Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (MSc)
- Hyd: 2 flynedd
- Dull astudio: Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod
Cwrs trosi
Cwrs trosi yw hwn. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol na gradd benodol i'w astudio, ond bydd angen i chi ddangos diddordeb a dealltwriaeth o'r pwnc.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r radd MSc Peirianneg Meddalwedd yn cyflwyno cyfle i fyfyrwyr o gefndiroedd amrywiol mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad ymarferol sydd eu hangen i fod yn effeithiol fel peiriannydd meddalwedd masnachol.
Mae'r radd MSc Peirianneg Meddalwedd yn cyflwyno cyfle i fyfyrwyr o gefndiroedd amrywiol mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad ymarferol sydd eu hangen i fod yn effeithiol fel peiriannydd meddalwedd masnachol.
Mae cam addysgedig y rhaglen wedi'i leoli yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yng Nghasnewydd. Er y bydd gan fyfyrwyr rywfaint o wybodaeth raglennu flaenorol o bosib, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â datblygiad ymarferol gan ddefnyddio offerynnau a thechnegau masnachol blaenllaw cyfredol a byddant yn agored i gyfranogiad diwydiannol uniongyrchol mewn amgylchedd masnachol deinamig.
Mae’r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr, gan gynnwys rhaglennu ar gyfer cymwysiadau ar y we gan ddefnyddio ieithoedd megis Python, HTML a Javascript, a chronfeydd data, DevOps a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg. Ar hyd y radd rhoddir pwyslais ar weithio mewn tîm a defnyddio technegau Agile ar gyfer rheoli prosiectau.
Byddwch yn gwneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â thâl, ar ôl cwblhau'r elfen o'r rhaglen a addysgir. Bydd hyn yn darparu profiad gwaith gwerthfawr i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ym maes TG.
Ar ôl cwblhau cyfnod y lleoliad yn llwyddiannus byddwch yn symud i gam y traethawd hir. Byddwch yn gweithio gyda chleient go iawn o’r diwydiant ar brosiect cyffrous mewn tîm sy’n dod â’r holl wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u dysgu yn ystod y radd ynghyd.
Ar ôl graddio o'r rhaglen hon byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer sicrhau cyflogaeth mewn gyrfa ym maes peirianneg meddalwedd neu ar gyfer gyrfaoedd sy’n gofyn am ystod eang o sgiliau STEM.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.
Meini prawf derbyn
Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in engineering, mathematics or similar subject, or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification
- or relevant professional experience evidenced by a reference.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
A basic understanding of computer programming/coding is highly desirable.
You may choose to supplement your application with:
- a detailed CV
- or any other supporting material you may consider to be appropriate.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Rhaglen radd amser llawn dau gam yw hon a addysgir dros ddwy flynedd. Yn y cam a addysgir byddwch yn astudio modiwlau craidd i gyfanswm o 120 credyd.
Byddwch yn ymgymryd â lleoliad yn dilyn cam addysgedig y cwrs, sy'n werth 120 credyd. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dechrau eu lleoliad yn ystod tymor yr haf eu blwyddyn gyntaf.
Ar ôl cwblhau eich lleoliad yn llwyddiannus byddwch yn ymgymryd â phrosiect tîm a thraethawd hir (gwerth 60 credyd).
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Formal teaching and group sessions will typically take place over two days per week in Newport with three days per week left for group project work, self-directed learning and accessing other University resources, support services, clubs, societies etc.
Students at the National Software Academy work on the development of software projects, including that for a real client drawn from the private, public and third sectors. Much of the teaching, learning and assessment is based in the context of these projects.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Agile Software Development | CMT651 | 20 credydau |
Web Applications | CMT652 | 20 credydau |
Programming Principles and Practice | CMT653 | 20 credydau |
DevOps | CMT654 | 20 credydau |
Manipulating and Exploiting Data | CMT655 | 20 credydau |
Delivering User Experience | CMT656 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Your work placement will normally last between 7 and 12 months, usually taking place at the end of the taught phase of the course, before your final dissertation, allowing you to practice the new skills you have learned and apply the knowledge you have acquired, in the workplace.
You will return to university following successful completion of your work placement, normally at the start of the Summer the following year to undertake your team project and complete your dissertation.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dissertation (Team Project) | CMT690 | 60 credydau |
Placement | CMT305 | 120 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae gan yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, sy'n rhan o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, ffocws diwydiannol cryf a gweithgar, sy'n llywio ac yn cyfarwyddo'r holl addysgu. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf i fyfyrwyr.
Caiff sgiliau allweddol eu dysgu drwy sesiynau a arweinir gan ddarlithydd, sydd fel rheol yn cynnwys cyfran uchel o ddysgu ymarferol gan ddefnyddio’r offerynnau a’r technegau masnachol diweddaraf. Rhoddir cyfres o gysyniadau ac enghreifftiau i chi, ac yna byddwch yn cael eich herio ag un neu ragor o broblemau y gallwch gymhwyso eich sgiliau newydd iddynt.
Byddwch yn aml yn gweithio mewn timau i ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennych i ddod o hyd i atebion ar gyfer problemau yn y byd go iawn gan ddefnyddio dull dysgu sy’n seiliedig ar brosiectau. Neilltuir digon o amser ar gyfer mentora ar yr amserlen, sy’n ategu’r gwaith astudio annibynnol disgwyliedig (a sylweddol) sy’n ofynnol.
Darperir dysgu a chymorth pellach drwy Dysgu Canolog (Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd), ac anogir myfyrwyr hefyd i ymgysylltu â'r gymuned dechnoleg leol drwy gyfarfodydd a digwyddiadau rhwydweithio eraill.
Sut y caf fy asesu?
Asesir y modiwlau a addysgir o fewn y rhaglen drwy ystod o asesiadau, sydd fel arfer yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs, megis adroddiadau ysgrifenedig, portffolios, asesiadau wedi'u hamseru, traethodau estynedig, aseiniadau ymarferol a chyflwyniadau llafar.
Caiff y lleoliad ei asesu drwy bortffolio o waith gan gynnwys gwerthusiadau gan y cyflogwr, dogfennau mapio SFIA, adroddiad drafft ac adroddiad terfynol. Bydd hyn yn dangos sut rydych wedi datblygu eich sgiliau tra roeddech ar leoliad.
Bydd y prosiect tîm a'r traethawd hir yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd, a manteisio arnynt, er mwyn arddangos meddwl beirniadol a gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae'r Ysgol yn ymfalchïo ei bod yn cynnig strwythur cymorth cynhwysfawr fel bod cydberthnasoedd cadarnhaol rhwng myfyrwyr a staff. Bydd aelod staff yn cael ei ddyrannu’n diwtor personol i chi, a fydd yn bwynt cyswllt i gynghori ar faterion academaidd a phersonol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol.
Mae'r cwrs yn defnyddio Dysgu Canolog, Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, i ddarparu deunyddiau cwrs, a darperir gwybodaeth ychwanegol ar-lein.
Bydd arddull cyflwyno’r cwrs a’r ffocws ar brosiectau yn golygu eich bod yn derbyn cefnogaeth reolaidd gan staff academaidd a hefyd gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Er y bydd yr holl addysgu'n digwydd yng Nghasnewydd, byddwch yn cael eich annog i sefydlu eich hun yng Nghaerdydd er mwyn manteisio ar bopeth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, o ran y Brifysgol (Llyfrgelloedd, Neuaddau Preswyl, Undeb y Myfyrwyr ac ati) a'r ddinas yn ehangach.
Byddwch hefyd yn cael mynediad llawn i'r cyfleusterau cyfrifiadura 24 awr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Byddwch hefyd yn gallu defnyddio'r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol: http://www.cardiff.ac.uk/studentsupport/
Mae myfyrwyr yn gyfrifol am ddod o hyd i'w lleoliadau eu hunain, ond bydd Swyddog Lleoliadau'r Ysgol yn hysbysu myfyrwyr am gyfleoedd addas ar gyfer lleoliad. Bydd cyfres o weithdai, sgyrsiau a digwyddiadau rhwydweithio yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn i’ch helpu i ddod o hyd i leoliad addas. Yn ystod y lleoliad cewch eich cefnogi gan oruchwyliwr academaidd a fydd yn monitro eich cynnydd ac yn eich cynghori chi a'ch goruchwyliwr yn y gwaith ar asesu'r lleoliad.
Adborth:
Caiff myfyrwyr lawer o gyfleoedd am adborth yn ystod y sesiynau cyswllt. Byddwch yn cymryd rhan mewn rhoi adborth yn ystod gweithgareddau fel adolygiadau cod, ymarferion ôl-weithredol, a hunanasesu. Yn ogystal, byddwch yn derbyn adborth gan staff addysgu, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a rhanddeiliaid y prosiect, gan roi profiad i chi o'r adborth go iawn y gallech ddod ar ei draws pan fyddwch yn dod o hyd i waith.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.
Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y rhaglen hon i’w gweld isod:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dangos dealltwriaeth systematig o gysyniadau peirianneg meddalwedd cyffredinol, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.
- Dangos dealltwriaeth o'r dulliau, y technegau a'r offerynnau sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau meddalwedd.
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dadansoddi a gwerthuso materion cyfredol ym maes Peirianneg Meddalwedd yn feirniadol (e.e. o safbwynt cyfreithiol, proffesiynol, moesegol, a chymdeithasol).
- Gwerthuso'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael i ddewis y fethodoleg, yr offer a'r technegau mwyaf addas i'w defnyddio ym mhob cam o ddatblygu meddalwedd.
- Dadansoddi problemau cymhleth yn effeithiol, a nodi achosion ymyl, anghysondebau, problemau posibl, a materion eraill.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Dangos sgiliau dylunio a rhaglennu meddalwedd.
- Dylunio, gweithredu, profi, dadfygio a defnyddio cymhwysiad syml, diogel, sy'n seiliedig ar wybodaeth, gan ddefnyddio offerynnau priodol.
- Cymhwyso gwybodaeth a thechnegau peirianneg meddalwedd yn greadigol i ateb problemau cleientiaid yn y byd go iawn.
- Gweithio gydag amrywiaeth o blatfformau gan ddefnyddio ystod o ieithoedd, technolegau ac offerynnau.
- Dangos cymhwysedd fel gweithiwr proffesiynol TG fel rhan o'r Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
- Gweithio'n effeithiol mewn tîm i reoli prosiectau sy'n wynebu cleientiaid gan ddefnyddio offerynnau a thechnegau masnachol cyfredol i ddeall, nodi, cynllunio, amserlennu a rheoli prosiect datblygu meddalwedd masnachol ac olrhain y prosiect yn ystod ei gylch bywyd.
- Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau’n glir ar lafar, yn ysgrifenedig, drwy ddiagram ac yn ymarferol.
- Arddangos hunangyfeiriad, menter, proffesiynoldeb, barn feirniadol a sgiliau cynllunio wrth fynd i'r afael â phroblemau ym maes Peirianneg Meddalwedd a'u datrys gan ddefnyddio technolegau priodol.
- Defnyddio dulliau ymchwil i wella dysgu ymhellach, gan gymhwyso'r wybodaeth hon a ddysgwyd i ateb problemau penodol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Blwyddyn dau | £2,190 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £27,500 | £2,000 |
Blwyddyn dau | £2,190 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Cyflwynir rhan addysgedig y cwrs o safle'r Academi Meddalwedd Genedlaethol yng Nghasnewydd yn unig, a darperir cyfleusterau llawn a chymorth i fyfyrwyr. Darperir bwrsariaeth teithio i fyfyrwyr i dalu’r costau o deithio i Gasnewydd. Mae'r safle yng Nghasnewydd wedi'i leoli'n agos iawn at orsaf reilffordd Casnewydd.
Mae'r Ysgol yn annog myfyrwyr i dderbyn cyfleoedd lleoliad â chyflog yn unig. Fodd bynnag, mae angen i fyfyrwyr ystyried costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r lleoliad megis teithio a llety ac ati cyn derbyn lleoliad.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
As a student at the National Software Academy you will get many opportunities to meet and work with companies and build your industrial contacts. Skilled software engineers are in extremely high demand. This means the employment prospects for graduates in the computing and ICT industry are superb. You will be equipped with transferable skills that open doors to careers in many sectors.
In recent years, almost 90% of the School’s graduates were in employment or engaged in further study within six months of graduation. Recent statistics show that the vast majority of our graduates are following their chosen career paths in roles such as Software Engineer, Web Developer, Computer Programmer, Associate Software Developer, Business Analyst and Systems Development Officer. They go on to work for a companies including Airbus Group, Amazon, BBC, BT, Capgemini, Confused.com, GCHQ, IBM, Lloyds Banking Group, MoD, Morgan Stanley, Sky, South Wales Police and Thomson Reuters. Others have chosen further study or research at Cardiff or other top universities.
In addition to the University’s Careers and Employability Service for students, the School has a Careers Officer and a dedicated Placement Officer.
Lleoliadau
Byddwch yn gwneud cais am leoliad gwaith proffesiynol 7-12 mis â thâl, y byddwch yn ymgymryd ag ef ar ôl cwblhau cam a addysgir y rhaglen.
Er y byddwch yn gyfrifol am ddod o hyd i'ch lleoliad eich hun, bydd yr Ysgol yn rhoi cyngor ar wneud cais am leoliadau, eich hysbysu’n rheolaidd am amrywiaeth o gyfleoedd gan gynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau rhwydweithio, ac yn sicrhau eich bod yn derbyn cymorth ac arweiniad drwy gydol y broses gyfan gan ein swyddog cymorth lleoliadau pwrpasol. Os na allwch sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r fersiwn o'r rhaglen nad yw lleoliad yn rhan ohoni.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Computer science
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.