Cyfrifiadureg
Ein nod yw rhannu cyffro datblygiadau technolegol cyfredol gyda’n myfyrwyr drwy ein portffolio deinamig o raddau cyfoes ac sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, gan addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y meysydd cyfrifiadureg a pheirianneg meddalwedd, y mae mawr alw amdanynt.
Pam astudio gyda ni?
Rhagolygon gyrfa ardderchog
Mae 95% o'n myfyrwyr mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl graddio. (Data HESA)
Cyfleusterau rhagorol
Mae ein myfyrwyr yn dweud yn gyson ein bod ymhlith prifysgolion gorau’r DU o ran cael mynediad at gyfarpar, ystafelloedd a chyfleusterau pan mae eu hangen arnynt.
Rhagoriaeth Addysgu
Maer addysgu arloesol a chydweithredol yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi cael cydnabyddiaeth gyson drwy ennill nifer o wobrau uchel eu parch.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau
Mae ein staff a’n myfyrwyr wedi creu nifer o fideos gwahanol i’ch tywys drwy agweddau amrywiol ar y profiad o astudio yma yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Gobeithiwn y cewch flas go iawn ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl fel myfyriwr Cyfrifiadureg neu Beirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd ac y gallwn ateb y cwestiynau niferus a allai fod gennych wrth i chi ystyried pa Brifysgol sy’n iawn i chi.
Clywed gan ein myfyrwyr
Cyfle i glywed gan rai o'n myfyrwyr sy'n rhoi cipolwg uniongyrchol ar sut brofiad yw astudio naill ai Cyfrifiadureg neu Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mwy o resymau dros ein dewis ni
Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol
Mae'r Academi Feddalwedd Genedlaethol yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer addysg peirianneg meddalwedd yng Nghymru ac yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y diwydiant i fynd i'r afael â'r prinder cenedlaethol o raddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus.
Darganfyod Prifysgol Caerdydd
Next steps
Cymerwch olwg ar holl gyrsiau Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwythwch lawlyfr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltwch â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.