Ieithoedd modern a chyfieithu
Ymunwch ag un o'r ysgolion ieithoedd mwyaf deinamig yn y DU a dod yn rhan o'n cymuned fyd-eang gyfeillgar.
Pam astudio gyda ni?
Gydag enw da rhyngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu, mae yma amgylchedd cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr fynd ar drywydd eu diddordeb mewn ieithoedd a diwylliant.
Ennill profiad hanfodol
Gallwch ddod yn fentor myfyrwyr gyda’n Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern neu fel llysgennad iaith dros Lwybrau at Ieithoedd Cymru.
Rhagoriaeth ymchwil
Yn 9fed ar gyfer effaith ein hymchwil ac yn 11eg ar gyfer ein hamgylchedd ymchwil (Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth, REF 2021).
Cymuned amrywiol
Rydym yn denu ystod eang o fyfyrwyr rhyngwladol ac o’r DU bob blwyddyn sy'n ffynnu yn ein hamgylchedd ôl-raddedig amrywiol.
Cyrsiau
Ein cyflwyniadau
Croeso i ddiwylliannau byd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae’r cyflwyniad diwrnod agored diwylliannau byd-eang hwn, gyda'r Athro David Clarke, yn rhoi trosolwg o'r rhaglen, yn egluro sut y byddwch chi'n cael eich asesu, yn cyflwyno'r arbenigwyr iaith a diwylliant a fydd yn eich dysgu chi ac yn trafod pa yrfaoedd allai ddilyn y radd hon.
Safbwynt myfyriwr
"Rwy'n dod o Wlad Belg, felly dim ond sector diwylliannol y wlad honno oedd yn gyfarwydd i mi mewn gwirionedd. Pan gyrhaeddais i Brifysgol Caerdydd sylweddolais i pa mor wahanol yw'r sector diwylliannol yng Nghymru.
"Ces i fy synnu gan yr amrywiaeth a'r cynhwysiant. Ar y rhaglen, buom ni’n edrych ar astudiaethau achos o fewn y diwydiannau diwylliannol, gan gynnwys ymweliad ag Opera Cenedlaethol Cymru a sgwrs gyda threfnydd Gŵyl Gwobr Iris.
"Cawsom ni gyfleoedd i gwrdd â llawer o bobl yng Nghaerdydd a helpodd fi i ddarganfod pa mor fywiog a chyfoethog yw'r sector diwylliannol yma."
Florence Gygax
Byd o bosibiliadau
Astudiwch yng nghanol dinas fywiog Caerdydd
Byddwch yn gweithio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhlas y Parc, sydd yng nghanol ein campws ac yng nghalon prifddinas Cymru. Cewch hyd i ni drws nesaf i orsaf drenau Cathays, Undeb y Myfyrwyr a phum munud ar droed o ganol y ddinas.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Gweld ein cyrsiau a addysgir ym maes ieithoedd modern a chyfieithu
Edrychwch ar ein holl gyrsiau ôl-raddedig.
Gweld ein cyrsiau ymchwil ym maes ieithoedd modern a chyfieithu
Edrychwch ar ein holl gyrsiau ôl-raddedig.
Cysylltu
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.