
Cemeg
Mae ein rhaglenni gradd achrededig yn cyfuno theori â phrofiad ymarferol yn y labordy a'r cyfle i weithio mewn diwydiant neu astudio dramor fel rhan o'ch gradd.
Pam astudio gyda ni?
Gyda chyfleusterau, addysgu, cyrsiau a rhagolygon gyrfaol o’r radd flaenaf, mae digon o resymau i astudio cemeg yng Nghaerdydd.
Cyrsiau hyblyg
Mae ein detholiad o fodiwlau yn rhoi’r hyblygrwydd i chi allu llywio eich astudiaethau.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio dramor a lleoliadau gwaith mewn diwydiant blwyddyn o hyd ar gyfer pob un o’n cyrsiau.
Ysgol Cemeg flaenllaw
Rydym yn un o'r ugain Ysgol Cemeg orau yn y DU (Complete University Guide 2020).
Rwy’n falch fy mod wedi dewis astudio cemeg gan fy mod yn dysgu rhywbeth sy’n fy syfrdanu bob dydd. Mae strwythur y cwrs yng Nghaerdydd wedi caniatáu i mi gael cydbwysedd rhwng astudiaethau a gweithgareddau allgyrsiol fel chwaraeon a chymdeithasau. Yn fy marn i, mae hyn yn rhan hanfodol o brofiad pawb yn y brifysgol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein hadeiladau a'n cyfleusterau

Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae’r Ysgol Cemeg wedi’i lleoli ym Mhrif Adeilad rhestredig Gradd 2 eiconig y Brifysgol. Mae’n gartref i nifer o labordai addysgu israddedig, y Llyfrgell Gwyddoniaeth ac ystafelloedd cyfrifiaduron, a sawl darlithfa fodern.

Llyfrgell Gwyddoniaeth
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae'r llyfrgell yn cynnwys casgliadau biowyddorau, cemeg, gwyddorau’r Ddaear a'r amgylchedd, ynghyd â chyfleusterau i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.

Sefydliad Catalysis Caerdydd
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladYma rydyn ni’n cynnal ymchwil arloesol er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o gatalysis, datblygu prosesau catalytig newydd gyda’r diwydiant, a hyrwyddo’r defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.

Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.

Bwyty'r Prif Adeilad
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae gan y Prif Adeilad, sy’n gartref i’r Ysgol Cemeg, fwyty sy’n berffaith ar gyfer bachu rhywbeth cyflym i’w fwyta neu gwrdd â ffrindiau.

Darlithfeydd
Wedi'i leoli yn Main BuildingBydd rhai o’ch darlithoedd yn y flwyddyn gyntaf yn digwydd yn y darlithfeydd mawr. Mae darlithfeydd llai yn ein Prif Adeilad hefyd, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth ledled Adeilad Morgannwg, lle cynhelir eich tiwtorialau.

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.

Labordy
Wedi'i leoli yn Main BuildingDyma labordy nodweddiadol lle bydd myfyrwyr cemeg yn gwella eu sgiliau ymarferol, gan gynnwys perfformio mesuriadau dadansoddol (e.e. sbectrosgopeg uwchfioled–weladwy) a datblygu technegau synthetig (e.e. distyllu, hidlo, cromatograffeg).
Ein sgyrsiau
Ein Hysgol a’n myfyrwyr
Edrychwch ar ein cyfleusterau a dysgu mwy am y gwasanaethau cefnogi, opsiynau astudio a chyfleoedd sy’n ein gosod ni ar wahân. Gwyliwch ein fideos gan fyfyrwyr ar astudio dramor, gweithio mewn diwydiant, a bywyd myfyrwyr cemeg i weld drosoch chi’ch hun sut brofiad yw astudio gyda ni.
Gweld pob un o’n rhaglenni gradd mewn cemeg. Gellir cael gofynion mynediad ar dudalennau’r cyrsiau.

Ewch ar daith 360
Ewch am daith o gwmpas ein cyfleusterau a thu hwnt gyda’n taith 360.
Mae adeiladau'r brifysgol yn fawreddog ac yn ysbrydoli dysgu. Rwy’n dwlu ar leoliad yr Ysgol Cemeg, sydd ger Prif Adeilad y Brifysgol, ac sydd wedi’i hategu gan Lyfrgell Gwyddoniaeth gwych.

Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion yn llwyddiannus iawn ac yn dilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd boddhaus. Mae llawer o opsiynau ar gael i raddedigion cemeg, ac os penderfynwch newid eich llwybr gyrfa, bydd y sgiliau rydych chi'n eu dysgu yn eich gradd yn dal i fod yn ddefnyddiol mewn ystod eang o feysydd gwahanol.
Roedd 98% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau cemeg
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.