Ewch i’r prif gynnwys

Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dyluniwyd y cwrs hwn i gyflwyno drwy hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn theorïau lled-ddargludyddion cyfansawdd, creu, cymwysiadau, ac integreiddio â thechnoleg silicon.

briefcase

Cysylltiadau â diwydiant

Mae ein safle unigryw ar flaen y gad o ran technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhoi cyfleoedd i chi ennill profiad ac adeiladu cysylltiadau ag ystod o sefydliadau blaenllaw.

star

Cyfleoedd cyflogaeth sy’n codi

Bydd y cwrs yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd ei hangen arnoch i fanteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth sy'n dod i'r amlwg yn y sector lled-dargludyddion cyfansawdd - sy'n tyfu.

tick

Modiwlau arbenigol

Gallwch deilwra'r cwrs hwn i'r diwydiant neu'r meysydd penodol sydd o ddiddordeb i chi gydag ystod o fodiwlau arbenigol. Cewch y cyfle i ryngweithio â myfyrwyr ar gyrsiau perthnasol, cael profiad o feysydd newydd, a hyd yn oed datblygu cyfleoedd busnes newydd drwy ein modiwl Masnacheiddio Arloesedd.

people

Dysgu rhyngddisgyblaethol

Rydym yn annog amgylchedd "grŵp ymchwil" lle gallwch weithio ar draws disgyblaethau i wella eich dysgu, ac i fod yn rhan hanfodol o'n cymuned wyddonol ryngwladol sy'n ffynnu.

academic-school

Translational Research Hub

The Institute for Compound Semiconductors is based in our new Translational Research Hub, a multi-million-pound Cardiff University innovation hub where industry and scientists work together to solve commercial challenges.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan yr Ysgol Peirianneg mewn cydweithrediad â'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) ac mae'n elwa ar wybodaeth ac arbenigedd yr holl feysydd hyn.

Mae'r ICS yn gyfleuster unigryw yn y DU, a'i nod yw creu canolfan fyd-eang ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesedd ym maes technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae’r Sefydliad yn cynnwys cwmnïau fel IQE plc, SPTS a Newport Wafer Fab ac mae’n ceisio manteisio ar yr arbenigedd presennol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan fynd ag ymchwil academaidd i bwynt lle gellir ei gyflwyno mewn ffordd ddibynadwy a chyflym i’r amgylchedd cynhyrchu.

Mae ein cwricwlwm hyblyg yn cynnwys y canlyniadau a’r dulliau arloesol diweddaraf ac mae wedi’i gynllunio i ymgorffori'r technegau addysgu a dysgu mwyaf effeithiol. Mae’r cwrs yn cynnwys set gadarn ac amrywiol o fodiwlau gan gynnwys amrywiaeth o fodiwlau dewisol blaengar i chi ddewis ohonyn nhw.

Fel rhan o'r cwrs byddwch yn ymgymryd â phrosiect haf am dri mis, a gall hwn fod wedi'i leoli naill ai yn yr Ysgol Peirianneg, yn yr ICS, neu fel rhan o leoliad gydag un o'n partneriaid diwydiannol. Mae gennym gysylltiadau diwydiannol cryf, hirsefydlog â chwmnïau blaenllaw ac rydyn ni’n gallu cynnig portffolio o brosiectau damcaniaethol, ymarferol, saernïo a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar gymwysiadau mewn amgylcheddau academaidd a diwydiannol.

Ar ôl graddio ar y cwrs hwn, bydd gennych yr hyfforddiant, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i lwyddo ym maes dynamig a hynod gystadleuol lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc gradd perthnasol megis peirianneg gyfathrebu, technoleg cyfathrebu, peirianneg drydanol, peirianneg electronig, ffiseg, neu beirianneg ddi-wifr, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad diwydiannol proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn rhaglen sy’n cynnwys dau gam a gyflwynir dros dri semester (hydref, gwanwyn a haf) am gyfanswm o 180 credyd.

Cam 1: Tymor yr hydref/gwanwyn (120 credyd, a addysgir)

Byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol sy’n dod i gyfanswm o 70 credyd, sy’n rhoi sylw i sgiliau hanfodol.

Bydd gennych hefyd y dewis o 50 credyd o fodiwlau dewisol o gyfanswm o 100 credyd, gyda phob modiwl yn rhoi sylw i sgiliau arbenigol.

Rhaid i chi gwblhau 120 credyd cydran a addysgir y cwrs yn llwyddiannus cyn y caniateir i chi symud ymlaen i gydran y prosiect ymchwil.

Cam 2: Tymor yr haf (60 credyd, traethawd hir/prosiect ymchwil)

Mae tymor yr haf yn cynnwys un modiwl prosiect ymchwil 60 credyd sy’n para tri mis. Bydd gofyn i chi gynhyrchu traethawd ymchwil i'r safon ofynnol er mwyn cwblhau'r modiwl hwn. Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau Camau 1 a 2 yn gymwys i gael gradd MSc.

Hysbysiad pwysig am fodiwlau dewisol: MSc Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd hefyd yw cam cyntaf Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd CDT.  I fyfyrwyr sy'n ymgymryd â'r Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd fel gradd annibynnol mae'r rhestr o fodiwlau dewisol uchod ar gael yn llawn.  Ar gyfer myfyrwyr CDT, mae nifer o'r modiwlau dewisol yn cael eu trin yn ôl y gofyn, gweler https://eur03.safelinks.protection.outlook.com/?url=https%3A%2F%2Fwww.cdt-compound-semiconductor.org%2Fyear-one%2F&data=05%7C01%7CRegistrySupport%40cardiff.ac.uk%7Cf6cd23a0118a4374eaea08dabce272e5%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C638029978010120522%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000%7C%7C%7C&sdata=dFVsT4pjtPDQFFAFq0%2FzcHAD9iyK2WrcwXZTCpw%2FaAo%3D&reserved=0 am fwy o wybodaeth.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Bydd gennych bythefnos ar ddechrau tymor yr hydref i fynd i unrhyw fodiwlau dewisol sydd o ddiddordeb i chi fel y gallwch gwblhau eich dewis ar gyfer y tymor hwnnw.  Bydd angen i chi wneud eich dewisiadau terfynol ar gyfer tymor y gwanwyn cyn gwyliau’r Nadolig.  Byddwch yn cael eich cefnogi i gynhyrchu a thrafod cynnig prosiect ymchwil yn ystod tymor y gwanwyn er mwyn paratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil dros yr haf.

Gwybodaeth modiwl ychwanegol

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o arddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio’r cwricwlwm.

Gall darlithoedd fod ar amrywiaeth o ffurfiau yn dibynnu ar y pwnc sy'n cael ei addysgu. Yn gyffredinol, defnyddir darlithoedd i gyfleu cysyniadau, rhoi cyd-destun i weithgareddau ymchwil yn yr Ysgol ac i ddangos dulliau damcaniaethol, cysyniadol a mathemategol allweddol.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu sgiliau gwerthuso, myfyrio, dadansoddi a chyflwyno trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol fel cyfarfodydd grŵp ymchwil, seminarau a thrafodaethau grŵp agored. Cewch eich annog bob amser i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu, a sut gallwch ei gyfuno â thechnegau a chysyniadau eraill i fynd i’r afael â phroblemau newydd.

Yn y sesiynau ymarferol yn y labordy, byddwch yn defnyddio ehangder eich gwybodaeth a'ch sgiliau, boed hynny'n defnyddio'ch sgiliau codio i awtomeiddio arbrawf labordy, dylunio cydrannau ar gyfer darn mawr o offer neu ddatrys problemau caledwedd ymchwil. Mae pwyslais yr MSc mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn llwyr ar ddatblygu a dangos sgiliau ymarferol a fydd o ddefnydd mewn amgylchedd ymchwil ac y bydd galw mawr amdanyn nhw ymhlith cyflogwyr.

Pan fyddwch yn gweithio ar eich traethawd hir byddwch yn cael goruchwyliwr o blith ein staff addysgu. Mae pynciau traethawd hir fel arfer yn cael eu dewis o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol, er bod myfyrwyr yn cael eu hannog i gyflwyno eu syniadau prosiect eu hunain. Gall darpar gyflogwyr a phartneriaid yn y diwydiant gynnig prosiectau hefyd, ac efallai y gallant gynnig lleoliadau gwaith yn ystod cyfnod y gwaith prosiect.

Sut y caf fy asesu?

Mae nifer o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio er mwyn gwella dysgu ac adlewyrchu eich perfformiad yn gywir ar y cwrs. Yn y modiwlau gofynnol, defnyddir cymysgedd o ddysgu seiliedig ar broblemau, asesiadau yn y labordy, aseiniadau ysgrifenedig, ymarferion efelychu, arholiadau ysgrifenedig a llafar ac astudiaethau achos mewn grŵp.

Bydd adborth sy’n cael ei ddarparu gan eich Tiwtor MSc, Arweinwyr Modiwlau a’ch cydfyfyrwyr ar gyfer rhai modiwlau, yn caniatáu i chi wella yn raddol wrth ddatblygu eich set sgiliau craidd.

Mae'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer y modiwlau dewisol yn amrywio yn dibynnu ar y dull asesu mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl. Ond fel arfer, maen nhw’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig a/neu ymarferol ynghyd ag arholiad ysgrifenedig a/neu lafar.

Beth sy’n ddisgwyliedig gennyf?

Sut y caf fy nghefnogi?

Eich Tiwtor MSc fydd eich Tiwtor Personol fel arfer hefyd. Bydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ac yn rhoi cyngor i chi ar dechnegau ymchwil ac astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Eich tiwtor personol fydd y pwynt cyswllt cyntaf i chi hefyd os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau.

Gwahoddir myfyrwyr MSc i bob digwyddiad ôl-raddedig gan gynnwys y Gyfres o Ddarlithoedd Ôl-raddedig a'r Cynadleddau Ymchwil Ôl-raddedig. Yn y digwyddiadau hyn, gallwch gyfarfod a siarad â myfyrwyr PhD, ymchwilwyr a mynychu darlithoedd allweddol sy'n cwmpasu gweithgareddau ymchwil, arfer gorau a diogelwch yr Ysgol.

Mae ein modiwlau i gyd yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma gallwch gael mynediad at fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd (os ydyn nhw ar gael), dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig, sleidiau darlithoedd, sgriptiau asesu, atebion enghreifftiol ac enghreifftiau o waith myfyrwyr o flynyddoedd blaenorol.

Pan fyddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil yr haf byddwch yn cael goruchwyliwr academaidd a fydd yn gyfrifol am roi cyngor a chefnogaeth briodol i chi drwy gydol eich prosiect ymchwil. Eich goruchwyliwr fydd eich pwynt cyswllt cyntaf yn ystod y prosiect ymchwil ac fel arfer, eich goruchwyliwr fydd yr ymchwilydd arweiniol mewn unrhyw grŵp / is-grŵp rydych yn ymuno ag ef fel rhan o’ch prosiect.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i feithrin ysbryd cymunedol cryf o fewn carfan yr MSc. Byddwch yn aml yn gweithio gyda'ch gilydd mewn parau, mewn grwpiau ac fel carfan. Yn gyffredinol, bydd grwpiau MSc yn cyfarfod bob wythnos, er mwyn i chi adrodd ar gynnydd, trafod problemau ac awgrymu atebion. Mae'r gefnogaeth gref hon gan gymheiriaid ac addysgu/dysgu gyda chymheiriaid wedi profi'n hynod bwerus o ran gwella dysgu ein myfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ""sgiliau cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • Dangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o'r methodolegau a'r offer peirianneg ym maes electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd; ?
  • Cyflawni rôl flaenllaw mewn gweithgarwch dylunio a datblygu, gan gynnwys gwybodaeth gyfredol am y llenyddiaeth academaidd, y prif gwmnïau a phwysau'r farchnad yn y diwydiant, y cyd-destun lled-ddargludyddion cyfansawdd ehangach, a materion cyfreithiol a diogelwch perthnasol; ?
  • Deall elfennau hanfodol materion cymhleth, a deall sut gellir datrys y rhain mewn modd systematig a chreadigol i fynd i'r afael â phroblemau'r byd go iawn.

Sgiliau Deallusol:

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • Dangos gwreiddioldeb, cymhwysedd a hyder wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd
  • deall sut mae defnyddio Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i ddylunio, gweithredu a rheoli systemau sy'n gallu casglu, trin, dehongli, cyfosod, cyflwyno ac adrodd ar ddata
  • cyfrannu at ddatblygiad parhaus ymarfer peirianneg ac ymchwil yn seiliedig ar werthusiad beirniadol o'r dulliau presennol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Rhaglen yn gallu:

  • Integreiddio'n effeithlon ac yn effeithiol i amgylchedd grŵp ymchwil, gan gynnwys adrodd yn gryno ar gynnydd, trafod gweithgareddau ac amserlenni, cefnogi cydweithwyr a gweithio mewn tîm;
  • Cynllunio, cynnig a gweithredu prosiect ymchwil soffistigedig gyda nodau realistig, pethau y gellir eu cyflawni a chynlluniau wrth gefn;
  • Nodweddu cydrannau lled-ddargludyddion yn fanwl ar lefel dyfais a dylunio cymwysiadau yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o'r prif faterion sy'n ymwneud â phensaernïaeth a strwythurau;
  • Gwerthfawrogi'r camau sy'n gysylltiedig â gwireddu dyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ogystal â'r systemau cyfathrebu uwch sy'n eu defnyddio, gan gynnwys nodweddu a mesur, modelu, dylunio trwy gymorth cyfrifiadur, optimeiddio, saernïo a phrofi.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Bydd myfyrwyr sydd yn cwblhau’r Rhaglen yn arddangos:

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol, gan gynnwys adolygiadau llenyddiaeth, gwerthusiadau llenyddiaeth, ysgrifennu erthyglau academaidd, ysgrifennu adroddiadau hir a chyflwyniadau gwyddonol ffurfiol ?
  • Sgiliau gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon mewn grwpiau a thîm, gan gynnwys negodi, cyfaddawdu, cynllunio wrth gefn, rheoli amser a chadw cofnodion; ?
  • Ymgysylltu, cysylltu a chydweithio â gwyddonwyr ymchwil arbenigol academaidd a diwydiannol a'r gallu i drosglwyddo cysyniadau, methodolegau a dulliau cyflwyno rhwng y ddau amgylchedd; ?
  • Gallu ysgwyddo rôl lefel uchel mewn sefydliad, gan gynnwys bod yn barod ar gyfer astudiaethau ymchwil lefel uwch.

Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Os yw'n ofynnol i fyfyrwyr deithio i/o leoliad diwydiannol yn ystod prosiect ymchwil yr haf, yna mae bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr i dalu'r costau hyn, a fydd yn cael eu hystyried fesul achos.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Bydd y Brifysgol yn darparu'r holl offer angenrheidiol i ymgymryd â'r rhaglen radd, ond argymhellir yn gryf eich bod yn dod â gliniadur cymharol fodern er mwyn gallu symud ymlaen ar weithgareddau pan fyddwch i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.

Yr hyn y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei gynnig:

  • Labordai cyfrifiadurol, labordai ymarferol ac offer ar gyfer gweithgareddau'r garfan gyfan yn ystod y modiwlau gofynnol;
  • Mynediad at gyfleusterau ystafell lanhau o safon ymchwil a labordai electronig y Brifysgol ar gyfer cyfarwyddyd ymarferol yn yr elfen o'r cwrs a addysgir a nifer o brosiectau ymchwil yr haf;
  • Mynediad at lyfrgelloedd Trevithick a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, lle gellir cael gwerslyfrau a deunydd darllen a argymhellir ar gyfer y modiwlau gofynnol a dewisol.
  • Lle bo angen, bydd mynediad at drwyddedau offer meddalwedd dylunio â chymorth cyfrifiadur allweddol i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eich gweithgareddau pan maent i ffwrdd o gyfleusterau'r Brifysgol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Bydd MSc mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cynnig cyfleoedd yn y meysydd canlynol:

  • Swyddi technegol, ymchwil, datblygu a pheirianneg mewn systemau lled-ddargludyddion cyfansawdd diwydiannol, lled-ddargludyddion silicon a systemau cyfathrebu uwch;
  • Ymchwil doethurol damcaniaethol, arbrofol ac offerynnol;
  • Swyddi rhifol, technegol, ymchwil, datblygu a pheirianneg mewn meysydd gwyddonol cysylltiedig;
  • Addysg gwyddoniaeth gyffredinol, ffiseg a mathemateg.

Mae safle unigryw Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhoi cyfle i chi ennill profiad a chysylltiadau ag amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau blaenllaw.

Lleoliadau

Bydd nifer o leoliadau diwydiannol bob blwyddyn ar gyfer modiwl prosiect ymchwil yr haf, a fydd naill ai'n cael ei gynnal yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd neu yng nghyfleusterau'r partner diwydiannol. Bydd nifer a natur y prosiectau hyn yn amrywio o un flwyddyn i’r llall a byddant yn cael eu neilltuo yn seiliedig ar berfformiad mewn asesiadau ffurfiol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Engineering


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.