ewch i’n tudalennau meini prawf derbyn i gael gwybodaeth am ofynion mynediad, gweithdrefnau dewis a throsglwyddiadau.

icon-contact

Lawrlwytho ein llyfryn

Manylion ein rhaglenni ôl-raddedig deintyddiaeth ar gyfer mynediad 2020/2021.

icon-pen

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.