
Ieithoedd modern a chyfieithu
Ymunwch ag un o'r ysgolion ieithoedd mwyaf deinamig yn y DU a dod yn rhan o'n cymuned fyd-eang gyfeillgar.
Pam astudio gyda ni?
Ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff ieithoedd modern ac astudiaethau cyfieithu eu haddysgu yn ein Hysgol Ieithoedd Modern. Mewn byd o drafodion busnes rhyngwladol a chysylltedd digidol, mae myfyrwyr sydd â chymwysterau iaith arbenigol yn meddu ar y sgiliau a’r galluoedd i lywio trwy’r byd rhyngwladol presennol yn llwyddiannus.
Teilwra eich astudiaethau
Gallwch ddewis yr holl ieithoedd rydym yn eu cynnig fel dechreuwr neu ddysgwr ar lefel uwch.
Byw tramor
Gweithiwch, astudiwch neu addysgwch tramor yn eich trydedd flwyddyn ar raglenni gradd sy’n mynd â chi o amgylch y byd.
Rhagolygon gyrfa ardderchog
Roedd 96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Mae teimlad gwych a chroesawgar yn yr Ysgol, ac mae’r gefnogaeth a geir gan holl aelodau’r staff heb ei hail. Ceir ymdeimlad cryf o gymuned, ac mae pawb yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw broblemau - boed yn staff neu’n fyfyrwyr. Fy uchafbwynt oedd cwrdd â rhai darlithwyr gwirioneddol ysbrydoledig o bob cefndir sydd wir wedi fy annog a fy herio.
Byd o bosibiliadau

Astudiwch yng nghanol dinas fywiog Caerdydd
Byddwch yn gweithio yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhlas y Parc, sydd yng nghanol ein campws ac yng nghalon prifddinas Cymru. Cewch hyd i ni drws nesaf i orsaf drenau Cathays, Undeb y Myfyrwyr a phum munud ar droed o ganol y ddinas.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau ieithoedd modern a chyfieithu
Cymerwch olwg ar ein cyrsiau israddedig.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig, Arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraintyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth.