Peirianneg Sifil a Geoamgylcheddol (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i ddarparu datblygiad proffesiynol ôl-raddedig arbenigol yn y ddisgyblaeth newydd a chynhwysol hon, sy’n cydnabod na ellir datrys nifer o heriau amgylcheddol gan ddefnyddio un ddisgyblaeth draddodiadol yn unig. Mae'r rhaglen yn cwmpasu meysydd traddodiadol mewn peirianneg sifil, gwyddorau daear a bioleg.
Diwylliant ymgysylltiol
Rydym yn cynnig diwylliant agored ac ymgysylltiol rhwng ein myfyrwyr a'n staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac sy’n cynllunio a chyflwyno'r cwrs hwn.
Dysgu trawsddisgyblaethol
Mae'r cwrs yn cynnwys partneriaeth arloesol rhwng Yr Ysgolion Peirianneg, Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd a’r Biowyddorau.
Cysylltiadau a phrosiectau diwydiant
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys mewnbwn diwydiannol drwy ddarlithwyr gwadd, a chewch gyfle i gwblhau prosiect a arweinir gan ymchwil.
Addysgu ymarferol
Caiff materion ymarfer proffesiynol eu hintegreiddio â sylfaen wyddonol a pheirianneg y rhaglen radd drwy gyfres o gyrsiau hyfforddi byr ar ffurf gweithdai sy'n ymdrin ag agweddau ymarferol.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Mae’r cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg. Mae’n diwallu’r gofynion academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf israddedig achrededig CEng i gydymffurfio â gofynion cofrestru llawn CEng.
Mae'r MSc hwn yn cynnig yr wybodaeth a'r arbenigedd y mae arnoch eu hangen i'ch helpu i greu gyrfa fel peiriannydd geoamgylcheddol ymgynghorol mewn tîm amlddisgyblaethol proffesiynol. Mae'r cwrs wedi'i greu er mwyn darparu datblygiad proffesiynol ôl-raddedig arbenigol yn y ddisgyblaeth hon sy'n dod i'r amlwg. Mae'n cynnwys y meysydd traddodiadol sy'n perthyn i beirianneg sifil, gwyddorau'r ddaear a bioleg.
Mae peirianneg geoamgylcheddol yn ddisgyblaeth gynhwysol sy'n cydnabod nad oes modd datrys nifer o heriau amgylcheddol drwy un ddisgyblaeth draddodiadol yn unig. Mae'r atebion i heriau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â rhyngweithiad dynol â dŵr daear, wyneb a phridd yn golygu bod yn rhaid i beirianwyr feddu ar ystod eang o wybodaeth ac arbenigedd. Mae MSc mewn Peirianneg Sifil a Geoamgylcheddol Prifysgol Caerdydd yn eich paratoi i ymateb i'r heriau hyn.
Mae peirianneg sifil, gwyddorau'r ddaear a gwyddorau bywyd i gyd yn rhan o ddisgyblaeth peirianneg geoamgylcheddol. Mae peirianwyr geoamgylcheddol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys rheoli tir halogedig, hydroddaeareg, rheoli adnoddau dŵr, dadansoddi geocemegol, rhagfynegi cludiant a thynged dŵr daear a dŵr wyneb o ran halogi, asesu effeithiau amgylcheddol, asesu risg amgylcheddol a rheoli cynefinoedd. Mae peirianwyr geoamgylcheddol yn gweithio ar ddatblygiadau ac mewn timau prosiect amlddisgyblaethol yn aml.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Peirianneg
Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:2 honours degree in architectural, civil, geotechnical, or structural engineering, or an equivalent international degree
- a 2:2 in Mechanical Engineering from ENSAM/Paris Technicalor
- or relevant industrial experience evidenced by a reference.
Applicants with a degree in biosciences or earth sciences may be considered on a case-by-case basis.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau a addysgir yn semester yr hydref a'r gwanwyn, ac yna prosiect ymchwil unigol.
Mae'r rhaglen radd ar gael ar sail amser llawn dros un flwyddyn neu ar sail ran-amser dros dair blynedd. Caiff y rhaglen amser llawn ei darparu dros ddau semester a addysgir wedi'u dilyn gan gyfnod ymchwilio a llunio traethawd hir. Mae'r MSc hwn yn bartneriaeth rhwng yr Ysgol Peirianneg, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear, y Môr a'r Planedau ac Ysgol y Biowyddorau, ac mae'r cwrs yn cael ei weinyddu gan yr Ysgol Peirianneg.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r adran a addysgir yn eich cwrs yn Rhan 1, bydd yn rhaid i chi gyflawni prosiect ymchwil unigol yn un o feysydd arbenigol peirianneg geoamgylcheddol, a fydd yn arwain at lunio traethawd hir.
Bydd y gwaith prosiect yn cael ei wneud dan oruchwyliaeth uniongyrchol aelod o staff yn un o'r tair adran sy'n cymryd rhan.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Industrial Practice | ENT512 | 10 credydau |
Professional Engineering Studies | ENT521 | 10 credydau |
Environmental Fluid Mechanics | ENT602 | 10 credydau |
Environmental Policy and Regulation | ENT620 | 10 credydau |
Engineering Case Study | ENT725 | 20 credydau |
Flood Design | ENT750 | 10 credydau |
Soil and Groundwater Chemistry | ENT752 | 10 credydau |
Waste Management and Recycling | ENT761 | 10 credydau |
Dissertation (Civil, Structural, Geoenvironmental, Water) | ENT509 | 60 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Numerical Techniques in Civil Engineering | ENT501 | 10 credydau |
Big Data and AI in Civil Engineering | ENT680 | 10 credydau |
ENVIRONMENTAL GEOTECHNICS | ENT682 | 10 credydau |
Theoretical Soil Mechanics | ENT714 | 10 credydau |
Coastal and Estuarine Engineering | ENT767 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae Rhan 1 eich cwrs yn cynnwys dosbarthiadau a addysgir fel darlithoedd, sesiynau labordy a thiwtorialau. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr rhyngwladol blaenllaw ym meysydd peirianneg sifil a geoamgylcheddol.
Un o nodweddion y rhaglen MSc hon mewn Peirianneg Sifil a Geoamgylcheddol yw'r gyfres o gyrsiau hyfforddi byr ar ffurf gweithdai sy'n ymwneud â defnydd ymarferol ac sy’n integreiddio ymarfer proffesiynol â sylfaen wyddonol a pheirianyddol y cwrs. Caiff y gweithdai hyn eu darparu gan ymarferwyr proffesiynol cydnabyddedig yn y diwydiant.
Sut y caf fy asesu?
Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr neu ym mis Mai. Mae arholiadau'n cyfrif am 60%-70% o'r asesiad yng Ngham 1 y rhaglen, yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd, a'r gweddill yn waith prosiect a darnau o waith cwrs yn bennaf.
Mae angen cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, sef y Traethawd Hir, a chael marc o 50% neu uwch er mwyn cael MSc. Gellir dyfarnu Rhagoriaeth i ymgeiswyr sy’n cael marc o 70% ar gyfartaledd.
Gellir dyfarnu Teilyngdod i ymgeiswyr sy’n cael marc o 60% ar gyfartaledd. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i ennill cymhwyster MSc gael Diploma Ôl-raddedig ar gyfer y 120 credyd yng Ngham 1. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau’r 120 credyd angenrheidiol ar gyfer Cam 1 fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig am gyflawni o leiaf 60 credyd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd arbenigwyr yn eu maes yn eich goruchwylio yn ystod eich prosiect a’ch traethawd hir, a bydd gennych fynediad at gyfleusterau ymchwil yr Ysgol.
Adborth
Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a dealltwriaeth
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, dylech allu:
- Deall natur amlddisgyblaethol peirianneg geoamgylcheddol a'r angen i integreiddio gwybodaeth o beirianneg sifil, gwyddorau'r ddaear a gwyddorau biolegol wrth reoli heriau peirianneg geoamgylcheddol.
- Dangos ymwybyddiaeth o arwyddocâd data daearegol, geocemegol, hydrolegol a biolegol mewn rheoli geoamgylcheddol.
- Dangos ymwybyddiaeth o'r materion gwyddonol, technegol, cyfreithiol a masnachol sy'n effeithio ar ymarfer peirianneg geoamgylcheddol;
- Disgrifio'r technegau a ddefnyddir i nodweddu llif dŵr daear a dyfroedd wyneb.
- Disgrifio a modelu'r prif brosesau geocemegol sy'n effeithio ar symudedd halogyddion yn y ddaear a'u rôl o ran effeithio ar ansawdd dŵr daear a dyfroedd wyneb.
- Disgrifio biota dŵr wyneb a phrosesau biolegol, ac effeithiau halogyddion ar ecoleg dyfroedd wyneb.
- Creu modelau mathemategol a rhifiadol o lif dŵr daear a chludiant halogyddion dŵr daear.
- Dewis dulliau priodol ar gyfer ymchwilio i halogyddion yn y ddaear, mewn dŵr daear ac mewn dyfroedd wyneb a’u hasesu, eu rheoli a’u lliniaru.
Sgiliau Deallusol
- Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu a datrys heriau peirianneg geoamgylcheddol, yn aml heb fawr o wybodaeth ac o bosibl, gwybodaeth anghyson.
- Delio â materion peirianneg geoamgylcheddol cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
- Bod yn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Adolygu cefndir problem peirianneg geoamgylcheddol yn feirniadol a llunio rhaglen o waith i fynd i'r afael â'r mater.
- Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol mewn peirianneg geoamgylcheddol yn systematig, sy'n cynnwys bod yn wreiddiol wrth gymhwyso gwybodaeth ac arfer barn peirianneg feirniadol.
- Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
- Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect unigol.
- Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.
Sgiliau Ymarferol
-
Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau peirianneg geoamgylcheddol.
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Rheoli adnoddau ac amser.
- cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae cofnod cyflogaeth graddedigion MSc mewn Peirianneg Sifil a Geo-amgylcheddol Prifysgol Caerdydd yn ardderchog. Ymuno ag ymgyngoriaethau peirianneg mae'r rhan fwyaf yn ei wneud. Mae nifer fach o raddedigion yn parhau i astudio ymhellach bob blwyddyn - PhD fel arfer.
Mae'r cyfraniad diwydiannol sylweddol i elfen dylunio a darparu'r cwrs yn sicrhau perthnasedd barhaus yr MSc o ran paratoi ar gyfer gwaith proffesiynol yn y maes hwn.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Civil engineering, Earth sciences, Engineering, Environmental science, Sustainability
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.