
Y Gyfraith
Ymunwch â'r unig brifysgol Grŵp Russell sy'n cynnig yr amrediad llawn o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ym maes y gyfraith.
Pam astudio gyda ni?
Mae'r gyfraith yn bwnc sy'n berthnasol i bob agwedd ar eich bywyd: mae'r dderbynneb yn eich poced, eich contract cyflogaeth, eich hawliau fel perchennog cartref neu denant, y gofal mae eich nain neu’ch taid yn ei gael mewn cartref gofal, a'r polisïau a ffurfir ac a drosglwyddir gan y llywodraeth oll yn enghreifftiau o'r ffordd mae'r gyfraith yn chwarae rhan yn ein bywydau.
Pro bono
Datblygu eich sgiliau cyfreithiol gan weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned gyda'n gwahanol gynlluniau Pro Bono.
Cyflogadwyedd
Roedd 94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Cymdeithas arobryn
Enillodd ein cymdeithas y Gyfraith wobr 'Ymgysylltu Gorau' yng Ngwobrau Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith LawCareers.Net 2020.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau a'n fideos
Uchafbwynt y cwrs i mi oedd dod i ddeall sut mae gan y gyfraith rôl mor hanfodol mewn bywyd bob dydd. Bod yn gyfreithiwr oedd fy nymuniad ers i mi fod yn 15 oed ac mae'r cwrs wedi bod yn allweddol gan fy helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni fy nodau. Er bod y cwrs wedi bod yn heriol yn ddeallusol, rwyf i wedi mwynhau gweld twf personol a chynnyddu fy hunanhyder.
Mwy amdanom ni
Mae astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn heriol yn ddeallusol, yn drylwyr yn academaidd ac yn werth chweil yn bersonol
Astudiwch y Gyfraith os ydych chi’n dymuno deall y gymdeithas rydych yn byw ynddi, y prif faterion sy’n llywio bywyd y wlad a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau israddedig y Gyfraith.
Gweld ein holl gyrsiau israddedig y Gyfraith.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig, Arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraintyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth.