
Seicoleg
Os ydych chi’n chwilfrydig i wybod sut mae’r meddwl a’r ymennydd yn gweithio, seicoleg yw'r pwnc i chi.Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn cynnig dau gwrs israddedig, gradd BSc Seicoleg tair blynedd a BSc Seicoleg pedair blynedd gyda Lleoliad Proffesiynol.
Pam astudio gyda ni?
Achredir gan y BPS
Ein rhaglenni hon yn bodloni’r safonau ansawdd uchel ar gyfer addysg a amlinellir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).
Ymhlith y 10 prifysgol orau
Rydyn ni ymhlith y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer Seicoleg yn Complete University Guide o Brifysgolion Gorau’r Byd 2024.
Cewch brofiad proffesiynol yn rhan o’ch gradd
Hefyd, rydym yn un o lond dwrn o ysgolion seicoleg sy’n cynnig y cyfle i chi fagu profiad proffesiynol drwy ein cwrs Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol (BSc).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Mae’r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau – gan roi cyfle i bob myfyriwr archwilio ei ddiddordebau. Yn benodol, roeddwn yn gweld bod blwyddyn y Lleoliad opsiynol o fudd; roedd wedi fy helpu i weld cynnwys y cwrs o safbwynt mwy cymhwysol, yn ogystal â rhoi’r hyder a’r sgiliau i mi ddilyn fy llwybr gyrfaol dewisol!
Darlithoedd rhagflas
Gwneud penderfyniadau
Mefus neu fanila? Esgidiau arferol neu rai chwaraeon? Rydym yn gwneud rhai dewisiadau yn gyflym ac yn ddi-feddwl, tra bod penderfyniadau eraill yn cymryd llawer mwy o amser i ni ac yn aml yn ein poeni. Darganfyddwch y seicoleg y tu ôl i wneud penderfyniadau yn y ddarlith ragflas hon a draddodwyd gan yr Athro Marc Buehner, sy'n addysgu modiwl gwneud penderfyniadau ar y cwrs.
Peirianneg cwsf
Mae cwsg yn hanfodol ar gyfer iechyd a gwybyddiaeth. Mae ein hymchwilwyr yn datblygu ffyrdd o drin cwsg (peirianneg cwsg), er mwyn gwella'r cof, lleddfu emosiynau negyddol, ac ymladd yn erbyn dirywiad gwybyddol heneiddio. Dewch i ddarganfod byd hynod ddiddorol peirianneg cwsg gyda'r Athro Penny Lewis.
Lleoliadau
Mae ein gradd BSc gyda Lleoliad Proffesiynol yn un o’r rhaglenni lleoliadau hynaf yn y wlad. Mae gennym gytundebau gyda thros 100 o sefydliadau, a gallwn gynnig lleoliadau rhagorol mewn lleoliadau clinigol, fforensig, addysgol, sefydliadol, diwydiannol ac ymchwil.
Mae’r rhain ar gael yn lleol yng Nghaerdydd, ledled y DU, a thramor yn Ewrop a thu hwnt. Tra y byddwch ar leoliad, byddwch yn dal i gael eich cefnogi gan staff yr Ysgol, a fydd yn ymweld â’ch man gwaith ac yn sicrhau bod eich lleoliad yn cynnig gwerth i chi.

Eich gyrfa
Gall gradd mewn seicoleg roi amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaol i chi ac mae seicolegwyr yn cael eu cyflogi’n fwyfwy aml mewn amrywiaeth o sectorau. Gan ddibynnu ar eich diddordebau, mae’n bosibl y byddwch am fynd ymlaen i fod yn seicolegydd clinigol, seicolegydd fforensig, seicolegydd iechyd, seicolegydd galwedigaethol, seicolegydd chwaraeon, seicolegydd addysgol, cwnselwr, ymchwilydd neu academydd.
Mae angen hyfforddiant ôl-raddedig penodol ar rai llwybrau gyrfa - mae ein rhaglenni ôl-raddedig yn gymysgeddau amrywiol o fodiwlau a addysgir, gwaith ymchwil ac arferion proffesiynol, ac maent yn arwain at amrywiaeth o ddewisiadau o ran gyrfa.
Ein Hysgol
Rydym yn angerddol am seicoleg ac mae ein Hysgol wedi’i hen sefydlu, mae ganddi adnoddau da, ac enw rhagorol yn rhyngwladol. Ynghyd â'n cyfleusterau ymchwil rhagorol, mae gennym hefyd gyfleusterau israddedig pwrpasol i sicrhau y cewch y profiad gorau posibl, gan gynnwys:
- Darlithfeydd newydd eu hadnewyddu
- Ystafell gyffredin i israddedigion gyda gofod astudio modern ac amrywiol
- Labordy cyfrifiadura
- Ystafelloedd ymchwil i fyfyrwyr israddedig wedi’u haddasu ar gyfer astudiaethau aml-gyfranogwyr
- Ystafelloedd seminar rhyngweithiol ynghyd ag arddangosfeydd clyfar
Rhagor o wybodaeth
Mae astudio seicoleg yng Nghaerdydd wedi bod o fudd mawr i mi, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, gan fod popeth yr ydym ni’n ei ddysgu’n ddiddorol ac yn berthnasol; a phan mae tiwtorialau’n llawn cynnwys diddorol ac wedi’u haddysgu gan ddarlithwyr brwdfrydig a gwybodus tu hwnt, mae’n anodd peidio â chael eich ysbrydoli!
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Pob cwrs Seicoleg israddedig
Edrychwch ar ein cyrsiau.
Lawrlwytho llyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltu
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cyflwyno cais
Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais drwy'r broses Clirio.