Peirianneg Adeileddol (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae creu adeiladau modern yn waith cymhleth sy’n gofyn am sgiliau proffesiynol mewn sawl disgyblaeth. Mae'r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant uwch mewn dadansoddi, dylunio ac adeiladu strwythurau mewn amrywiaeth o ddeunyddiau.
Diwylliant ymgysylltiol
Rydym yn cynnig diwylliant agored ac ymgysylltiol rhwng ein myfyrwyr a'n staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac sy’n cynllunio a chyflwyno'r cwrs hwn.
Cysylltiadau a phrosiectau diwydiant
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys mewnbwn diwydiannol drwy ddarlithwyr gwadd, a chewch gyfle i gwblhau prosiect a arweinir gan ymchwil.
Pwyslais cryf ar ymchwil
Byddwch yn dysgu mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil, gyda'r cyfle i ymgymryd â'ch prosiect mewn amgylchedd llwyddiannus sy'n seiliedig ar ymchwil gyda mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi eich gwaith.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Mae’r cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg. Mae’n diwallu’r gofynion academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf israddedig achrededig CEng i gydymffurfio â gofynion cofrestru llawn CEng.
Mae'r cwrs MSc hwn yn cynnig i chi'r wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer gyrfa fel peiriannydd strwythurol ymgynghorol yn y maes proffesiynol arbenigol hwn sy'n perthyn i beirianneg sifil. Mae wedi’i gynllunio i ddarparu datblygiad proffesiynol ôl-raddedig arbenigol ar draws meysydd dylunio mewn dur, concrid a phren, dynameg strwythurol a mecaneg strwythurol. Bydd yn rhoi i chi ddealltwriaeth wyddonol, dechnegol a masnachol gadarn o faterion ac arferion sy'n ymwneud â pheirianneg strwythurol, a bydd hefyd yn eich hyfforddi ynghylch dulliau ymchwil ym maes peirianneg er mwyn datblygu ystod o sgiliau cysylltiedig y gellir eu trosglwyddo. Bydd yn trafod natur amrywiol peirianneg strwythurol drwy integreiddio gwybodaeth o feysydd mecaneg, deunyddiau, dadansoddi strwythurol a dylunio strwythurol. Byddwch yn ennill sgiliau lefel uwch newydd mewn theori ac ymarfer peirianneg sy'n gysylltiedig â rheoli heriau peirianneg strwythurol.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Peirianneg
Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.
Meini prawf derbyn
A 2:2 honours degree in Civil, Structural or Architectural Engineering or a similar field from a UK university, or an equivalent international degree qualification. If you have relevant industrial experience we will give your application individual consideration.
Entry to courses in Engineering will be subject to the University requirements for English language.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno fel rhaglen lefel Meistr amser llawn dros flwyddyn, ac mae hefyd ar gael yn rhan-amser dros dair blynedd.
Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam:
- Yng Ngham 1 byddwch yn dilyn modiwlau a addysgir, gwerth 120 credyd, gydag ychydig o ddewis rhwng modiwlau dewisol.
- Mae Cam 2 yn cynnwys modiwl Traethawd Hir gwerth 60 credyd.
Cynhelir asesiad crynodol ar ddiwedd pob cam (neu bob blwyddyn os yw'n rhan-amser).
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Steel Structures | ENT507 | 10 credydau |
Numerical Techniques in Structural Engineering | ENT515 | 10 credydau |
Professional Engineering Studies | ENT521 | 10 credydau |
Dynamics | ENT570 | 10 credydau |
FE Theory and Practice | ENT603 | 10 credydau |
Advanced Structural Mechanics | ENT700 | 10 credydau |
Engineering Case Study | ENT725 | 20 credydau |
Structural Engineering | ENT742 | 10 credydau |
Environmental Building Studies | ENT743 | 10 credydau |
Dissertation (Civil, Structural, Geoenvironmental, Water) | ENT509 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Big Data and AI in Civil Engineering | ENT680 | 10 credydau |
Theoretical Soil Mechanics | ENT714 | 10 credydau |
Building and Infrastructure Information Modelling | ENT768 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Defnyddir ystod eang o arddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau enghreifftiol. Rhaid i bob myfyriwr gwblhau 120 o gredydau yng Ngham 1 er mwyn symud ymlaen i'r traethawd hir, a bryd hynny bydd goruchwyliwr yn cael ei ddyrannu i’r myfyrwyr o blith y staff addysgu. Fel arfer, dewisir pynciau traethawd hir o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol, er eich bod yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer prosiect.
Sut y caf fy asesu?
Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr neu ym mis Mai. Mae arholiadau'n cyfrif am 60%-70% o'r asesiad yng Ngham 1 y rhaglen, yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd, a'r gweddill yn waith prosiect a darnau o waith cwrs yn bennaf.
Mae angen cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, sef y Traethawd Hir, a chael marc o 50% neu uwch er mwyn cael MSc. Gellir dyfarnu Rhagoriaeth i ymgeiswyr sy’n cael marc o 70% ar gyfartaledd. Gellir dyfarnu Teilyngdod i ymgeiswyr sy’n cael marc o 60% ar gyfartaledd. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i ennill cymhwyster MSc gael Diploma Ôl-raddedig ar gyfer y 120 credyd yng Ngham 1. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau’r 120 credyd angenrheidiol ar gyfer Cam 1 fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig am gyflawni o leiaf 60 credyd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Bydd y tiwtor personol yn eich gweld yn gynnar yn y rhaglen, ac yna yn ôl yr angen. Ar gyfer cam y traethawd hir, byddwch yn cael goruchwyliwr yn y maes ymchwil perthnasol, a dylech ddisgwyl cwrdd â’r goruchwyliwr yn rheolaidd.
Yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n cael eu darparu’n ganolog gan Brifysgol Caerdydd, bydd myfyrwyr ag anghenion penodol yn cael eu cefnogi yn ôl yr angen.
Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu â myfyrwyr, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.
Adborth
Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Fel myfyriwr ar y rhaglen MSc hon mae'r sgiliau y byddwch yn eu hymarfer a'u datblygu fel a ganlyn:
Gwybodaeth a dealltwriaeth
- Deall natur amlddisgyblaethol peirianneg strwythurol a'r angen i integreiddio gwybodaeth o ystod o ddisgyblaethau peirianneg wrth reoli heriau peirianneg strwythurol.
- Dangos dealltwriaeth fanwl o egwyddorion nodweddion dur a phren a'u cymhwyso mewn codau dylunio.
- Mynd ati i gymharu’n feirniadol y dull peirianneg a mathemategol o ymdrin ag elastigedd.
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o nifer o gyfansoddion sy'n seiliedig ar sment a defnyddio mecaneg toriadau wrth ddylunio concrit.
- Deall yr achosion a'r technegau ar gyfer dadansoddi symudiad strwythurol a chysylltu'r rhain â dyluniad adeiladau.
- Deall sail dulliau gwahaniaeth cyfyngedig elfennau cyfyngedig a chymhwyso'r dulliau i broblemau strwythurol 2D.
- Dangos gwybodaeth sydd ar flaen y gad o ran ystod o ddisgyblaethau a ddewisir; peirianneg strwythurol, geodechnegol, amgylcheddol a phriffyrdd a rheoli peirianneg.
Sgiliau deallusol
- Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu a datrys heriau peirianneg strwythurol, yn aml heb fawr o wybodaeth ac o bosibl, gwybodaeth anghyson.
- Delio â materion peirianneg strwythurol cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
- Bod yn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Adolygu cefndir problem peirianneg strwythurol yn feirniadol a llunio rhaglen o waith i fynd i'r afael â'r mater.
- Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol mewn peirianneg strwythurol yn systematig, sy'n cynnwys bod yn wreiddiol wrth gymhwyso gwybodaeth ac arfer barn peirianneg feirniadol.
- Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
- Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect unigol.
- Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.
Sgiliau ymarferol
- Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau peirianneg strwythurol.
Sgiliau trosglwyddadwy
- Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Rheoli adnoddau ac amser.
- Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Nid oes angen unrhyw offer penodol ar gyfer y cwrs hwn.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae cofnod cyflogaeth graddedigion y cwrs hwn yn wych, ac mae'r rhan fwyaf o raddedigion yn ymuno ag ymgyngoriaethau peirianneg.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Structural engineering, Civil engineering, Engineering
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.