Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithio diwydiannol

Mae gan Ysgol Peirianneg hanes hir ynghylch cydweithio â chwmnïau diwydiannol a masnachol yn ogystal â chyrff gwladol ac annibynnol yn y fro hon, ledled y deyrnas a’r tu hwnt ac rydyn ni am feithrin partneriaethau newydd yn barhaus.

Rydyn ni wedi cyflawni dros 200 o brosiectau ar y cyd ar draws ein prif feysydd ymchwil â phartneriaid megis Airbus, Arup, China Communication Construction, Cogent Power, GE Healthcare, GlaxoSmithKline, Huawei, IQE, Mercedes-Benz, NASA, National Grid, Olympus, Renishaw, Tata Steel a Toshiba.

Rydyn ni’n cydweithio ag ymchwilwyr ledled y byd gan feithrin cysylltiadau cryf â sefydliadau a chyrff yn Ewrop ac roedden ni’n ymwneud â thros 40 o brosiectau cydweithredol allanol eu hariannu.

Mae’n partneriaethau cryf gyda’r byd diwydiannol wedi’n galluogi i sefydlu prosiectau ymchwil cydweithredol a ddenodd dros £14 miliwn gan gwmnïau megis Airbus, Renishaw a Huawei yn ystod yr un cyfnod.

Cydweithio allweddol

A hithau’n aelod pwysig o fenter Clwstwr y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, mae Ysgol Peirianneg wedi denu grantiau, offer ac isadeiledd gwerth dros £76 miliwn. Mae’r ysgol yn arwain y Ganolfan dros Ddatblygu a Hyfforddi Cynhyrchwyr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, hefyd.

Rydyn ni’n cydweithio â chwmni Tata Steel i wella prosesau cynhyrchu deunyddiau magnetig ac yn cydweithio â’r Grid Gwladol i fireinio prosesau cynhyrchu a chyflenwi ynni adnewyddadwy ynghyd â cheisio lleddfu newid mellt ar ddeunyddiau cyfansawdd. Rydyn ni wedi cynnal ymchwil ar y cyd â chwmni Rolls Royce i bennu arferion gorau mesur yr hyn mae peiriannau awyrennau’n ei ollwng, ac mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu’r rheiny’n safon fyd-eang.

Cydweithio â ni

Mae partneriaid megis Airbus, Ampleon, Alstom, Arup, Aston Marton, Atkins, BRE, Charles Owen, Costain, Infineon, Mercedes-AMG Petronas F1 Team, Merck Group, National Grid, Renishaw, Rolls Royce, RWE Energy, SKF, Tata Steel a Toshiba wedi rhoi inni arian ar gyfer cyrsiau doethuriaeth.

Rydyn ni’n cydweithio’n agos â chwmnïau diwydiannol a masnachol i gynnal amrywiaeth o brosiectau gwasanaethu ac ymgynghori ar y cyd â phartneriaid megis Sony, Costain a Tesla yn ogystal â helpu Canolfan Technoleg Gofal Iechyd y GIG i gloriannu dyfeisiau meddygol a diagnostig electronig.

Mae’n Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn y byd diwydiannol wedi’n galluogi i gyfnewid arbenigedd, creu arloesedd a gwella effeithlonrwydd yn ogystal â datblygu gweithwyr sy’n raddedigion.

‘Manteisiwch ar y syniadau a’r technolegau diweddaraf ym maes peirianneg – cysylltwch â’n tîm i gael gafael ar ein harbenigedd a’n cyfleusterau ymchwil’