
Athroniaeth
Drwy ystyried posau athronyddol mawr y presennol a'r gorffennol, byddwn ni'n eich dysgu i ddadansoddi a chreu cadwyni cymhleth o resymu i ymdrin â chwestiynau cymhleth o hanes ac yn y presennol.
Pam astudio gyda ni?
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu chwilfrydedd, trafodaeth wybodus, dadansoddi beirniadol a meddwl yn greadigol. Ystyriwn ein rôl fel partneriaeth, gan eich galluogi yn eich dysgu drwy ddarparu addysgu arbenigol mewn diwylliant cyfeillgar, cefnogol a phersonol.
Rhagolygon gyrfa ardderchog
Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Ymchwil o safon
Gosodwyd ni yn y 4ydd safle yn y DU am effaith ein hymchwil Athroniaeth ar gymdeithas (REF 2014).
Staff arobryn
Rydym ni'n cynnal digwyddiadau a darlithoedd cangen y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn rheolaidd, gan gyflwyno'r meddwl diweddaraf gan arbenigwyr blaenllaw.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau a'n fideos
Astudio Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae ein cyflwyniad diwrnod agored rhithwir yn cynnig trosolwg o'n rhaglenni Athroniaeth, sut rydym yn addysgu, a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i raddedigion.
Ers ffilmio, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i raglenni cyd-anrhydedd. Ewch i'n rhestrau cyrsiau i weld pa opsiynau sydd ar gael.
Mae’r cynadleddau a seminarau ymchwil mae'r Ysgol yn eu cynnal yn anhygoel, ac mae’r amrywiaeth o feysydd arbenigedd wedi fy ngalluogi i feithrin dealltwriaeth eang o feysydd amrywiol athroniaeth.
Mwy amdanom ni

Annog manyldeb beirniadol, creadigrwydd a chwilfrydedd deallusol
Yn sail i'n haddysgu mae ymchwil o’r radd flaenaf sy'n rhyngwladol ardderchog. Rydym yn dwyn ynghyd y lefelau uchaf o ysgolheictod gyda hanes o arloesi ac ymgysylltu, sydd wedi helpu i ddiffinio ein meysydd a sicrhau newidiadau y tu hwnt i'r byd academaidd.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau athroniaeth
Cymerwch olwg ar ein cyrsiau israddedig.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.