Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

star

Lleoliadau gwaith sydd ar gael

Rydym yn cynnig lleoliadau gwaith ac astudiaethau tramor blwyddyn o hyd ar ein cyrsiau daeareg, sydd i gyd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Ddaearegol, y corff proffesiynol ar gyfer geowyddorau yn y DU.

briefcase

Cysylltiadau lleol

Lleolir ein Hysgol yn yr un adeilad â swyddfa Gymreig Arolwg Daearegol Prydain a drws nesaf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

globe

Sgiliau anghenion cymdeithas

Mae ynni a chynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd, rheoli dŵr, adnoddau mwynol a pheryglon naturiol yn sail i lawer o heriau byd-eang, sy’n creu galw cynyddol am sgiliau daearegol.

Roedd astudio daeareg ym Mhrifysgol Caerdydd yn wych, yn enwedig y gallu i deilwra modiwlau i’ch diddordebau chi. Rhoddodd yr hyblygrwydd hwn fantais i mi wrth wneud cais am swyddi gan fod y modiwlau a fy ngwaith ymchwil yn gysylltiedig â fy hoff faes gwaith. Ar ôl graddio, ymunais â Bibby HydroMap fel geoffisegwr graddedig.
Sarah Newnes, Daeareg (MSci)

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Daeareg (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Mae'r radd Meistr pedair blynedd achrededig hon yn ymchwilio i ffurfiad y Ddaear a'i hesblygiad cyson gan ganolbwyntio ar ddysgu sut i gynnal ymchwil.

Daeareg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae daearegwyr yn astudio'r mwynau a'r creigiau sy'n ffurfio'r Ddaear solet, y prosesau sy'n digwydd ar ac o fewn ein planed, ac esblygiad bywyd ar ei harwyneb.

Daeareg Fforio (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae daearegwyr fforio yn gyfrifol am nodi ac asesu lleoliad, maint ac ansawdd dyddodion mwynau.

Daeareg Fforio (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Arbenigo mewn archwilio ein hadnoddau naturiol ac ennill sgiliau ymchwil gwerthfawr ar y radd bedair blynedd hon.

Daeareg Fforio gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae daearegwyr fforio yn gyfrifol am nodi ac asesu lleoliad, maint ac ansawdd dyddodion mwynau.

Daeareg gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae daearegwyr yn astudio'r mwynau a'r creigiau sy'n ffurfio'r Ddaear solet, y prosesau sy'n digwydd ar ac o fewn ein planed, ac esblygiad bywyd ar ei harwyneb.

Geowyddor Amgylcheddol (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Mae'r radd pedair blynedd hon yn cyfuno cydrannau Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol, gan ganolbwyntio ar ddysgu sut i gynnal eich prosiect ymchwil eich hun.

Geowyddor Amgylcheddol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae geowyddonwyr amgylcheddol yn archwilio materion geoamgylcheddol dynol a naturiol, megis geoberyglon, daeareg beirianneg, llygredd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr.

Geowyddorau Amgylcheddol gyda Blwyddyn yn Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae geowyddonwyr amgylcheddol yn archwilio materion geoamgylcheddol dynol a naturiol, megis geoberyglon, daeareg beirianneg, llygredd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr.

Cyfleusterau a lleoliad

Ein sgyrsiau

Mae Dr Jenny Pike, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, yn esbonio ein meysydd pwnc eang ac yn rhoi blas i chi ar y rhaglenni gradd rydym yn eu cynnig.

Ein Hysgol a’n meysydd pwnc

Mae Dr Jenny Pike, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, yn esbonio ein meysydd pwnc eang ac yn rhoi blas i chi ar y rhaglenni gradd rydym yn eu cynnig.

Mae Dr Jenny Pike yn disgrifio strwythur ein rhaglenni gradd gan gynnwys ein dulliau addysgu, oriau cyswllt a'n dewis eang o fodiwlau.

Ein rhaglenni gradd

Mae Dr Jenny Pike yn disgrifio strwythur ein rhaglenni gradd gan gynnwys ein dulliau addysgu, oriau cyswllt a'n dewis eang o fodiwlau.

Mae’r Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Dr Andrew Kerr, yn rhoi arweiniad cyffredinol ar y math o gefndir yr ydym yn ei ddisgwyl gennych i astudio gyda ni. Gellir cael gofynion mynediad ar dudalennau’r cyrsiau.

Gofynion mynediad 2021/22

Mae’r Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Dr Andrew Kerr, yn rhoi arweiniad cyffredinol ar y math o gefndir yr ydym yn ei ddisgwyl gennych i astudio gyda ni. Gellir cael gofynion mynediad ar dudalennau’r cyrsiau.

Mae Dr Iain McDonald yn archwilio'r cyfleoedd taith maes sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ein rhaglenni gradd daeareg a’r geowyddorau.

Gwaith maes i ddaearegwyr

Mae Dr Iain McDonald yn archwilio'r cyfleoedd taith maes sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ein rhaglenni gradd daeareg a’r geowyddorau.

Mae Dr Andrew Kerr yn adolygu rhai o'r gyrfaoedd posibl y gellir eu dilyn ar ôl astudio gyda ni, gan gynnwys astudiaethau achos gan gynfyfyrwyr.

Gyrfaoedd i raddedigion

Mae Dr Andrew Kerr yn adolygu rhai o'r gyrfaoedd posibl y gellir eu dilyn ar ôl astudio gyda ni, gan gynnwys astudiaethau achos gan gynfyfyrwyr.

Rhoddodd astudio Daeareg Archwilio ym Mhrifysgol Caerdydd sylfaen gadarn o wybodaeth a sgiliau i mi ar gyfer gweddill fy ngyrfa yn y diwydiant fforio a mwyngloddio. Mae Caerdydd yn ddinas mor wych ac egnïol lle gwnes i gymaint o atgofion gwych. Roedd gennym ni gymuned mor gryf o fyfyrwyr daeareg, a daeth rhai ohonynt yn ffrindiau oes i mi
Eleanor Capuano, BSc Archwilio Daeareg

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate

Gweld y cyrsiau

Edrychwch ar ein cyrsiau israddedig a’n meini prawf derbyn.

Download icon

Lawrlwytho’r llyfryn

Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.

mobile-message

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i gyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill efallai y bydd gennych ddiddordeb ynddynt

Underwater species survey in Samos

Daearyddiaeth (Ffisegol)

Archwiliwch y tirweddau, yr hinsawdd a'r prosesau ffisegol deinamig sy'n siapio wyneb y Ddaear. Gallwch ddewis canolbwyntio ar yr heriau byd-eang sy'n wynebu ein cefnforoedd neu'r effaith y mae bodau dynol yn ei chael ar ein planed a sut y gallwn symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Bird's eye view of a beautiful landscape

Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Dysgwch sut i warchod ein planed am genedlaethau i ddod. P'un a ydych chi'n dewis astudio daearyddiaeth, daeareg neu wyddor cynaliadwyedd amgylcheddol, byddwch chi'n ennill gwybodaeth a sgiliau gwyddonol i effeithio ar ddatblygiadau a phenderfyniadau amgylcheddol allweddol.

Student looking at a map

Daearyddiaeth ddynol a chynllunio

Ydych chi’n angerddol am fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol byd-eang i wella ble a sut rydym yn byw? Ein rhaglenni daearyddiaeth ddynol a chynllunio yw'r dewis i chi.


Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.

Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.