Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Sero Net (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dr Aled Davies provides an overview of MSc Engineering Net Zero and how it can help students gain the skills to combat one of the world’s greatest challenges.

Bydd yr MSc Peirianneg Sero Net yn rhoi gwybodaeth a sgiliau peirianneg a gwyddonol allweddol i chi allu darparu datrysiadau datgarboneiddio effeithiol i daclo newid hinsawdd mewn cymdeithas ehangach.

globe

Ymunwch â'r ymdrech fyd-eang

Datblygu gwybodaeth am beirianneg a gwyddoniaeth i helpu i frwydro yn erbyn un o heriau mwyaf y byd – Sero Net.

people

Ymgysylltu â diwydiant

Gweithio gyda sefydliadau peirianneg blaenllaw a helpu i ddatrys problemau sy'n berthnasol i'r diwydiant go iawn i greu cymdeithas wyrddach.

academic-school

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Profiad o addysgu a arweinir gan ymchwil sy'n mynd i'r afael â'r meysydd allweddol a'r problemau diweddaraf ym maes y newid yn yr hinsawdd.

mortarboard

Rhagolygon i raddedigion

Cyflawni sgiliau blaenllaw at ddyfodol ym maes cynaliadwyedd a’r sector ynni adnewyddadwy ar gyfer cyfleoedd gwaith ledled y byd.

Mae’r argyfwng newid hinsawdd yn digwydd nawr ac mae ganddon ni i gyd ddyletswydd i weithredu ar unwaith i liniaru yn erbyn difrod parhaol i’n planed a’n ffordd o fyw. Mae cyrraedd sero net erbyn 2050 yn golygu bod angen gwybodaeth a sgiliau arloesol ar draws y gymuned peirianneg a gwyddonol i drawsnewid ein cymdeithas carbon uchel i wynebu’r her hon.

Mae’r cwrs hwn yn dod â graddedigion peirianneg a gwyddoniaeth at ei gilydd i gydweithio ar ddarparu trawsnewidiad a newid cronnus i’n harferion presennol, a fydd yn gosod y sylfeini ar gyfer cymdeithas sero net.

Byddwch yn elwa ar ganlyniadau ein hymchwil ddiweddaraf ym maes datgarboneiddio, cynaliadwyedd a carbon sero net, sydd oll yn feysydd allweddol er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd. Byddwch hefyd yn dysgu o’n cydweithrediadau gyda’n partneriaid allanol sy’n gweithio gyda ni i ddarparu datrysiadau i’r heriau hyn.

Bydd y cwrs yn cynnig ystod o bynciau i chi yn ogystal ag ymagwedd greadigol ac arloesol tuag at heriau peirianneg, a bydd yn eich helpu i gyflawni datrysiadau cynaliadwy cyraeddadwy drwy ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau, gwybodaeth feirniadol, a dealltwriaeth mewn modd hyblyg fel meddyliwr annibynnol. Byddwch yn arwain y newid yn trawsnewid cymdeithas ar sail cyd-weledigaeth o ddatgarboneiddio.

Mae astudiaethau craidd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau datrys problemau a gwerthuso beirniadol drwy astudio peirianneg sylfaenol ac egwyddorion cymdeithasol datgarboneiddio, gan gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a geir i broblemau ymchwil a dylunio. Bydd modiwlau dewisol ar sail ymchwil yn rhoi rhyddid i chi adeiladu eich portffolio eich hun o sgiliau a gwybodaeth, un ai drwy ehangu eich gorwelion neu ddyfnhau eich maes arbenigol.

Er mwyn cyflawni newid, mae’n rhaid i ni wneud pethau’n wahanol, a hynny ar frys – ac felly mae angen arloesedd ym mhob rhan o’r gadwyn gwerth seilwaith er mwyn lleihau carbon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae arloesiadau ym maes caffael a dylunio wedi hyrwyddo gweithio mewn timau integredig gydag amcanion y cytunwyd arnynt a chymhellion masnachol i yrru ymddygiad.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc gradd perthnasol fel peirianneg, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r rhaglen yn gwrs Meistr llawn amser blwyddyn o hyd.

Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam:

Yng Ngham 1, byddwch chi’n dilyn modiwlau a addysgir gwerth 120 credyd, gydag 80 credyd yn fodiwlau craidd, a’r gweddill yn fodiwlau dewisol sy’n cael eu dewis o restr gynhwysfawr sy’n cynnwys arbenigeddau amrywiol. Byddwch yn cael arweiniad wrth ddewis y modiwlau dewisol hyn yn seiliedig ar eich profiad, eich disgyblaeth a’ch dewisiadau.

Mae Cam 2 yn cynnwys modiwl Traethawd Hir gwerth 60 credyd, a gyflawnir dros yr haf.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn astudio’r modiwlau craidd sy’n angenrheidiol er mwyn cael y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid sydd ei angen ar draws y proffesiwn i ddarparu atebion i heriau newid hinsawdd.

Bydd hefyd modd i chi ddewis o ystod o fodiwlau dewisol gan eich galluogi i arbenigo neu ddilyn eich diddordebau eich hun.

Bydd modd i chi ddatblygu prosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar eich diddordebau a’ch dyheadau chi ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn gynnwys lleoliad gwaith gydag un o’n partneriaid allanol neu weithio gydag un o’n grwpiau ymchwil partner sydd wedi’u cydnabod yn rhyngwladol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae’r Ysgol Peirianneg wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei rhagoriaeth ymchwil, sy’n trosi i ddiwylliant addysgu cryf a gweithgar sy’n cael ei arwain gan ymchwil. Mae eich profiad dysgu wrth wraidd y rhaglen, ac rydyn ni wedi creu ymagwedd ysbrydoledig i gyflawni amgylchedd deinamig a heriol, sy’n seiliedig ar addysg wyneb yn wyneb o ansawdd uchel ar sail problem, gwaith grŵp wedi’i arwain gan ddylunio, ac ymchwil flaengar.

Darperir modiwlau drwy gyfres o ddarlithoedd wyneb yn wyneb, tiwtorialau, gweithdai neu seminarau, yn ogystal â gweithgareddau grŵp wedi’u harwain gan ymchwil a dylunio. Darperir adnoddau dysgu ategol hefyd i gynorthwyo â dysgu myfyrwyr ac i ddarparu gweithgareddau ymestynnol.

Mae modiwlau unigol yn cynnig rhagor o wybodaeth am sut i astudio ac arweiniad ar adnoddau dysgu a chefnogaeth bellach.

Yn ogystal â gweithgareddau unigol, mae dysgu ar y cyd yn agwedd bwysig ar y rhaglen hon, yn enwedig wrth gydweithio mewn grwpiau amlddisgyblaethol. Darperir cymorth uniongyrchol gyda chyfranogiad tîm effeithiol, gan ddatblygu deinameg grŵp ac adolygu cyfraniad cymheiriaid.

Sut y caf fy asesu?

Bydd modiwlau’n cael eu hasesu un ai drwy waith cwrs, cyflwyniadau, arholiadau neu gyfuniad o’r rhain. Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod o ddulliau sydd wedi’u dylunio i wella eich profiad dysgu ac i brofi eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Fel arfer, mae’r rhain yn cynnwys arholiadau llyfr agored a chaeedig, aseiniadau ysgrifenedig, profion yn y dosbarth, a gweithgareddau ffurfiannol cysylltiedig gan gynnwys adolygu cymheiriaid, myfyrio a chyflwyniadau.

Mae’r asesiadau wedi’u dylunio i adlewyrchu perthnasedd ymarferol orau ac i fod yn ddilys, gan ddangos tystiolaeth o gyflawni’r deilliannau dysgu.

Mae adborth yn rhan hanfodol o’ch profiad dysgu, a bydd yn cael ei ddarparu yn ystod cyfnod eich astudiaethau. Bydd gan bob modiwl fecanweithiau adborth i’ch cynorthwyo â’ch dysgu a’ch datblygiad. Bydd gan asesiadau ffurfiannol adborth sy’n cynorthwyo â datblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau. Bydd adborth yn dilyn asesiadau crynodol yn amlinellu’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i farcio eich gwaith yn erbyn meini prawf a osodwyd ac yn rhoi sylwadau adeiladol tuag at ddatblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol wedi’i ddynodi i chi i’ch cynorthwyo â’ch cynnydd academaidd ac i gynnig cymorth bugeiliol mewn modd anffurfiol a chyfrinachol. Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig amgylchedd gwresog a chroesawgar i bawb.

Bydd eich tiwtor personol yn eich gweld yn rheolaidd yn ystod y rhaglen. Ar y cam traethawd hir, bydd goruchwyliwr yn cael ei ddynodi i chi yn ogystal â mentor diwydiannol yn eich maes arbenigol os oes angen, a bydd disgwyl i chi gwrdd â nhw’n rheolaidd.

Yn ogystal â’r ystod eang o wasanaethau cymorth a ddarperir yn ganolog gan Brifysgol Caerdydd, bydd Uwch Diwtor Personol ar gael i’ch helpu ac i gynghori ar unrhyw faterion personol sy’n codi.

Bydd Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio’n helaeth i gyfathrebu ac i’ch cefnogi, gan ddarparu a rhannu cynnwys cwrs ac adnoddau cyffredinol y rhaglen. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.

Er mwyn cefnogi cefndiroedd amrywiol myfyrwyr, bydd adnoddau penodol yn cael eu darparu i sgaffaldio eich dysgu yn ôl yr angen. Gallai hyn gynnwys deunydd sy’n rhagofyniad cyn dechrau’r rhaglen, cynnwys wedi’i deilwra ar gyfer unigolion, a mentora staff/myfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi wedi’i gyflawni erbyn diwedd y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r medrau fydd ganddoch chi. Maen nhw’n eich helpu i ddeall faint mae disgwyl i chi ei wneud, hefyd.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1 Gwerthuso’r defnydd o ddealltwriaeth newydd a phresennol o uwch egwyddorion peirianneg mewn perthynas â datgarboneiddio mewn disgyblaethau peirianneg perthnasol, a chymhwyso hynny i broblemau dilys a wynebir ym maes ymchwil a diwydiant drwy ddefnyddio theorïau allweddol.

GD 2 Creu datrysiadau peirianneg drwy ddealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion a theorïau sylfaenol i heriau go iawn ymmaes peirianneg.

GD 3 Nodi rôl peirianneg sero net o fewn yr argyfwng newid hinsawdd a chreu ymatebion i heriau peirianneg o fewn cyd-destun cymdeithasol ehangach.

GD 4 Ffurfio ymagweddau tuag at ddatgarboneiddio o fewn disgyblaethau penodol a’r gymdeithas ehangach a chynnig llwybrau ar gyfer eu gweithredu.

GD 5 Gweithredu’n annibynnol wrth wneud penderfyniadau hollbwysig.

Sgiliau deallusol:

SD 1 Datblygu datrysiadau peirianneg arloesol i fynd i’r afael â gweithredu newid tuag at greu cymdeithas wedi’i datgarboneiddio.

SD 2 Datrys heriau peirianneg y mae angen gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr a chynhwysfawr o egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg arnynt.

SD 3 Cydweithio gyda disgyblaethau peirianneg a gwyddonol eraill a meysydd cysylltiedig i greu ymagwedd gyfannol tuag at daclo heriau newid hinsawdd.

SD 4 Gwerthuso ac amddiffyn eich datrysiadau peirianneg o fewn cyd-destun ymchwil a diwydiannol, yn ogystal ag ar draws effaith gymdeithasol ehangach.

SD 5 Gwerthfawrogi tuedd ragdybiedig o fewn arferion peirianneg a chymdeithas tuag at newid hinsawdd, ac asesu data ac ymagweddau tuag at ddatgarboneiddio yn feirniadol yn seiliedig ar ymchwil drylwyr a chynnal prosesau dilysu.

Sgiliau ymarferol proffesiynol:

SY 1 Dechrau prosiectau peirianneg gan fynd i’r afael â chynaliadwyedd a datgarboneiddio.

SY 2 Datblygu a gweithredu datrysiadau gan ddefnyddio ystod o sgiliau peirianneg, egwyddorion sylfaenol a phrosesau.

SY 3 Adolygu’n feirniadol y fframwaith o ofynion cyfreithiol a llywodraeth perthnasol i gyflymu gweithrediad datrysiadau sero net.

SY 4 Cyfrannu’n gadarnhaol ac yn effeithiol wrth weithio mewn tîm a gallu cyfathrebu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol.

SY 5 Nodi, diffinio a dadansoddi materion a syniadau cymhleth, gan arfer barn feirniadol wrth werthuso ffynonellau gwybodaeth.

SY 6 Cyflwyno, gwerthuso’n feirniadol ac adrodd yn annibynnol ar ganfyddiadau a ddaw o’r traethawd hir yn erbyn yr amcanion a nodwyd.

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

SA 1 Defnyddio ystod o sgiliau gan gynnwys datrys problemau, cyfathrebu, gwaith tîm, adalw gwybodaeth, sgiliau technoleg gwybodaeth, hunan-ddysgu, myfyrio, a datblygu gyrfa.

SA 2 Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan ganfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.

SA 3 Llunio, cynllunio, gweithredu a chyfathrebu canlyniadau prosiect neu waith ymchwil sylweddol sy’n cynnwys gwreiddioldeb ar gymhwyso gwybodaeth a barn feirniadol o safbwynt peirianneg.

SA 4 Gwerthfawrogi agweddau allweddol ar yr Argyfwng Hinsawdd a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, gan nodi eu perthnasedd wrth lunio ymateb o safbwynt peirianneg.

SA 5 Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eu hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u hunaniaeth.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer swyddi arwain wrth weithredu strategaethau datgarboneiddio ym maes peirianneg ac ymchwil wyddonol, ac mewn sefydliadau diwydiannol, masnachol neu lywodraethol. Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys uwch a phrif arweinwyr peirianneg, swyddogion amgylcheddol a chynaliadwyedd, swyddi deddfwriaethol a rheoli, ac ymchwil prifysgol.

Bydd graddedigion yn meithrin y rhinweddau hanfodol y mae cyflogwyr heddiw’n gofyn amdanynt, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu, cyfrifoldebau cymdeithasol, hunan-ddysgu, hunanbenderfyniad, meddwl beirniadol, datrys problemau, arloesedd, ac arferion myfyriol.

Bydd cysylltiadau cryf gyda’n grwpiau ymchwil a’n partneriaid diwydiannol yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd a’ch cyfleoedd i rwydweithio. Bydd darlithwyr gwadd o’r diwydiant a chyngor proffesiynol gan sefydliadau peirianneg, yn ogystal â chefnogaeth gan ein Tîm Gyrfaoedd, yn cynnig cymorth a chyngor perthnasol o ran cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Lleoliadau

Gall lleoliadau gwaith tymor byr ddigwydd o fewn y modiwlau prosiect ymchwil a thraethawd hir, yn enwedig pan fydd partneriaid diwydiannol yn rhan ohonynt. Yn ystod y prosiect ymchwil, byddwch yn gweithio’n agos gyda grwpiau ymchwil, gan ymwreiddio yn y tîm i bob pwrpas, dan oruchwyliaeth aelod o staff a gyda chyd-oruchwyliaeth gan bartner diwydiannol yn ôl yr angen. Bydd traethodau hir dan arweiniad diwydiannol hefyd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i chi weithio’n agos gyda phartneriaid allanol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Engineering


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.