Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg (MMath)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: G101
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

P’un ai a hoffech chi sicrhau mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi neu baratoi am yrfa ym maes ymchwil, gall ein cwrs MMath eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol yn gyflymach.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

book

Gwybodaeth arbenigol

Ochr yn ochr â dysgu technegau mathemategol uwch, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol drwy edrych yn fanwl ar bynciau y tu hwnt i gwmpas y radd BSc.

scroll

Blwyddyn yn seiliedig ar brosiectau

Yn ystod eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gwblhau prosiect mathemategol sylweddol ar lefel uwch ym maes ymchwil o'ch dewis.

tick

Cynlluniau gradd hyblyg

Yn y rhan fwyaf o achosion, rydych chi’n rhydd i symud rhwng graddau ar ddiwedd blwyddyn un os bydd eich diddordebau’n newid. Bydd gennych y cyfle hefyd i gwblhau Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol neu Flwyddyn Dramor rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn. Nid oes rhaid i chi ymrwymo i’r naill na’r llall o’r opsiynau hyn nes dechrau eich ail flwyddyn, felly mae digon o amser i chi benderfynu.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Achredir y radd hon gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau .

Mae’r MMath pedair blynedd hon yn ymhelaethu ar y BSc i’ch paratoi ar gyfer mynediad lefel uchel i alwedigaethau perthnasol. Mae hefyd yn sylfaen gadarn ar gyfer dilyn gyrfa ymchwil.

Byddwch yn dysgu'r un cynnwys â'r radd BSc tair blynedd, yn ogystal â chael blwyddyn astudio ychwanegol lle byddwch chi'n cwblhau darn mawr o waith prosiect, fel:

  • arolwg o faes theori mathemateg sydd eisoes yn bodoli, ond nad yw'n rhan o’r modiwlau a addysgir
  • prosiect ymchwil rhagarweiniol
  • datblygu darn o feddalwedd mathemategol

Byddwch yn archwilio pwnc ymchwil o'ch dewis ac yn datblygu'r sgiliau rheoli prosiect ac amser y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt. Byddwch hefyd yn dangos eich bod yn rheng flaen y ddisgyblaeth drwy astudio pynciau fel Dadansoddiad Mathemategol, Ffiseg Fathemategol a Deinameg Hylifol yn fanwl.

Achrediadau

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i'r rhain gynnwys cynnwys gradd A mewn Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri £28,200 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn radd amser llawn pedair blynedd o hyd. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd gofalus o fodiwlau craidd a modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o'r modiwlau, a bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Bydd y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlynyddoedd un, dau a thri yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer nes ymlaen.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Bydd eich modiwlau craidd ym Mlwyddyn Un yn cwmpasu meysydd sylfaen Calculus, Algebra, Dadansoddi, Cyfrifiadura a Tebygolrwydd. Gallwch hefyd ddewis modiwlau dewisol hyd at 10 credyd mewn pwnc arall.

Mae’r rhan fwyaf o flwyddyn un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall.

Mae'n ofynnol i chi basio pob modiwl blwyddyn gyntaf a chyflawni cyfartaledd o 50%, o leiaf, er mwyn parhau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hafaliadau Gwahaniaethol ElfennolMA100110 Credydau
Cyfrifiadura ar gyfer MathemategMA100320 Credydau
GeometregMA100410 Credydau
Sylfeini Mathemateg IMA100520 Credydau
Sylfeini Mathemateg IIMA100620 Credydau
Algebra llinol IMA100810 Credydau
Cyflwyniad i Theori TebygolrwyddMA150010 Credydau

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau, bydd modiwlau craidd yn parhau i adeiladu gwybodaeth sylfaenol ym meysydd Mathemateg Bur a Chymhwysol. Byddwch hefyd yn parhau i ehangu eich gwybodaeth am feysydd fel Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Mae mwy o ddewis o fodiwlau dewisol ym Mlwyddyn Dau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 40 credyd o'ch cyfanswm ar gyfer y flwyddyn.

Y modiwlau y byddwch yn eu dewis fydd yn llywio'r dewisiadau fydd ar gael ar eich cyfer ym Mlwyddyn Tri.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Dadansoddiad go iawnMA200610 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau
Calculus FectorMA230110 Credydau

Blwyddyn tri

Ym Mlwyddyn Tri, byddwch yn dewis detholiad o fodiwlau uwch, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar bynciau o ddiddordeb arbennig. Mae cysylltiad agos rhwng y modiwlau sydd ar gael ym Mlwyddyn Tri, a diddordebau ymchwil yr Ysgol.

Blwyddyn pedwar

Yn y Bedwaredd Flwyddyn, bydd y cwrs yn datblygu hyfforddiant mewn ymchwil ac uwch-sgiliau mewn mathemateg, yn enwedig mewn Dadansoddi Mathemategol, Ffiseg Fathemategol a Dynameg Hylifol.

Byddwch hefyd yn gwneud darn pwysig o waith prosiect sy’n werth 40 credyd, lle byddwch yn gwneud gwaith ymchwil newydd. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, yn ogystal â defnyddio eich sgiliau mathemategol mewn pwnc ymchwil o'ch dewis.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect MMathMA490040 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, tiwtorialau i grwpiau bach, a dosbarthiadau trafod enghreifftiau. Cewch eich annog i ddysgu'n fwyfwy annibynnol drwy gydol y cwrs.

Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, a myfyrio ar asesiadau ac adborth.

Ym mlwyddyn pedwar, byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae rhan fwy amlwg oherwydd bydd rhai darlithoedd yn cael eu cynnal ar ffurf seminarau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, byddwch yn cael arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen. Byddwn yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, llyfrgelloedd ardderchog a chanolfannau adnoddau.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol sydd ar gael bob dydd yw'r rhain. Gall myfyrwyr alw heibio i drafod unrhyw elfen o'u hastudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod un i un, neu mewn grŵp bach.

Sut caf fy asesu?

Mae gan lawer o fodiwlau arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd semestrau'r hydref neu'r gwanwyn, ac mae gan rai ohonynt elfen asesu barhaus hefyd. Gall hyn gynnwys ymarferion datrys problemau, adroddiadau ysgrifenedig, rhaglenni cyfrifiadurol a chyflwyniadau llafar. Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.

Asesir eich prif brosiect ymchwil ym mlwyddyn pedwar drwy adroddiad ysgrifenedig a'r arholiad llafar.

Ar hyn o bryd, mae 20% o'ch gradd derfynol yn seiliedig ar eich astudiaethau yn yr ail flwyddyn, a 30% ohoni ar astudiaethau ym mlwyddyn tri.  Rhaid cael o leiaf 55% ar gyfartaledd ym mlynyddoedd un a a dau i allu parhau i astudio'r rhaglen.

Adborth:

Mae adborth ysgrifenedig ac atebion amlinellol am asesiadau o fewn y cwrs, yn rhoi'r cyfle i chi fyfyrio ar eich cynnydd. Darperir rhagor o adborth mewn dosbarthiadau trafod enghreifftiau a thiwtorialau (ym mlwyddyn un) er mwyn adolygu problemau'n fanylach a thrafod atebion posibl. Dylech drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol. Mae nifer o ddulliau ar waith i roi rhagor o adborth i gefnogi eich astudiaethau; darllenwch "Sut y caf fy nghefnogi?" isod.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd pwysig. Byddwch yn:

  • datblygu eich sgiliau cyfathrebu a'ch gallu i gyfathrebu mathemateg ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
  • dangos hunanreolaeth effeithiol a'r sgiliau trefnu sydd eu hangen i ymgymryd â phrosiect mathemategol sylweddol
  • gwella eich sgiliau cyfrifiadura, TG, adalw gwybodaeth a thrin data
  • datblygu eich gallu i feddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol wrth ystyried problemau mewn disgyblaethau eraill
  • dangos sgiliau gweithio mewn grŵp, rheoli amser a chyflwyno
  • dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol
A Mathematical Formula.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch ddefnyddio eich gradd MMath fel llwybr i'r gweithlu lle gallwch gwrdd â'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd, megis gwyddor data, ymchwil weithredol, technoleg rhyngrwyd, meddygaeth, bancio, logisteg, rheoli risg, a marchnata. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau PhD mewn mathemateg, y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth Gyrfaoedd Mathemateg

Yn Semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Finance Manager
  • Lecturer
  • Risk Analyst
  • Statistician

Lleoliadau

Gallech dreulio blwyddyn yn astudio mewn prifysgol dramor rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn. Byddai hyn yn ei gwneud yn radd MMath pum mlynedd.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 39% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.