Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Amser llawn gyda blwyddyn ryngosod

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y radd hon yw cynhyrchu arbenigwyr ôl-raddedig gydag arbenigedd hanfodol mewn peirianneg electronig a microdon, a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod defnyddio sy’n tyfu ar gyfer y technolegau hyn.

Bydd y cwrs hwn, sy'n rhoi'r cyfle i chi dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant, yn eich helpu i ennill gwybodaeth lefel uwch a sgiliau allweddol a fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon sy'n tyfu'n gyflym. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau technegol, deallusol ac ymchwil a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd a’ch cymhwysedd cyffredinol ym maes peirianneg, ac yn darparu llwyfan ardderchog i chi ar gyfer datblygu eich gyrfa, boed hynny yn y diwydiant neu ym maes ymchwil academaidd.

Bydd y cwrs hwn, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, yn rhoi cyfle i chi:

  • Datblygu eich arbenigedd mewn meysydd newydd peirianneg microdon — a meysydd sy'n esblygu — gan gynnwys cyfathrebiadau symudol a chymwysiadau meddygol microdonnau.
  • Canolbwyntio ar feysydd sy'n cynnwys uwch-ddylunio drwy gymorth cyfrifiadur, mesuriadau a nodweddu a pheirianneg systemau cyfathrebu.
  • Ymdrin â gwaith yn y labordy ac uwch reolaeth peirianneg ochr yn ochr â modiwlau mewn peirianneg amledd radio, saernïo a phrofi lefel uwch, systemau cyfathrebu uwch a Chysyniadau a Dylunio RF Aflinol.
  • Datblygu arbenigedd ym meysydd micro a nano-dechnoleg ac optoelectroneg.
  • Gwella eich sgiliau ymarferol ac ymchwil drwy fynd ar leoliad diwydiannol naill ai gyda phartner diwydiannol neu sefydliad arall addas, a fydd yn cynnwys elfen ymchwil sylweddol a phrofiad amhrisiadwy fel gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant.

Nodweddion unigryw

This industry-focussed course has a number of special features which include:

  • The opportunity to learn in a research-led teaching institution, taught by staff in one of the highest ranked university units in the 2014 Research Excellence Framework (REF).
  • The opportunity to work in modern facilities commensurate with a top-class research university.
  • The opportunity for students to learn in an environment graded as Silver in the first TEF assessment, meaning that the University “consistently exceeds rigorous national quality requirements for UK higher education”.
  • The participation of research-active staff in programme design and delivery.
  • MSc teaching complemented by guest lectures given by industrial professionals.
  • An industrial placement which enables the programme to meet the Bologna requirements for a Master’s programme length of 2 years.
  • Specialist academic support from your designated MSc Tutor during your programme.
  • A research group atmosphere where students are able to enhance each other’s learning and become a vital part of our research community.

Upon graduation, you will have the training, advanced level skills and hands-on industrial experience you need to gain employment in this fast-growing field, and will have a distinct edge when applying for PhD studentships or employment in industry.

Achrediadau

The MSc course materials were diverse, covering the basic principles as well as niche topics that are key in industry, and position the postgraduate at an ideal starting level. I consider myself extremely lucky to work with such knowledgeable people who helped fulfil my eagerness to learn.
Dr Zaid Aboush, MSc Wireless and Microwave Communication Engineering

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc gradd perthnasol megis peirianneg gyfathrebu, technoleg cyfathrebu, peirianneg drydanol neu electronig neu beirianneg ddi-wifr, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir y cwrs fel rhaglen lefel Meistr amser llawn dros ddwy flynedd a dau gam. Yn ystod Cam 1, mae myfyrwyr yn dilyn dau semester o fodiwlau a addysgir sy’n werth 120 o gredydau. Mae Cam 2 yn cynnwys lleoliad diwydiannol am 8 mis, a fydd yn arwain at gyflwyno portffolio o waith, gwerth cyfanswm o 120 credyd (dau fodiwl 60 credyd).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Cyflwynir y cwrs fel rhaglen lefel Meistr amser llawn dros ddwy flynedd. Ym Mlwyddyn 1 (Cam 1) mae myfyrwyr yn dilyn dau semester o fodiwlau a addysgir sy’n werth 120 o gredydau.

Yn ystod semester y Gwanwyn cewch eich cefnogi i wneud cais am leoliadau, yn ogystal â chynhyrchu a thrafod cynnig prosiect ymchwil er mwyn paratoi ar gyfer eich blwyddyn ar leoliad.

Caniateir i fyfyrwyr sy'n cwblhau 120 o gredydau ar ddiwedd Cam 1 i fynd ymlaen i Gam 2.

Blwyddyn dau

Bydd Blwyddyn 2 yn cynnwys y lleoliad diwydiannol a'r traethawd hir. Mae'r Ysgol Peirianneg yn disgwyl i'r lleoliad bara am tua 8 mis fel arfer. Yn ystod eich lleoliad gwaith bydd eich Goruchwyliwr Prosiect Academaidd yn ymweld â chi o leiaf unwaith, ond ddwywaith yn ddelfrydol, os ydych chi wedi eich lleoli yn y DU. Byddwch yn cyflwyno portffolio a thraethawd ymchwil ar ddiwedd y lleoliad gwaith.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o ddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd rhan mewn astudiaethau labordy a thiwtorial yn ystod semester yr hydref a’r gwanwyn yng Ngham 1. Byddwch hefyd yn gallu datblygu syniadau ar gyfer eich prosiect ymchwil unigol.

Ar ddechrau Cam 2, bydd Goruchwyliwr Prosiect Academaidd a Goruchwyliwr Gweithle yn cael eu neilltuo i chi. Fel rheol, caiff pwnc y traethawd hir ei ddewis o blith amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd ac fe’u negodir mewn ymgynghoriad â phartneriaid diwydiannol, a hynny ym meysydd ymchwil presennol neu ddiddordeb diwydiannol fel arfer. Byddwch yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer prosiect, yn unol ag anghenion y partner diwydiannol.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy arholiadau, gwaith cwrs ysgrifenedig, ynghyd â thraethawd hir unigol terfynol, a phortffolio 60 credyd yr un.

Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr ac ym mis Mai. Bydd eich arholiadau'n cyfrif am 60-70% o'ch asesiad yng Ngham 1 y rhaglen, a'r gweddill yn waith prosiect ac elfennau o waith cwrs i raddau helaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau eich rhaglen, bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Ar gyfer y flwyddyn ar leoliad, bydd Goruchwyliwr Prosiect Academaidd yn cael ei neilltuo i chi yn y maes ymchwil perthnasol.

Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu â myfyrwyr, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Defnyddio egwyddorion Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon i ddylunio, gweithredu a rheoli systemau sy'n gallu casglu, trin, dehongli, cyfosod, cyflwyno ac adrodd ar ddata.
  • Dewis a defnyddio offer datblygu system TG briodol ar gyfer tasg benodol. Mae enghreifftiau o offer perthnasol yn cynnwys y rhai a ddefnyddir mewn ymchwil gyfredol i systemau amledd microdon a radio, cymwysiadau electromagnetig, systemau cyfathrebu a pheirianneg meddalwedd.
  • Gwerthuso sut mae diwydiant yn ymwneud ag ymchwil a datblygu ac yn ymgysylltu â hynny.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Disgrifio'r camau sy'n gysylltiedig â gwireddu is-system gyfathrebu microdon di-wifr allweddol - gan gynnwys nodweddu a mesur, modelu, dylunio drwy gymorth cyfrifiadur, optimeiddio, saernïo a phrofi.
  • Gwerthuso’r seilwaith caledwedd a meddalwedd a ddefnyddir wrth ddatblygu rhwydweithiau cyfrifiadurol - yng nghyd-destun safonau perthnasol y diwydiant a defnyddio offer meddalwedd cyfredol sy'n gysylltiedig â rôl cyfathrebu ar y rhyngrwyd, sy’n ehangu.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Ymgymryd â dyluniad manwl ar lefel dyfais a nodweddion cydrannau'r system gyfathrebu yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o'r prif faterion sy'n ymwneud â phensaernïaeth a strwythurau.
  • Defnyddio offer a thechnegau dylunio drwy gymorth cyfrifiadur o safon diwydiant.
  • Gweithio’n effeithiol mewn amgylchedd ymchwil diwydiannol, gan gydweithio â chydweithwyr a rhoi a derbyn hyfforddiant perthnasol.
  • Myfyrio ar eich profiad uniongyrchol o brosiectau yn y byd go iawn, yn gweithio gyda chwsmeriaid a pheirianwyr proffesiynol, gan gynnwys dod i gysylltiad â Chodau Ymarfer perthnasol, a materion sy'n ymwneud â moeseg, cynaliadwyedd ac iechyd a diogelwch.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cynllunio, rhedeg ac adrodd ar brosiect ymchwil sylweddol sydd ar flaen y gad yn eich disgyblaeth
  • Cyfleu eich syniadau, eich canfyddiadau ymchwil, eich damcaniaethau a’ch egwyddorion sylfaenol yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim
Blwyddyn dau £2,340 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500
Blwyddyn dau £5,090 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Yn ystod y flwyddyn ar leoliad, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu costau teithio i safle unrhyw bartner diwydiannol ac oddi yno, a dylai myfyrwyr ystyried costau llety yn y sefydliad partner os bydd hyn i ffwrdd o Gaerdydd - gallai costau byw fod yn uwch. Yn ogystal, efallai y bydd myfyrwyr yn wynebu costau sy'n gysylltiedig â cheisiadau am fisâu nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn y ffioedd dysgu.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd y Brifysgol yn darparu'r holl offer angenrheidiol i ymgymryd â'r rhaglen radd, ond argymhellir yn gryf y dylai fod gan y myfyriwr liniadur cymharol fodern, er mwyn gallu gwneud cynnydd ar weithgareddau pan maent i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhagolygon gyrfa yn y maes hwn yn ardderchog ar y cyfan. Mae myfyrwyr sy'n graddio yn dilyn llwybrau i ymchwil neu i'r diwydiant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant, mae llawer o'n graddedigion MSc yn cael cyfleoedd gwaith ardderchog mewn sefydliadau fel Infineon, Huawei, Cambridge Silicon Radio, Keysight ac Ericsson.

O ran ymchwil, mae gan Brifysgol Caerdydd nifer o feysydd ymchwil sy'n ymwneud â thrydan, electroneg a microdon sy'n gofyn am fyfyrwyr PhD, a bydd yr MSc hwn yn rhoi llwyfan ardderchog i chi os hwn yw’r llwybr gyrfa yr ydych yn dewis ei ddilyn.

Lleoliadau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant ar ôl y cam astudio academaidd cyntaf a addysgir. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad fydd yn caniatáu i chi weld dros eich hun sut beth yw amgylchedd gwaith proffesiynol. Os byddwch yn llwyddo i sicrhau lleoliad, byddwch yn cael cyflog ac yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd drwy gael profiad uniongyrchol o weithio mewn diwydiant. Ni ellir gwarantu lleoliadau, ond os nad ydych yn llwyddo i gael lleoliad, bydd gennych y dewis o drosglwyddo i’r ddwy flynedd ar gyfer MSc Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon gyda Blwyddyn Ymchwil neu’r flwyddyn ar gyfer MSc Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon.

The MSc course materials were diverse, covering the basic principles as well as niche topics that are key in industry, and position the postgraduate at an ideal starting level. One of the niche topics which I was really excited about was the RF and Microwave module. In industry, this topic is usually described as a ‘black magic’ or even an ‘art’ where only a select few with years of experience can get circuits to work. The good thing here is that RF and microwave secrets are uncovered at Cardiff University due to top experts such as professors Adrian Porch, Paul Tasker, Johannes Benedict, and Dr Jonathan Lees who know the topics inside out. I consider myself extremely lucky to work with such knowledgeable people who helped fulfil my eagerness to learn. The Cardiff University MSc degree strengthened my foundation through which I have been able to tap into any topic with confidence and the base skills needed.
Dr Zaid Aboush, MSc Wireless and Microwave Communication Engineering

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.