
Fferylliaeth a'r gwyddorau fferyllol
Rydym yn un o ysgolion fferylliaeth a gwyddorau fferyllol gorau'r DU. Rydym yn falch o gael ein cydnabod yn fyd-eang am ragoriaeth ein hymchwil wrth ddatblygu gwybodaeth, datgelu darganfyddiadau sylweddol newydd o fudd i gymdeithas, a meithrin graddedigion hynod werthfawr, arloesol a mentrus sy'n addas ar gyfer ymarfer a chyflogaeth.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-raddedig proffesiynol i fferyllwyr cymwysedig, ymarferwyr gofal iechyd a gwyddonwyr biofeddygol. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ymuno â'n cymuned glòs yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd.
Pam y dylech barhau â'ch astudiaethau gyda ni
Mwy na 100 mlynedd o ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwilio
Ysgol glòs a hirsefydlog ydyn ni ac yn ddiweddar dathlon ni ein canmlwyddiant.
Cydnabyddiaeth ryngwladol
Rydyn ni’n cael ein cydnabod yn rhyngwladol am ein haddysgu a’n hymchwil amlddisgyblaethol sydd ar flaen y gad ac o safon uchel.
Ysgol gyntaf ar y cyd y gwyddorau fferylliaeth a fferyllol ym maes ymchwil
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), ein ysgol fferylliaeth oedd yr ysgol orau ar y cyd o ran ansawdd ac effaith ein hymchwil.
Cefnogaeth academaidd gyson
Beth am ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn ysgol ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, a derbyn cefnogaeth academaidd gyson gan diwtor personol profiadol.
Cyfleusterau ymchwil ac addysgu modern
Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn eu plith mae chwe ystafell ymgynghori a adeiladwyd o’r newydd yn ddiweddar ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag ymarfer fferylliaeth.
Ein rhwydweithiau a'n dull amlddisgyblaethol
Mae ein hymchwilwyr a'u rhwydweithiau rhyngwladol yn gweithio ar draws timau amlddisgyblaethol, gan ganiatáu ichi weithio ar y cyd yn ystod eich amser gyda ni.
Cyrsiau
Ein sgyrsiau
Cyflwyniad i'n MSc mewn Bioleg Canser a Therapiwteg
Mae'r fideo hwn gan Gyfarwyddwr y Cwrs, Dr Steve Hiscox, yn darparu trosolwg o'r cwrs MSc amser llawn blwyddyn hwn sydd wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau uwch i chi ym maes Bioleg Canser a Therapiwteg. Felly, p'un a ydych chi'n bwriadu paratoi'ch hun yn well ar gyfer ymchwil doethuriaeth neu am gyflawni cymhwyster uwch hunangynhwysol, bydd y rhaglen ôl-raddedig hon yn eich rhoi mewn lle rhagorol ar gyfer eich dyfodol.
Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer ein MSc Bioleg Canser a Therapiwteg. (Saesneg)
Cyflwyniad i'n MSc mewn Ymchwil Glinigol (PCert/PDip/MSc)
Mae'r fideo hwn gan Gyfarwyddwr y Cwrs, Dr William Ford, yn rhoi cyflwyniad i'r rhaglen blaengar dysgu o bell ran-amser am 3 blynedd hon sy'n caniatáu hyblygrwydd i chi astudio wrth weithio. Wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau ymchwil rhagorol i ddatblygu gyrfa mewn ymchwil glinigol, mae'r cwrs hwn yn darparu gwell ddealltwriaeth o brosesau a rheoleiddio treialon clinigol. Mae'r cwrs hefyd yn cynnig mewnwelediad i'r ystod amrywiol o feysydd therapiwtig a'u triniaethau mewn perthynas â chofrestru cyffuriau a diogelwch cyffuriau.
Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer ein MSc Ymchwil Glinigol. (Saesneg)
Trosolwg o'r Cwrs Ymchwil Ôl-raddedig (PhD/Mphil)
Yn y fideo byr hwn, Dr Emma Lane, yn rhoi trosolwg o sut y gallwch chi ymgymryd ag ymchwil PhD gyffrous, arloesol yn ein Hysgol fywiog sy'n arwain y byd. Dysgwch sut mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn cwmpasu darganfod, datblygu a defnyddio meddyginiaethau a therapiwteg ar draws sbectrwm o afiechydon gan gynnwys canser, haint, anhwylderau cyhyrysgerbydol, cardiofasgwlaidd, anadlol a niwroddirywiol. (Saesneg)
Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer ein PhD / MPhil Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.
Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir ar gyfer fferyllwyr cymwys
Fferyllfiaeth Glinigol (PDip/MSc)
Yn gymhwyster allweddol blaengar ar gyfer datblygu eich gyrfa ym maes fferylliaeth glinigol, mae'r rhaglen ddysgu gyfunol ran-amser hon yn cynnwys dysgu wyneb yn wyneb, dysgu ar-lein ac astudio trwy brofiad. Mae'n cyfuno cwrs academaidd traddodiadol â'ch rôl feunyddiol, a'r nod yw meithrin medrau a gwybodaeth hanfodol i'w defnyddio er lles eich cleifion.
Oes diddordeb gyda chi? Ymgeisio am gwrs Diploma Ôl-raddedig Fferylliaeth Glinigol
Rhagnodi Annibynnol Fferyllydd
Nod y cwrs yw rhoi statws Rhagnodwr Annibynnol i alluogi fferyllwyr i ddefnyddio eu medrau yn y ffordd orau fel y bydd moddion ar gael i gleifion mor gyflym ac effeithlon ag y bo modd. Mae’r rhaglen ar gyfer nyrsys, bydwragedd a phroffesiynolion iechyd eraill hefyd, gan gynnig cyfle i bobl mewn gwahanol feysydd ddysgu gyda’i gilydd. Mae’r cwrs yn cynnwys cyfres o ddiwrnodau astudio, dysgu wrth eich pwysau, asesiadau ac amser o dan oruchwyliaeth ymarferwr iechyd dynodedig i baratoi portffolio rhagnodi.
Diddordeb? Gwneud cais ar gyfer Presgripsiynu Annibynnol Fferyllwyr
Diolch am drefnu cwrs mor rhagorol. Yn hawdd, y cwrs mwyaf pleserus a pherthnasol i mi ei wneud oedd e. Roedd yn wych gallu rhoi theori ar waith ar unwaith. Mae nid yn unig wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i mi ond hefyd wedi newid y ffordd rydw i'n ymarfer o ddydd i ddydd. Mae wedi adnewyddu fy mrwdfrydedd dros y proffesiwn ac am hyn rwy'n ddiolchgar iawn.
Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a gwyddonwyr biofeddygol:
Bywydeg Cancr a Therapiwteg (MSc)
Diben y cwrs hwn yw meithrin gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau uwch ym maes bywydeg cancr a therapiwteg, sy’n prysur ddatblygu. Byddwn ni’n rhoi ichi hyfforddiant eang a dwfn am gancr gan gryfhau eich gobeithion ynghylch dechrau neu gynyddu gyrfa ym maes gofal iechyd a sefydliadau ymchwil gwladol/preifat.
Boed ymbaratoi ar gyfer ymchwil ddoethurol neu ennill cymhwyster uwch, bydd y rhaglen hon i ôl-raddedigion yn rhoi ichi gyfuniad cytbwys o waith damcaniaethol ac ymarferol yn ôl natur eich anghenion a’ch gyrfa.
Mae'r cwrs gwirioneddol integredig hwn yn ymchwilio yn ddyfnach i'r wyddoniaeth y tu ôl i ganser ac mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi weld y clefyd a'i driniaeth o'r ochr glinigol hefyd. P'un a ydych chi'n Fferyllydd neu'n Fiomeddyg neu'n Feddyg, fe welwch rywbeth yn y cwrs hwn y byddwch chi'n ei fwynhau ac yn gallu uniaethu ag ef. Ac, fel fi, byddwch chi mewn gwell sefyllfa ar gyfer eich dyfodol hefyd.
Ymchwil Glinigol (MSc)
Os ydych chi’n ymwneud â threialon clinigol, bydd y rhaglen hon yn rhoi ichi wybodaeth, dealltwriaeth a medrau uwch ym maes ymchwil glinigol. Gan ei bod yn rhaglen ddysgu o hirbell, mae wedi’i llunio i’ch galluogi i’w chwblhau ochr yn ochr â’ch swydd a’ch cyfrifoldebau eraill.
Bydd y cwrs yn cryfhau eich gwybodaeth a’ch medrau ym maes ymchwil glinigol ac amrywiaeth helaeth o feysydd therapiwtig eraill. O ganlyniad, byddwch chi’n gallu symud yn hyderus rhwng meysydd therapiwtig i gynyddu’ch gwerth i gyflogwyr. Ym mlwyddyn eich traethawd hir, byddwn ni’n eich annog i gynnal prosiect a fydd o werth uniongyrchol i’ch cyflogwr.
Dysgu rhagor am gwrs MSc Ymchwil Glinigol a sut mae ymgeisio amdano
Cyfleoedd i ôl-raddedigion gynnal ymchwil
Ar gyfer doethuriaeth a gradd meistr, mae modd cynnal ymchwil mewn sawl maes megis cyflwyno cyffuriau a microbioleg, fferylliaeth feddygol, ffarmacoleg a ffisioleg, fferylliaeth, ymarfer fferylliaeth a fferylliaeth glinigol.
Mae’n hymchwilwyr a'u rhwydweithiau rhyngwladol yn gweithio ar draws timau amlddisgyblaethol, gan eich galluogi i weithio ar y cyd ar draws ysgolion gwahanol yn y Brifysgol ynghyd â phartneriaid yn y GIG a’r byd diwydiannol. Mae'r rhyngddisgyblaeth hon yn helpu ein hôl-raddedigion i lunio eu hyfforddiant meithrin gwybodaeth a medrau er eu gyrfaoedd.

Postgraduate research opportunities
Our postgraduate research degree focuses on the discovery, development and usage of medicines across a spectrum of disease areas, giving you the freedom to investigate a cutting-edge topic in depth amongst leading researchers with first-class facilities.

Ein hysgol
Rydyn ni'n canolbwyntio ar ddarganfod, datblygu a defnyddio cyffuriau a meddyginiaethau i fynd i’r afael â rhai o’r cyflyrau meddygol a chlefydau mwyaf gwanychol, marwol a heintus. At hynny, rydyn ni’n arwain y ffordd ynghylch creu dulliau newydd ac effeithiol o roi’r cyffuriau hynny i drin afiechyd yn well.
Mae’n hymchwilwyr byd-enwog, yn ogystal ag ymarferwyr arbenigol allanol, yn dysgu ein hôl-raddedigion ac yn ysgogi ymchwilwyr a chlinigwyr y dyfodol.
Os oes diddordeb gyda chi ynghylch dod aton ni ar gyfer astudio neu ymchwil ôl-raddedig, hoffen ni glywed gennych chi.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Lawrlwythwch ein Llawlyfr Ymchwil
Dysgu mwy am ein tîm, effaith ein gwaith ymchwil sy’n arwain y byd, a llwyddiannau ein myfyrwyr PhD.
Mwy amandanom ni
Mae ein prif dudalennau Ysgol yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol a rhesymau dros ddatblygu eich astudiaeth yng Nghaerdydd.
Cysylltwch
Cyflwynwch eich cwestiwn trwy ein ffurflen ymholiadau a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am y broses ymgeisio.