Mae ein hôl-raddedigion yn cynnal ymchwil diddorol, sy'n aml yn hanfodol, i amrywiaeth eang o feysydd pwnc, a gyfoethogir gyda lefel uchel o weithgaredd ymchwil ac arbenigedd yn yr Ysgol.
Mae ein cysylltiadau gyda busnesau ac asiantaethau'r llywodraeth yn sicrhau ansawdd a pherthnasedd ein cyrsiau.
Cynnwys y cyrsiau ar flaen y gad
Mae ein rhagleni gradd meistr yn mynd i’r afael â materion cyfoes ym meysydd yr amgylchedd, polisi ac ymchwil.
Enw da rhyngwladol
Ystyrir bod 100% o’n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, gan ein gosod yn 2il yn y DU am Systemau Daear a Gwyddorau Amgylcheddol (REF, 2021).
Roedd natur ymarferol y cwrs a’r dysgu trwy brofiad yn golygu fy mod, wrth adael a chychwyn ar fy swydd ‘go iawn’ gyntaf, nid yn unig yn teimlo’n barod i gyflawni’r tasgau dan sylw, ond hefyd fel petai gennyf fi eisoes brofiad o weithio yn y diwydiant.
Mae ffocws galwedigaeth i’n gradd MSc mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol ac mae’n darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth gydag chwmnïau ymgynghori geo-amgylcheddol a geo-dechnegol ac asiantaethau amgylcheddol y llywodraeth.
Mae’r cwrs proffesiynol hwn i raddedigion o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau'n cynnig trosolwg eang broblemau dŵr byd-eang a hyfforddiant mewn sgiliau allweddol ar newid yn yr hinsawdd a'r cylch dŵr, sy'n gynyddol angenrheidiol ar gyfer bod yn arweinydd dŵr.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ddatblygedig o beryglon amgylcheddol ac arbenigedd technegol wrth asesu risgiau, ac mae’n canolbwyntio ar y dulliau sydd eu hangen i ddadansoddi peryglon y gorffennol a rhagweld peryglon yn y dyfodol.
Mae ein graddau ôl-raddedig Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd yn seiliedig ar waith ymchwil annibynnol llawn amser, gyda goruchwyliwr academaidd i’ch llywio i ganfod meysydd catalysis newydd a chyffrous.
Ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir
Ddaeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc)
Mae Dr Peter Brabham yn esbonio popeth sydd angen i chi ei wybod am ein rhaglen radd â ffocws galwedigaethol mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol.
Dŵr mewn Byd sy’n Newid (MSc) a Peryglon Amgylcheddol (MSc)
Mae Dr Tristram Hales yn rhoi blas i chi o'r hyn i'w ddisgwyl ar ein dwy raglen gradd meistr newydd mewn Dŵr mewn Byd sy'n Newid a Pheryglon Amgylcheddol.
Mae safon ymchwil a chyfleusterau Prifysgol Caerdydd yn rhagorol, ac ar ôl cwblhau fy ngradd yma, roeddwn yn gwybod bod Caerdydd yn ddinas wych i fyw a gweithio. Yn ystod fy PhD rwyf wedi cael profiad academaidd gwerth chweil ac wedi mwynhau awyrgylch cefnogol gyda llawer o gefnogaeth.
O’r technegau dadansoddol diweddaraf i long ymchwil arfordirol, mae ein cyfleusterau’n cefnogi ymchwil a gweithgareddau addysgu ym mhob rhan o’r Ysgol.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan o’n holl arferion a gweithgareddau.
Effaith ymchwil
Rydym yn cydweithio â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i drosi ein harbenigedd ymchwil yn sbectrwm eang o gymwysiadau cymdeithasol a diwydiannol.