Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

people

Datblygiad proffesiynol

Un o'r rhaglenni datblygiad proffesiynol cryfaf ar gyfer israddedigion yn y DU.

globe

Astudio a gweithio dramor

Rydym yn cynnig y cyfle i astudio yn un o'n prifysgolion partneriaeth dramor. Astudiwch yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig ac ysbrydoledig y byd gan gynnwys; Paris, Berlin, Milan a Barcelona.

rosette

Graddau achrededig

Achredir ein holl gyrsiau gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA).

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Athro ym Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (MMORS)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Mae'r radd pum mlynedd hon yn cyfuno'r astudiaeth uwch o fathemateg, ystadegau ac ymchwil weithredol gyda chyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl â thâl.

Mathemateg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae gradd mathemateg yn cynnig heriau deallusol i chi ac yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen mewn ystod eang o yrfaoedd.

Mathemateg (MMath)

Amser llawn, 4 blwyddyn

P’un ai a hoffech chi sicrhau mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi neu baratoi am yrfa ym maes ymchwil, gall ein cwrs MMath eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol yn gyflymach.

Mathemateg a Cherddoriaeth (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae'r radd Gydanrhydedd hon yn edrych ar y cysylltiad hanesyddol rhwng Mathemateg a Cherddoriaeth. Byddwch yn mwynhau ystod eang o fodiwlau Mathemateg yn ogystal ag agweddau damcaniaethol a diwylliannol ar Gerddoriaeth.

Mathemateg a Cherddoriaeth gyda Blwyddyn Dramor (BA)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae'r radd Gydanrhydedd hon yn galluogi myfyrwyr i gyfuno astudio Cerddoriaeth a Mathemateg â blwyddyn sy'n llawn antur yn astudio yn un o'n prifysgolion partner dramor.

Mathemateg Ariannol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae'r cwrs hwn yn darparu'r paratoad delfrydol ar gyfer gyrfa ym maes cyllid, bancio ac yswiriant.

Mathemateg Ariannol gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Mae'r rhaglen bedair blynedd hon yn cynnwys lleoliad â thâl, i wella cyflogadwyedd, mewn sefydliad o'ch dewis, gan ddarparu'r paratoad delfrydol ar gyfer gyrfa mewn cyllid.

Mathemateg Ariannol gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae’r rhaglen bedair blynedd hon yn cynnwys trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio yn un o’n prifysgolion partner ar draws y byd.

Mathemateg gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol (MMath)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Mae'r fersiwn hon o'r radd MMath yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl fel mathemategydd a/neu ystadegydd gyda thâl.

Mathemateg gyda Blwyddyn dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae’r radd bedair blynedd hon yn cynnwys trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio mathemateg yn un o’n prifysgolion partner ar draws y byd.

Mathemateg gyda Blwyddyn Dramor (MMath)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 5 blwyddyn

Bydd y radd MMath yn eich helpu i ennill mantais gystadleuol yn y farchnad cyflogaeth i raddedigion neu baratoi ar gyfer gyrfa ymchwil, i gyd wrth archwilio diwylliannau ac arferion eraill ar Flwyddyn Dramor.

Mathemateg gyda Blwyddyn o Leoliad Gwaith Proffesiynol (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Mae’r radd bedair blynedd hon yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl fel mathemategydd neu ystadegydd, gyda thâl, mewn sefydliad o’ch dewis.

Mathemateg, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae hwn yn cyfuno ystadegau ac ymchwil weithredol â mathemateg mewn cwrs sydd wedi’i deilwra’n ofalus i anghenion y rhai sydd am gadw eu dewisiadau’n agored ac sy’n chwilio am amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa.

Mathemateg, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Mae'r radd bedair blynedd hon yn cynnwys cyfle yn y drydedd flwyddyn i wella cyflogadwyedd drwy weithio mewn rôl â thâl, a fydd yn eich paratoi chi’n berffaith ar gyfer gyrfa mewn ymchwil weithredol ac ystadegau.

Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth (MMORS)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Mae hwn yn cyfuno meysydd Ystadegau ac Ymchwil Weithredol ag astudiaeth uwch o fathemateg ar gwrs sydd wedi’i deilwra’n ofalus i anghenion y rhai sydd am gadw eu dewisiadau’n agored ac sy’n chwilio am gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (MMORS)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 5 blwyddyn

Cyfuno'r astudiaeth uwch o fathemateg, ystadegau ac ymchwil weithredol gyda thrydedd flwyddyn llawn antur yn astudio mewn prifysgol dramor.

Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegau gyda Blwyddyn Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae’r rhaglen bedair blynedd hon yn cynnwys trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio yn un o’n prifysgolion partner ar draws y byd.

Hoffais ryddid y cwrs yn fawr ac mae ganddynt gyfleoedd gwych i astudio a gweithio dramor. Fy mhrofiad gorau oedd byw a gweithio yn Ffrainc a'r Swistir; chwe mis yn gweithio yn CERN lle mae'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr. Ro'n i'n seiclo i'r gwaith bob dydd ac yn edrych ar Mont Blanc – roedd yn anhygoel.
Rhys Ward, Cynfyfyriwr BSc Mathemateg a’i Chymwysiadau gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol

Ein sgyrsiau

Astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ein staff a’n myfyrwyr wedi creu nifer o fideos gwahanol i’ch tywys drwy agweddau amrywiol ar y profiad o astudio yma yn yr Ysgol Mathemateg. Gobeithiwn y cewch flas go iawn ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl fel myfyriwr mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac y gallwn ateb y cwestiynau niferus a allai fod gennych wrth i chi ystyried pa Brifysgol sy’n iawn i chi.


Yn y fideo cyntaf hwn, bydd y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Dr Jonathan Gillard yn trafod popeth sydd angen i chi ei wybod am astudio mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys gwybodaeth am yr Ysgol, graddau, amgylchedd dysgu a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Ymunwch â'r Dr Rob Wilson wrth iddo fynd â chi drwy ddarlith ragflas fydd yn amlygu sut gall rhai syniadau eithaf syml o fathemateg cyn-prifysgol gael eu datblygu a'u hategu'n gyflym iawn i arwain at fyd yn llawn posibilrwydd.

Darlith ragflas: O Ddilyniannau Syml i Fathemateg Difrifol

Ymunwch â'r Dr Rob Wilson wrth iddo fynd â chi drwy ddarlith ragflas fydd yn amlygu sut gall rhai syniadau eithaf syml o fathemateg cyn-prifysgol gael eu datblygu a'u hategu'n gyflym iawn i arwain at fyd yn llawn posibilrwydd.

Cewch wybod rhagor gan y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr Dr Jonathan Gillard am y Flwyddyn mewn Lleoliad Gwaith, y Flwyddyn Astudio Dramor yn Ysgol Mathemateg.

Flwyddyn mewn Lleoliad Gwaith a Flwyddyn Astudio Dramor yn Ysgol Mathemateg.

Cewch wybod rhagor gan y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr Dr Jonathan Gillard am y Flwyddyn mewn Lleoliad Gwaith, y Flwyddyn Astudio Dramor yn Ysgol Mathemateg.

Dyma un o'n cynfyfyrwyr Timothy Ostler, wnaeth raddio gyda BSc Mathemateg y llynedd, yn trafod ei brofiadau o astudio gyda ni. Bydd hefyd yn rhoi manylion am sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yn yr Ysgol Mathemateg.

Fideo cynfyfyrwyr gan Timothy Ostler

Dyma un o'n cynfyfyrwyr Timothy Ostler, wnaeth raddio gyda BSc Mathemateg y llynedd, yn trafod ei brofiadau o astudio gyda ni. Bydd hefyd yn rhoi manylion am sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yn yr Ysgol Mathemateg.

Fideo gan grŵp o academyddion o’r Ysgol Mathemateg - gan gynnwys cynfyfyrwyr BSc sy’n astudio ar gyfer PhD erbyn hyn - am amrywiaeth mathemateg yn yr adran ac, yn fwy penodol, sut aethon nhw ati i ddefnyddio mathemateg gymhwysol i ateb cwestiynau biolegol a datrys problemau.

Amrywiaeth mewn Bioleg Fathemategol

Fideo gan grŵp o academyddion o’r Ysgol Mathemateg - gan gynnwys cynfyfyrwyr BSc sy’n astudio ar gyfer PhD erbyn hyn - am amrywiaeth mathemateg yn yr adran ac, yn fwy penodol, sut aethon nhw ati i ddefnyddio mathemateg gymhwysol i ateb cwestiynau biolegol a datrys problemau.

Bydd Dr Matthew Pugh, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, yn cyflwyno darlith ragflas am sut y gall problem fathemategol syml gael ateb anhygoel o hardd.

Darlith Ragflas Set Mandelbrot: Y Plân Cymhleth: O’r Dychmygol i’r Annychmygol

Bydd Dr Matthew Pugh, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, yn cyflwyno darlith ragflas am sut y gall problem fathemategol syml gael ateb anhygoel o hardd.

Bydd Dr Gandalf Lechner, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, yn rhoi cipolwg ar fathemateg at lefel prifysgol, a bydd yn rhoi enghraifft o sut gall mathemateg ymddangos mewn mannau annisgwyl ac arwain at astudio strwythurau a phatrymau sy’n debyg iawn i ddatrys pos.

Mathemateg Weledol: Darlith Ragflas Plethi a Chlymau

Bydd Dr Gandalf Lechner, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, yn rhoi cipolwg ar fathemateg at lefel prifysgol, a bydd yn rhoi enghraifft o sut gall mathemateg ymddangos mewn mannau annisgwyl ac arwain at astudio strwythurau a phatrymau sy’n debyg iawn i ddatrys pos.

Mwy o resymau dros ddewis yr Ysgol Mathemateg

Mathematics revision session

Sesiynau cymorth mathemateg

Cewch gymorth a chefnogaeth ychwanegol yn ein sesiynau galw heibio mathemateg wythnosol.

Image of the proposed new Computer Science and Mathematics building

Adeilad newydd yr Ysgol Mathemateg

Bydd ein cyfleuster newydd sbon pwrpasol, y byddwn yn ei rannu â’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn barod yn nhymor yr hydref flwyddyn nesaf.

Canolbwyntio ar gyflogadwyedd

Manteisiwch i'r eithaf ar ein cysylltiadau ardderchog gyda diwydiant a digwyddiadau gyrfaoedd rheolaidd yn yr Ysgol.

Social media Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ymunwch â'n cymuned

Dilynwch ni ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf o’r Ysgol Mathemateg.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Library students

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate
Download icon

Lawrlwytho llyfryn yr Ysgol Mathemateg

Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a'r Brifysgol ehangach.

icon-contact

Cysylltwch â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.


Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.

Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.