
Ffisiotherapi
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen yw’r un orau yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yng Nghymru
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Ffisiotherapi yw’r un orau yng Nghymru.
3ydd yn y DU
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 mae ein rhaglen Ffisiotherapi yn 3ydd yn y DU.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein lleoliad
Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgwrs
Mae Tiwtor Derbyn Ffisiotherapi (BSc), Steven Dandol, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Roeddwn am fod yn ffisiotherapydd er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac rwy’n credu y byddaf yn tyfu i fod y gweithiwr iechyd proffesiynol gorau posibl, o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Emma, myfyrwraig Ffisiotherapi (BSc) yn y drydedd flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Mae’n bleser cael gradd mewn Ffisiotherapi o Brifysgol Caerdydd. Mae'n rhaglen hollol anhygoel sy'n rhoi sail gref i raddedigion am oes ym myd ffisio!
Ewch ar daith rithwir o gwmpas ein cyfleusterau

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Gweld ein cyrsiau ffisiotherapi
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.