Dadansoddi Data i’r Llywodraeth (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Datblygwch eich dealltwriaeth ddamcaniaethol, eich profiad ymarferol o wyddor data a’ch sgiliau dadansoddeg gan ganolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio dulliau dadansoddi data mewn llywodraeth a gwasanaeth cyhoeddus.
Wedi'i leoli yn yr Academi Gwyddor Data
Addysgir y cwrs hwn o fewn yr Academi Gwyddor Data ym Mhrifysgol Caerdydd, cyfleuster trawsddisgyblaethol sy'n seiliedig ar y diwydiant, sy'n addysgu ôl-raddedigion mewn gwyddor data, deallusrwydd artiffisial a seiberddiogelwch.
Datblygu sgiliau trosglwyddadwy
Byddwch yn meithrin sgiliau ym maes gwyddorau data a dadansoddeg, sy’n drosglwyddadwy, ac y mae mawr alw amdanynt mewn amrywiaeth eang o sectorau.
Elwa o arbenigedd amlddisgyblaethol
Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Yr Ysgol Mathemateg, ac o grwpiau ymchwil sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol sy'n arbenigo mewn defnyddio gwyddoniaeth data a dadansoddeg mewn aml i faes.
Mae’r rhaglen hon yn cael ei haddysgu gan arbenigwyr ym maes Ystadegau, Ymchwil Weithredol a Chyfrifiadureg, a bydd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol o gymhwyso dulliau sy’n deillio o wyddor data a dadansoddeg gan ganolbwyntio'n benodol ar eu cymhwyso o fewn y Llywodraeth a gwasanaeth cyhoeddus. Bydd hyn yn rhoi ystod o sgiliau y mae galw mawr amdanyn nhw i fyfyrwyr ar gyfer echdynnu a thrin ""data mawr"", darganfod a chyfleu patrymau ystyrlon o'r data, a defnyddio offer modelu i helpu busnesau a sefydliadau'r llywodraeth i wneud penderfyniadau gwell.
Mae’r rhaglen hon wedi’i llunio i ddiwallu anghenion hyfforddiant ac addysg barhaus y rhai sy'n gweithio gyda data mewn Llywodraeth.
Cynigir portffolio eang o fodiwlau er mwyn cydnabod yr ystod eang o ddiddordebau a chymwysiadau dadansoddeg data o fewn sefydliadau'r Llywodraeth a'r sector cyhoeddus. Mae arweiniad penodol yn cael ei gynnig i fyfyrwyr sydd ag awydd i ganolbwyntio ar themâu neu feysydd pwnc penodol.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Yr Ysgol Mathemateg
Mae ein graddau deallusol cyffrous wedi'u hachredu er mwyn cwrdd â gofynion addysgol enwebiad Mathemategydd Siartredig.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as mathematics, operational research, statistics, computer science, management science, economics, engineering or a suitable science degree, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
- or relevant professional experience evidenced by a reference. The reference must be from your employer to evidence that you currently work in an area relevant to the programme. This should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 6.0 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
You will also need to provide an academic or professional reference to support your application. Your referee should comment on your academic ability, work ethic, and general character. References should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau a addysgir ynghyd â modiwl prosiect ymchwil (60 credyd) yn yr Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Mae modiwlau craidd llawn sy’n dod i gyfanswm o 40 credyd, sy'n cwmpasu pynciau sylfaenol fel ystadegau, gwyddor data a chyfrifiadurol ac optimeiddio yn cael eu cyfuno ag 80 credyd ychwanegol o fodiwlau dewisol yn y cam a addysgir. Yna byddwch yn parhau i gwblhau'r prosiect ymchwil traethawd hir 60 credyd dros yr haf i gyflawni'r MSc llawn mewn Dadansoddeg Data ar gyfer y Llywodraeth.
Gall myfyrwyr sy'n chwilio am hyblygrwydd ddechrau drwy astudio'r modiwlau craidd fel unedau DPP annibynnol. Yna gallwch symud i'r rhaglen MSc lawn yn ddiweddarach a chael credyd am y modiwlau hynny ar sail dysgu blaenorol, gan eich galluogi wedyn i gwblhau gweddill y rhaglen MSc.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
A chithau'n fyfyriwr amser llawn, byddwch yn cwblhau'r holl fodiwlau a'ch prosiect traethawd hir yn ystod un flwyddyn academaidd, o fis Medi i fis Medi
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Data Science Foundations | CMT314 | 10 credydau |
Statistical Programming | CMT315 | 10 credydau |
Survey Fundamentals | MAT032 | 10 credydau |
Statistics in Government | SIT760 | 10 credydau |
Dissertation | MAT099 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyber Security and Risk Management | CMT116 | 20 credydau |
Distributed and Cloud Computing | CMT202 | 20 credydau |
Human Centric Computing | CMT206 | 20 credydau |
Data Visualisation | CMT218 | 20 credydau |
Databases and Modelling | CMT220 | 20 credydau |
Applied Machine Learning | CMT307 | 20 credydau |
Business Continuity and Transformation | CMT308 | 20 credydau |
Time Series and Forecasting | MAT005 | 10 credydau |
Supply Chain Modelling | MAT006 | 10 credydau |
Statistics and Operational Research in Government | MAT007 | 10 credydau |
Healthcare Modelling | MAT009 | 10 credydau |
Credit Risk Scoring | MAT012 | 10 credydau |
Foundations of Operational Research and Analytics | MAT021 | 20 credydau |
Foundations of Statistics and Data Science | MAT022 | 20 credydau |
Further Operational Research | MAT031 | 10 credydau |
Statistical Programming with R and Shiny | MAT514 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ymarferol a thiwtorialau. Cyflwynir y cynnwys a addysgir drwy gymysgedd o ddarlithoedd wyneb yn wyneb ac ar-lein drwy fideo, gydag amser cyswllt yn cael ei ddefnyddio i archwilio ac atgyfnerthu'r dysgu hwn ymhellach.
Bydd sgiliau rhaglennu a defnyddio pecynnau meddalwedd perthnasol yn cael eu haddysgu. Rydyn ni’n aml yn gwahodd arbenigwyr yn y diwydiant i roi cyflwyniadau, a byddech yn cael eich annog i ddod i’r cyflwyniadau hyn.
Sut y caf fy asesu?
Byddwn yn asesu eich cynnydd drwy gydol y cwrs. Gall yr asesiadau hyn fod ar ffurf papurau arholiad ysgrifenedig, aseiniadau mewn modiwlau, a thraethawd hir y prosiect, lle bydd gwybodaeth a chymhwysedd technegol yn cael eu gwerthuso. Gallwn hefyd ddefnyddio gwaith grŵp, cyflwyniadau llafar ac arddangosfeydd posteri i brofi sgiliau cyfathrebu, sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau datrys problemau.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr yn yr Ysgol Mathemateg a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.
Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau mathemategol a chyfrifiadureg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.
Byddwn yn rhoi copi i chi o'r Llawlyfr Myfyrwyr, sy'n cynnwys manylion polisïau a gweithdrefnau pob Ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddealltwriaeth newydd, gyda llawer o hyn ar flaen ein disgyblaeth academaidd, neu'n seiliedig arno.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i nodi dulliau priodol o ddatrys problemau mewn Dadansoddi Data i’r Llywodraeth.
- Dangos mentergarwch a chyfrifoldeb personol wrth wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
- Dulliau systematig a chreadigol ar gyfer delio â materion cymhleth; defnyddio barn gadarn yn absenoldeb data cyflawn.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Ysgolheictod uwch a phrofiad ymarferol mewn sgiliau rhaglennu, trin data a sgiliau echdynnu, dysgu peiriannol a sgiliau gwybodeg, a sgiliau datrys problemau a modelu.
- Y gallu i werthuso methodolegau a’u gwerthuso a, lle bo hynny'n briodol, i gynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Y gallu i gyfleu syniadau, egwyddorion a damcaniaethau yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol i gynulleidfaoedd sy’n arbenigwyr ac i rai nad ydyn nhw’n arbenigwyr.
- Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol.
- Y gallu i feddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Mae gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn y DU yn gymwys i astudio'r MSc amser llawn, blwyddyn o hyd, ar gyfradd ostyngol o £8,725. Bydd y ffi hon yn aros yr yn fath am gyfnod o ddwy flynedd academaidd - h.y. 2020-21 a 2021-22.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £28,000 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r Ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
- Gwaith copïo / argraffu heb fod yn angenrheidiol.
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd. Yr eithriad i hyn yw cost argraffu a rhwymo'r traethawd hir terfynol i'w gyflwyno. Mae’n rhaid i'r myfyriwr dalu am hyn.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â chyfrifiadur gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer lluniadu sylfaenol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd y sgiliau a enillwch yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer nifer o rolau i raddedigion yn y maes hwn.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.