Ynni Cynaladwy a'r Amgylchedd (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Yng nghanol cyflwyniad technolegau amgylcheddol ac ynni newydd, nod y cwrs hwn yw hyfforddi graddedigion sy’n gallu gweithio ar draws rhyngwyneb disgyblaethau traddodiadol a bod yn effeithiol mewn amgylchedd amlddisgyblaethol cynyddol.
Guest lectures
Teaching on the course will be complemented by guest lectures given by industrial professionals.
Research project
Students will complete a major individual research project where they will apply project-specific engineering principles.
Wide-ranging modules
This course offers a wide range of optional modules to choose from.
Employable skills
This course is designed to provide the technical and managerial skills needed by industry, academia and the public sector.
Professional accreditation
This course is accredited by the Institution of Mechanical Engineers and the Energy Institute on behalf of the Engineering Council as meeting the requirements for Further Learning for registration as a Chartered Engineer. Candidates must hold a CEng accredited undergraduate first degree to comply with full CEng registration requirements.
Mae newid yn yr hinsawdd, defnydd byd-eang o ynni a'r defnydd o danwydd ffosil i roi gwres, pŵer a chludiant i ni, yn heriau peirianneg sydd angen mynd i'r afael â hwy nawr ac yn y dyfodol. Mae’n amlwg y bydd angen graddedigion sy’n gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n dod yn fwyfwy amlddisgyblaethol er mwyn cael atebion i’r problemau hirdymor hyn - gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y ffordd orau.
Bydd y cwrs hwn yn cynnig yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd ei hangen arnoch o ran ynni cynaliadwy ac effaith amgylcheddol systemau ynni.
Mae’r cwrs yn anelu at wneud y canlynol:
- Creu arbenigwyr ôl-raddedig sy'n gallu dangos meistrolaeth ar sbectrwm eang o egwyddorion peirianneg uwch a'u defnyddio i ddatrys problemau technolegol, ariannol, rheoleiddiol, rheolaethol a moesegol go iawn y mae'r proffesiwn Ynni Cynaliadwy ac Amgylcheddol yn eu hwynebu, ac sydd â'r sgiliau i fod yn weithwyr proffesiynol allweddol yn y diwydiant ehangach, y proffesiynau ac mewn gwasanaeth cyhoeddus.
- Creu ôl-raddedigion sydd â dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a dealltwriaeth o’r newydd, sydd ar flaen y gad o ran Systemau Ynni Cynaliadwy a'r Amgylchedd.
- Helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy'n berthnasol i'w ymchwil neu ysgolheictod uwch.
- Creu unigolion all ddangos gwreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth, a dealltwriaeth ymarferol o sut mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth ym maes Ynni Cynaliadwy a Systemau Amgylcheddol.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Peirianneg
Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.
Meini prawf derbyn
A 2:2 honours degree from a UK university or an equivalent international degree qualification. If you have relevant industrial experience we will give your application individual consideration.
Suitable for graduates in engineering, mathematics, environmental engineering, earth sciences, pure sciences or a related discipline. Good mathematical skills are an advantage.
English langage requirements: IELTS 6.5 overall with 5.5 in all subskills or equivalent.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno fel rhaglen lefel Meistr yn rhan-amser dros ddwy flynedd, ac mae hefyd ar gael fel rhaglen amser llawn dros flwyddyn.
Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam: Yng Ngham 1 mae myfyrwyr yn dilyn modiwlau a addysgir, gwerth 120 credyd, gydag ychydig o ddewis rhwng modiwlau dewisol. Mae Cam 2 yn cynnwys modiwl Traethawd Hir gwerth 60 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Energy Management | ENT747 | 10 credydau |
Energy Studies | ENT763 | 10 credydau |
Fuels and Energy Systems | ENT765 | 20 credydau |
Sustainable Energy and Environment Case Study | ENT766 | 30 credydau |
Dissertation: Sustainable Energy and Environment | ENT737 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Earth and Society | ART222 | 10 credydau |
Low Carbon Footprint | ART225 | 10 credydau |
Environmental Fluid Mechanics | ENT602 | 10 credydau |
Theory and Applications of the Finite Element Method | ENT641 | 10 credydau |
Advanced Power Systems and High Voltage Technology | ENT707 | 10 credydau |
Risk and Hazard Management in the Energy Sector | ENT721 | 10 credydau |
Condition Monitoring, Systems Modelling and Forecasting | ENT726 | 10 credydau |
Alternative Energy Systems | ENT739 | 10 credydau |
Thermodynamics and Heat Transfer 1 | ENT745 | 10 credydau |
Thermodynamics and Heat Transfer 2 | ENT746 | 10 credydau |
Waste Management and Recycling | ENT761 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Defnyddir ystod eang o ddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Bydd gofyn i chi fynychu astudiaethau mewn darlithoedd, labordai a thiwtorialau yn ystod y semester, ac ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol yn ddiweddarach.
Er bod modiwl 10 credyd yn cynrychioli cyfanswm o 100 awr o astudio, fel arfer bydd hyn yn cynnwys 24-36 awr o amser cyswllt gyda staff addysgu. Bwriedir i'r oriau sy'n weddill fod ar gyfer astudio’n breifat, gwaith cwrs, adolygu ac asesu. Felly disgwylir i bob myfyriwr dreulio cryn dipyn o amser (20 awr yr wythnos fel arfer) yn astudio'n annibynnol.
Ar ddechrau Cam 2, byddwch yn cael goruchwyliwr prosiect. Fel rheol, caiff pwnc y traethawd hir ei ddewis o blith amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd mewn ymgynghoriad â phartneriaid diwydiannol, a hynny ym meysydd ymchwil presennol neu ddiddordeb diwydiannol fel arfer. Rydych hefyd yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer prosiect.
Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu â myfyrwyr, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.
Sut y caf fy asesu?
Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr neu ym mis Mai. Mae arholiadau'n cyfrif am draean i hanner yr asesiad yng Ngham 1 y rhaglen, yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd, a'r gweddill yn waith prosiect a darnau o waith cwrs yn bennaf.
Mae angen cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, sef y Traethawd Hir, a chael marc o 50% neu uwch er mwyn cael MSc. Gellir dyfarnu Teilyngdod i ymgeiswyr sy'n cyflawni 60% a Rhagoriaeth i’r rhai sy’n cyflawni 70% ar gyfartaledd. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i ennill cymhwyster MSc gael Diploma Ôl-raddedig Addysg Uwch ar gyfer y 120 credyd yng Ngham 1. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau’r 120 credyd angenrheidiol ar gyfer Cam 1 fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig Addysg Uwch am gyflawni o leiaf 60 credyd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Bydd y tiwtor personol yn cwrdd â chi yn gynnar yn y rhaglen, ac yn ôl yr angen wedi hynny. Ar gyfer cyfnod y traethawd hir, bydd myfyrwyr yn cael goruchwyliwr ym maes perthnasol eu gwaith ymchwil, a dylent ddisgwyl cwrdd â’r goruchwyliwr yn rheolaidd.
Yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n cael eu darparu’n ganolog gan Brifysgol Caerdydd, bydd myfyrwyr ag anghenion penodol yn cael eu cefnogi yn ôl yr angen.
Adborth
Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Fel myfyriwr ar y rhaglen MSc hon byddwch yn ymarfer ac yn datblygu'r sgiliau canlynol:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Deall natur amlddisgyblaethol astudiaethau amgylcheddol ac ynni cynaliadwy, a'r angen i integreiddio gwybodaeth o amrywiaeth o ddisgyblaethau peirianneg wrth reoli heriau ynni cynaliadwy.
- Defnyddio cyfreithiau gwyddonol sylfaenol sy'n sail i weithredu ystod eang o systemau ynni adnewyddadwy ac anadnewyddadwy pwysig, a hynny mewn modd priodol.
- Cydnabod a gallu defnyddio perthnasoedd a thechnegau rheoli ynni sylfaenol ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd penodol.
- Esbonio a chyflwyno gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag arfarnu ac asesu prosiectau ynni.
- Esbonio rôl yr asiantaethau sy'n plismona gwahanol sectorau'r amgylchedd.
- Cymharu a gwrthgyferbynnu'r gwahanol heriau a gyflwynir yn sgil llygredd lleol a byd-eang.
- Amlinellu strwythur fframwaith rheoleiddio'r DU ar gyfer rheoli risg a pheryglon sy'n berthnasol i systemau ynni cynaliadwy, a gallu esbonio ei esblygiad, ei gryfderau a'i wendidau.
- Esbonio’r dulliau a ddefnyddir mewn diwydiant ar gyfer nodi, mesur a lliniaru risgiau a pheryglon.
- Dangos gwybodaeth sydd ar flaen y gad o ran amrywiaeth o ddisgyblaethau amgylcheddol ac ynni cynaliadwy, o blith: thermodynameg, trosglwyddo gwres, modelu hydro-amgylcheddol, cynaliadwyedd, systemau ynni amgen, ôl troed carbon isel, monitro cyflwr, modelu a rhagweld.
Sgiliau Deallusol
- Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu a datrys heriau amgylcheddol ac ynni cynaliadwy, yn aml heb fawr o wybodaeth ac o bosibl, gwybodaeth anghyson.
- Delio â materion amgylcheddol ac ynni cynaliadwy cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
- Bod yn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Adolygu cefndir problem systemau ynni cynaliadwy yn feirniadol a llunio rhaglen o waith i fynd i'r afael â'r mater.
- Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol ym maes amgylcheddol ac ynni cynaliadwy yn systematig, sy'n cynnwys bod yn wreiddiol wrth gymhwyso gwybodaeth ac arfer barn peirianneg feirniadol.
- Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
- Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect unigol.
- Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.
Sgiliau Ymarferol
- Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau amgylcheddol ac ynni cynaliadwy.
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Rheoli adnoddau ac amser.
- Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.
- Llunio adolygiad cryno o lenyddiaeth.
- Defnyddio offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn effeithiol, gan gynnwys taenlenni, proseswyr geiriau, systemau cronfa ddata a'r Rhyngrwyd.
- Gweithio'n effeithiol mewn grŵp tuag at gyflawni nodau a thargedau penodol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae graddedigion fel arfer yn cael swyddi gyda chwmnïau mawr sy'n canolbwyntio ar ynni, yn y sector cyhoeddus, mewn ymgyngoriaethau, ym maes ymchwil a datblygu, neu maen nhw'n sefydlu eu cwmnïau eu hunain. Mae nifer yn ymgymryd ag astudiaethau PhD hefyd.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Engineering, Environmental science, Sustainability
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.