Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Cyfathrebu Diwifr a Microdon (MRes)

Nod y cwrs MRes hwn yw rhoi platfform rhagorol i chi ar gyfer datblygu gyrfa, boed hynny o fewn diwydiant neu ymchwil academaidd. Byddwch yn cael gwybodaeth a sgiliau lefel uwch a fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon sy'n tyfu'n gyflym, tra hefyd yn gwella eich sgiliau ymchwil.

Byddwch yn datblygu arbenigedd mewn meysydd peirianneg microdon newydd ac sy'n esblygu gan gynnwys cyfathrebu symudol a chymwysiadau meddygol microdon. Byddwch yn gwella eich sgiliau mesur, nodweddu a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur. Mae'r modiwlau canlynol yn cael eu cynnig fel rhan o'r cwrs hefyd:

  • peirianneg amledd radio
  • gwneuthur a phrofi uwch
  • masnacheiddio arloesedd
  • dyluniad a chysyniadau RF nad ydynt yn llinol.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau prosiect annibynnol fel rhan o gam ymchwil dwys, gan eich rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer dyfodol posibl mewn ymchwil academaidd neu ddiwydiannol. Os nad ydych yn dymuno ymgymryd â phrosiect ymchwil, gallwch adael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig, gan wneud y mwyaf o hygyrchedd p'un a ydych yn gweithio mewn diwydiant neu addysg uwch.

Nodweddion unigryw

Bydd y cwrs MRes hwn yn cynnwys:

  • y cyfle i wella eich sgiliau ymchwil annibynnol ac i ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol
  • byddwch yn dysgu mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil, a addysgir gan staff yn un o'r unedau prifysgol uchaf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014
  • y cyfle i weithio mewn cyfleusterau modern sy'n gymesur â phrifysgol ymchwil o'r radd flaenaf
  • y cyfle i ddysgu mewn amgylchedd a sgoriwyd fel safon Arian yn yr asesiad TEF cyntaf, sy'n golygu bod y Brifysgol "yn gyson yn rhagori ar ofynion ansawdd cenedlaethol trwyadl ar gyfer Addysg Uwch yn y DU"
  • cyfranogiad staff ymchwil-weithredol wrth gynllunio a chyflwyno rhaglenni
  • addysgu lefel meistr wedi'i ategu gan ddarlithoedd gwadd gan weithwyr diwydiannol proffesiynol
  • awyrgylch grŵp ymchwil lle gall myfyrwyr wella profiad dysgu ei gilydd.

Ar ôl graddio, bydd gennych yr hyfforddiant, y setiau sgiliau a'r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y maes deinamig a hynod gystadleuol hwn, a bydd gennych fantais unigryw wrth wneud cais am ysgoloriaethau PhD neu swyddi yn y diwydiant.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn
Cymhwyster MRes
Hyd amser llawn 1 year
Derbyniadau Medi

Cyflwynir y cwrs fel rhaglen lefel meistr amser llawn am flwyddyn, mewn dau gam. Yng ngham un, mae myfyrwyr yn dilyn un semester o fodiwlau a addysgir o fis Medi i fis Ionawr, i werth 60 credyd, gan ganolbwyntio ar sgiliau ymchwil. Mae cam dau yn cynnwys ymchwil annibynnol o wyth mis, gan arwain at gyflwyno prosiect ymchwil sylweddol o 120 o gredydau yn y mis Medi canlynol.

Mae strwythur cyffredinol y prosiect yn un darn o waith a gynhelir dros 8 mis o'r rhaglen MRes. Rhan o'r allbwn asesu fydd papur ymchwil sy'n barod i’w gyhoeddi, er na fydd cyflwyno/cyhoeddi'r papur hwn yn ofyniad.

Anogir y myfyrwyr ar y rhaglen hon i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil ar draws yr Ysgol, y Coleg a'r Brifysgol, megis seminarau ymchwil a chynadleddau. Bydd y prosiect yn cael ei ddewis gan y myfyriwr ar y cyd â staff academaidd yn un o dimau ymchwil gweithredol yr Ysgol. Caiff tiwtor academaidd ei neilltuo i chi. Bydd yn arwain eich gwaith a'r broses o ysgrifennu eich traethawd hir.

Sut y byddaf yn cael fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o ddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd rhan mewn astudiaethau labordy a thiwtorial yn ystod semester yr Hydref yng ngham un. Byddwch yn datblygu syniadau ar gyfer eich prosiect ymchwil unigol.

Ar ddechrau cam un, bydd tiwtor ymchwil yn cael ei neilltuo i chi. Fel arfer, dewisir pynciau traethawd hir o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd ac ymchwil, mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil arloesol. Byddwch yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau prosiect eich hun pan fo hynny'n bosibl. Byddwch yn derbyn hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau labordy drwy gydol y prosiect.

Asesiad

Asesir y cwrs drwy arholiadau, gwaith cwrs ysgrifenedig, a thraethawd ymchwil unigol terfynol.

Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol a osodwyd ym mis Ionawr. Mae arholiadau'n cyfrif am 60–70% o'r asesu yng ngham un y rhaglen, a'r gweddill yn waith prosiect ac elfennau o waith cwrs i raddau helaeth.

Rydym yn ganolfan sy'n arwain y byd o ran ymchwil peirianneg di-wifr a microdon. Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer prosiectau gyda'n grwpiau ymchwil sydd â chydnabyddiaeth ryngwladol.

Peirianneg amledd uchel

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn nifer o feysydd ymchwil:

  • Datblygu a chymhwyso cenhedlaeth newydd o systemau mesur nad ydynt yn llinellol, pŵer uchel, amledd uchel gan gynnwys Waveform Engineering, dull amgen o nodweddu a modelu traddodiadol nad yw'n llinellol.
  • Nodweddion dyfeisiau amledd uchel gyda chyfleusterau ar y wafferi sy'n cwmpasu ystod amlder hyd at 110 GHz, a thechnegau dylunio mwyhadur pŵer newydd sy'n caniatáu gweithredu'n gyflym bensaernïaeth effeithlonrwydd uchel iawn, llinellol uchel a lled band eang (Dosbarth B, J, F yn ogystal â'u moddau gwrthdro a pharhaus).
  • Ymchwil i wella effeithlonrwydd ynni sy'n cynnwys defnyddio cydrannau microdon cyflwr solet pŵer uchel ar gyfer datblygu'r genhedlaeth nesaf o ffynonellau gwres hynod effeithlon o fewn ceisiadau diwydiannol, meddygol a gwyddonol.

Deunyddiau electronig

Rydym hefyd yn gweithio ar welliannau parhaus i berfformiad dyfeisiau amledd uchel sydd wedi'i gyfyngu ar hyn o bryd gan y deunyddiau electronig a ddefnyddir. Mae ein hymchwil yma'n cynnwys astudiaethau sylfaenol a phrosesu deunyddiau o amrywiaeth o ddeunyddiau electronig, o uwch-ddargludyddion i led-ddargludyddion III-V (gan gynnwys GaN ac InN) a thryloyw sy'n cynnal ocsidiau (ee indiwm tun ocsid, a deunyddiau cysylltiedig).

Mae'r gweithgareddau hyn yn cysylltu ein hystafell lân a'n cyfleusterau prosesu o'r radd flaenaf â'r cyfleusterau nodweddu amledd uchel a gwireddu dyfeisiau effeithlon drwy beirianneg tonnau.

Mae rhagolygon gyrfa yn y maes hwn yn rhagorol ar y cyfan, gyda myfyrwyr sy'n graddio yn dilyn llwybrau naill ai i mewn i ymchwil neu ddiwydiant cysylltiedig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn diwydiant, mae llawer o'n myfyrwyr MSc/MPhil/MRes sy'n graddio yn cael cyfleoedd cyflogaeth rhagorol mewn sefydliadau gan gynnwys Infineon, Huawei, Cambridge Silicon Radio, Vodafone ac International Rectifier.

O ran ymchwil, mae gan Brifysgol Caerdydd lawer o feysydd ymchwil trydanol, electronig a microdon sy'n gofyn am fyfyrwyr PhD, a bydd yr MRes yn rhoi platfform rhagorol i chi os mai dyma'r llwybr gyrfa o'ch dewis.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr Un Flwyddyn

Ysgoloriaethau ar gael gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU/UE sy'n dechrau gradd meistr ym mis Medi 2018.

Rhagor o wybodaeth

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Costau ychwanegol

Ni ragwelir unrhyw gostau ychwanegol.

Gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch mewn peirianneg drydanol neu electronig neu mewn maes tebyg o brifysgol dda yn y DU neu gymhwyster gradd ryngwladol gyfatebol. Os oes gennych 2:2 neu gyfwerth da, neu brofiad diwydiannol perthnasol, byddwn yn rhoi ystyriaeth unigol i'ch cais.

Bydd angen i chi ddangos dealltwriaeth neu brofiad o gysyniadau electromagnetig sy'n berthnasol i beirianneg microdon, yn ogystal â dealltwriaeth o ddyfeisiau aflinol sylfaenol fel transistorau a deuodau.

Gofynion Iaith Saesneg

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu mamiaith basio arholiadau IELTS. Y gofynion sylfaenol yw sgôr IELTS o 6.5 o leiaf.

Darllenwch ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o wybodaeth.

Dylai ymgeiswyr wneud cais drwy system ymgeisio ar-lein y Brifysgol.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Postgraduate Admissions Office

School of Engineering

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Jonathan Lees

Dr Jonathan Lees

Lecturer - Teaching and Research

Email
leesj2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4318

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig