Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon gyda Blwyddyn Ymchwil (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cwrs MSc sydd â phwyslais ar ymchwil ac sydd hefyd yn ceisio rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau lefel uwch, fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon, sy'n tyfu'n gyflym.

Cwrs MSc sydd â phwyslais ar ymchwil ac sydd hefyd yn ceisio rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau lefel uwch, fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon, sy'n tyfu'n gyflym. Bydd yn rhoi llwyfan ardderchog i chi ar gyfer datblygu eich gyrfa, boed hynny yn y diwydiant neu mewn ymchwil academaidd.

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi wneud y canlynol:

  • Datblygu eich arbenigedd mewn meysydd newydd peirianneg microdon — a meysydd sy'n esblygu — gan gynnwys cyfathrebiadau symudol a chymwysiadau meddygol microdonnau.
  • Canolbwyntio ar feysydd, fel uwch-ddylunio drwy gymorth cyfrifiadur, mesuriadau a nodweddu a pheirianneg systemau cyfathrebu.
  • Ymdrin â gwaith yn y labordy ac uwch reolaeth peirianneg ochr yn ochr â modiwlau mewn peirianneg amledd radio, saernïo a phrofi lefel uwch, systemau cyfathrebu uwch a Chysyniadau a Dylunio RF Aflinol.
  • Datblygu arbenigedd ym meysydd micro a nano-dechnoleg ac optoelectroneg.
  • Datblygu eich sgiliau ymchwil drwy gwblhau prosiect mawr fel rhan o Flwyddyn Ymchwil ddwys naill ai ym Mhrifysgol Caerdydd neu gyda phartner prifysgol neu sefydliad ymchwil addas arall.

Nodweddion unigryw

This course will provide you with:

  • The opportunity to learn in a research-led teaching institution, taught by staff in one of the highest ranked university units in the 2014 Research Excellence Framework (REF).
  • The opportunity to work in modern facilities and commensurate with a top-class research university.
  • The opportunity to learn in an environment graded as Silver in the first TEF assessment, meaning that the University "consistently exceeds rigorous national quality requirements for UK higher education".
  • The participation of research-active staff in programme design and delivery.
  • MSc teaching complemented by guest lectures given by industrial professionals.
  • A 120-credit Research Year which enables the programme to meet the Bologna requirements for a Master’s programme length of 2 years.
  • A research group atmosphere within which students will enhance each other’s learning
  • The opportunity to be a vital part of our scientific research community.

Upon graduation, you will have the training, skillsets and hands-on experience you need to succeed in this dynamic and highly competitive field, and will have a distinct edge when applying for PhD studentships or employment in industry.

Achrediadau

The MSc course materials were diverse, covering the basic principles as well as niche topics that are key in industry, and position the postgraduate at an ideal starting level. I consider myself extremely lucky to work with such knowledgeable people who helped fulfil my eagerness to learn.
Dr Zaid Aboush, MSc Wireless and Microwave Communication Engineering

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Academic requirements: 

Typically, you will need to have either:

  • a 2:2 honours degree in communication engineering, communication technology, electrical or electronic engineering, wireless engineering or a similar subject, or an equivalent international degree
  • or relevant industrial experience evidenced by a reference. 

English Language requirements: 

IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.

Application deadline: 

We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.

Selection process:

We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir y cwrs fel rhaglen lefel Meistr amser llawn dros ddwy flynedd a dau gam. Yn ystod Cam 1, mae myfyrwyr yn dilyn dau semester o fodiwlau a addysgir sy’n werth 120 o gredydau. Mae Cam 2 yn cynnwys Blwyddyn Ymchwil, 8 mis, sy'n arwain at gyflwyno prosiect ymchwil sylweddol gwerth 120 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Blwyddyn un

Cyflwynir y cwrs fel rhaglen lefel Meistr amser llawn dros ddwy flynedd. Ym Mlwyddyn 1 (Cam 1) mae myfyrwyr yn dilyn dau semester o fodiwlau a addysgir sy’n werth 120 o gredydau.

Byddwch yn cael eich cefnogi i gynhyrchu a thrafod cynnig prosiect ymchwil yn ystod tymor y Gwanwyn er mwyn paratoi ar gyfer eich Blwyddyn Ymchwil.

Caniateir i fyfyrwyr sy'n cwblhau 120 o gredydau ar ddiwedd Cam 1 fynd ymlaen i'r Flwyddyn Ymchwil ar gyfer Cam 2.

Blwyddyn dau

Bydd Blwyddyn 2 yn cynnwys y Flwyddyn Ymchwil 120 credyd a chyflwyno adroddiad prosiect. Bydd Goruchwyliwr Prosiect Academaidd yn cael ei ddyrannu ar eich cyfer ar gyfer Blwyddyn 2. Bydd yn arwain eich gwaith a'ch adroddiad prosiect. Bydd eich Goruchwyliwr Prosiect Academaidd yn ymweld â chi o leiaf unwaith, ond ddwywaith os oes modd, os ydych wedi'ch lleoli mewn mannau eraill yn y DU (mewn SAU partner). Ar ddiwedd y Flwyddyn Ymchwil byddwch yn cyflwyno prosiect ymchwil o bwys.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o ddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd rhan mewn astudiaethau labordy a thiwtorial yn ystod semester yr hydref a’r gwanwyn yng Ngham 1. Byddwch hefyd yn gallu datblygu syniadau ar gyfer eich prosiect ymchwil unigol.

Ar ddechrau Cam 2, bydd Goruchwyliwr Prosiect Academaidd a Goruchwyliwr Blwyddyn Ymchwil yn cael eu neilltuo i chi. Fel arfer, dewisir pynciau traethawd hir o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd ac ymchwil, mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil arloesol. Byddwch yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer prosiect pan fo hynny'n bosibl. Bydd hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau labordy yn cael ei ddarparu i chi drwy gydol y prosiect.

Sut y caf fy asesu?

Asesir y cwrs drwy arholiadau, gwaith cwrs ysgrifenedig, a thraethawd ymchwil unigol terfynol.

Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr ac ym mis Mai. Mae arholiadau'n cyfrif am 60-70% o'r asesu yng Ngham 1 y rhaglen, a'r gweddill yn waith prosiect ac elfennau o waith cwrs i raddau helaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Ar gyfer eich blwyddyn ymchwil, bydd Goruchwyliwr Prosiect Academaidd a Goruchwyliwr Blwyddyn Ymchwil gydag arbenigedd perthnasol yn cael eu neilltuo i chi.

Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu â myfyrwyr, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Defnyddio egwyddorion Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon i ddylunio, gweithredu a rheoli systemau sy'n gallu casglu, trin, dehongli, cyfosod, cyflwyno ac adrodd ar ddata.
  • Dewis a defnyddio offer datblygu system TG briodol ar gyfer tasg benodol. Mae enghreifftiau o offer perthnasol yn cynnwys y rhai a ddefnyddir mewn ymchwil gyfredol i systemau amledd microdon a radio, cymwysiadau electromagnetig, systemau cyfathrebu a pheirianneg meddalwedd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Disgrifio'r camau sy'n gysylltiedig â gwireddu is-system gyfathrebu microdon di-wifr allweddol - gan gynnwys nodweddu a mesur, modelu, dylunio drwy gymorth cyfrifiadur, optimeiddio, saernïo a phrofi.
  • Gwerthuso’r seilwaith caledwedd a meddalwedd a ddefnyddir wrth ddatblygu rhwydweithiau cyfrifiadurol - gan gynnwys gwerthfawrogi safonau perthnasol y diwydiant a defnyddio offer meddalwedd cyfredol sy'n gysylltiedig â rôl cyfathrebu ar y rhyngrwyd, sy’n ehangu.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Deall dyluniad manwl ar lefel dyfais a nodweddion cydrannau'r system gyfathrebu yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o'r prif faterion sy'n ymwneud â phensaernïaeth a strwythurau.
  • Defnyddio offer a thechnegau dylunio drwy gymorth cyfrifiadur o safon diwydiant, ar lefel uwch.
  • Ymgysylltu’n llawn â phrosiect ymchwil, gan ddefnyddio sgiliau ymchwil ac arfarnu, gan gynnwys mesur, casglu data, ymchwilio a dadansoddi drwy ymgysylltu'n llawn â'u gweithgarwch prosiect a chymwysiadau cysylltiedig eraill, a/neu gynhyrchu strategaethau, polisïau a chynlluniau ymchwil sy'n gysylltiedig â'u prosiect.
  • Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth lefel uwch o ystod eang o ddeunyddiau a chydrannau sy'n gysylltiedig â pheirianneg microdon.
  • Dangos ymwybyddiaeth o'r ffaith bod angen i beirianwyr ystyried y cyd-destunau masnachol a chymdeithasol maen nhw’n gweithredu ynddyn nhw.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i gynllunio, rhedeg ac adrodd ar brosiect ymchwil sylweddol sydd ar flaen y gad yn eich disgyblaeth
  • Y gallu i gyfleu eich syniadau, eich canfyddiadau ymchwil, eich damcaniaethau a’ch egwyddorion sylfaenol yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
  • Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,950 Dim
Blwyddyn dau £5,475 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £25,450 £2,000
Blwyddyn dau £12,725 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Yn ystod y Flwyddyn Ymchwil, efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu costau teithio i unrhyw sefydliad partner ac oddi yno, a dylai myfyrwyr ystyried costau llety os bydd hyn i ffwrdd o Gaerdydd - gallai costau byw fod yn uwch. Yn ogystal, gall myfyrwyr sy'n teithio i ymgymryd â Phrosiect mewn sefydliad gwahanol wynebu costau ymgeisio am fisa a fyddai'n ychwanegol at ffioedd dysgu.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd y Brifysgol yn darparu'r holl offer angenrheidiol i ymgymryd â'r rhaglen radd, ond argymhellir yn gryf y dylai fod gan y myfyriwr liniadur cymharol fodern, er mwyn gallu gwneud cynnydd ar weithgareddau pan maent i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhagolygon gyrfa'n ardderchog ar y cyfan. Mae myfyrwyr sy'n graddio yn dilyn llwybrau naill i feysydd ymchwil neu i'r diwydiant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant, mae llawer o'n graddedigion MSc yn cael cyfleoedd gwaith ardderchog mewn sefydliadau fel Infineon, Huawei, Cambridge Silicon Radio, Vodafone ac International Rectifier.

O ran ymchwil, mae gan Brifysgol Caerdydd nifer o feysydd ymchwil sy'n ymwneud â thrydan, electroneg a microdon sy'n gofyn am fyfyrwyr PhD, a bydd yr MSc hwn yn rhoi llwyfan ardderchog i chi os hwn yw’r llwybr gyrfa yr ydych yn dewis ei ddilyn.

Lleoliadau

Mae Cam 2 y cwrs hwn yn cynnwys Blwyddyn Ymchwil a fyddai fel arfer yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, ond y gellir ei chynnal hefyd, yn dibynnu ar gytundebau addas, mewn Sefydliad Addysg Uwch neu sefydliad ymchwil partner addas (ar yr amod bod yr Ysgol yn cymeradwyo hynny).

The MSc course materials were diverse, covering the basic principles as well as niche topics that are key in industry, and position the postgraduate at an ideal starting level. One of the niche topics which I was really excited about was the RF and Microwave module. In industry, this topic is usually described as a ‘black magic’ or even an ‘art’ where only a select few with years of experience can get circuits to work. The good thing here is that RF and microwave secrets are uncovered at Cardiff University due to top experts such as professors Adrian Porch, Paul Tasker, Johannes Benedict, and Dr Jonathan Lees who know the topics inside out. I consider myself extremely lucky to work with such knowledgeable people who helped fulfil my eagerness to learn. The Cardiff University MSc degree strengthened my foundation through which I have been able to tap into any topic with confidence and the base skills needed.
Dr Zaid Aboush, MSc Wireless and Microwave Communication Engineering

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.