Mathemateg a Cherddoriaeth (BA)
- Meysydd pwnc: Mathemateg, Cerddoriaeth
- Côd UCAS: GW13
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Yr offeryn o’ch dewis
Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.
Cyfleusterau o’r radd flaenaf
Mae Abacws, cartref newydd Mathemateg, yn cynnwys mannau pwrpasol i fyfyrwyr wneud gwaith prosiect, mannau ar gyfer partneriaid yn y diwydiant ac Ystafell Fasnachu.
Interniaethau yn y diwydiant cerddoriaeth
Cysylltwch â cherddorion drwy weithdai cyfansoddi; dosbarthiadau meistr perfformio, a chyfresi o gyngherddau.
Cefnogaeth bersonol
Cyngor academaidd ac anacademaidd gan eich tiwtor; labordai cyfrifiadurol wedi’u goruchwylio a sesiynau galw heibio bob dydd.
Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth
Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.
Mae’r radd Gyd-anrhydedd hon yn galluogi myfyrwyr i astudio Cerddoriaeth a Mathemateg ar y cyd.
Byddwch yn treulio mwy neu lai’r un faint o amser ar y naill bwnc, gan olygu eich bod yn gallu elwa ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cerddorol ochr yn ochr ag astudio pwnc cyfareddol a heriol Mathemateg. Byddwch yn cael eich annog i fynd ar drywydd meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy gyrsiau modiwlaidd hynod hyblyg.
Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer yr astudio Cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.
Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Cerddoriaeth Safon Uwch ond bod gennych chi Radd 7/8 Theori (neu'n gweithio tuag ati) a’ch bod chi’n astudio pynciau priodol ar Safon Uwch.

Maes pwnc: Mathemateg
Maes pwnc: Cerddoriaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Os ydych yn gwneud cais i astudio'r cwrs yma drwy Glirio, gall gofynion graddau mynediad fod yn uwch na'r rhai a hysbysebwyd. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-ABB. Rhaid cynnwys gradd A mewn Mathemateg a gradd B mewn Cerddoriaeth.
Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Mathemateg a Cerddoriaeth HL.
Bydd ymgeiswyr heb Lefel Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
Graddau DD mewn Diploma BTEC mewn Cerddoriaeth, yn ogystal â gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.
Gradd dair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddwy Ysgol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Ar y cwrs Cerddoriaeth, mae’r flwyddyn gyntaf yn gosod y sylfeini i’ch paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol.
I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.
Ym Mathemateg, mae blwyddyn un ar hyn o bryd yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol. Y rhain yw Sylfeini Mathemateg I, Fectorau a Matricsau, Sylfeini Mathemateg II a Hafaliadau Differol Elfennol.
Sylwer bod rhai modiwlau yn y ddau bwnc yn 'rhagofynion' sy'n rhoi paratoad hanfodol ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Elementary Differential Equations | MA1001 | 10 Credydau |
Foundations of Mathematics I | MA1005 | 20 Credydau |
Foundations of Mathematics II | MA1006 | 20 Credydau |
Linear Algebra I | MA1008 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Composition 1A | MU1113 | 20 Credydau |
Techniques in Jazz and Popular Music | MU1201 | 20 Credydau |
Composition 1B | MU1213 | 20 Credydau |
Elements of Tonal Theory | MU1311 | 20 Credydau |
Writing About Music | MU1312 | 20 Credydau |
Music as Culture | MU1320 | 20 Credydau |
Case Studies in Music History | MU1321 | 20 Credydau |
Practical Portfolio I | MU1322 | 20 Credydau |
Practical Musicianship 1 | MU1325 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.
Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
O ran Mathemateg, gweler y rhestr modiwlau i weld manylion y modiwlau unigol sydd ar gael.
Noder nad yw Ystadegau ar gael fel maes pwnc i fyfyrwyr sy'n dilyn Cerddoriaeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Calculus of Several Variables | MA2001 | 10 Credydau |
Complex Analysis | MA2003 | 10 Credydau |
Series and Transforms | MA2004 | 10 Credydau |
Linear Algebra II | MA2008 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Real Analysis | MA2006 | 10 Credydau |
Vector Calculus | MA2301 | 10 Credydau |
Modelling with Differential Equations | MA2320 | 10 Credydau |
From Palaces to Proms: A History of Performance Practices (1700-1890) | MU2124 | 20 Credydau |
The Business of Music 1 | MU2141 | 20 Credydau |
Composition 2A | MU2142 | 20 Credydau |
Formal Functions in the Classical Tradition | MU2157 | 20 Credydau |
Orchestration | MU2161 | 20 Credydau |
Reading Film Sound | MU2181 | 20 Credydau |
Music in France Since 1900 | MU2212 | 20 Credydau |
Composition 2B | MU2233 | 20 Credydau |
Studio Techniques 1 | MU2235 | 20 Credydau |
Ethnomusicology 2: Music in Cross-Cultural Perspective | MU2271 | 20 Credydau |
The Business of Music 2 | MU2272 | 20 Credydau |
Analysing 20th Century Music | MU2291 | 20 Credydau |
Practical Portfolio 2 | MU2301 | 20 Credydau |
Practical Musicianship 2 | MU2361 | 20 Credydau |
Blwyddyn tri
O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a chewch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.
Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'agored' o flaen arholwyr a chynulleidfa a wahoddir yn unig (Dawn Gerddorol Ymarferol IV).
Nid oes modiwlau craidd ar gyfer Mathemateg ym mlwyddyn tri.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
O ran Cerddoriaeth, cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg a cherddoriaeth boblogaidd.
Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.
Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.
Mae Mathemateg yn seiliedig ar ddarlithoedd wedi eu hategu gan ddosbarthiadau enghreifftiol (a dosbarthiadau labordy lle bo'n briodol). Ym mhob blwyddyn, defnyddir y dosbarthiadau i drafod cysyniadau damcaniaethol a thechnegau mathemategol hanfodol. Cewch eich annog i ddarllen rhagor y tu allan i'r dosbarthiadau yn yr amserlen, ac ymwneud yn llawn a myfyrio ar yr asesiadau a gaiff eu cynnal. Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.
Sut y caf fy nghefnogi?
O ran Cerddoriaeth, ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.
Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.
Mewn Mathemateg mae tiwtorialau academaidd wedi eu trefnu ar gyfer pob modiwl craidd ym Mlwyddyn Un, a byddwch hefyd yn cael tiwtor personol sy'n gallu cynnig cyngor, arweiniad a chymorth bugeiliol i chi. Mae gwasanaeth galw heibio bob dydd yn yr Ysgol, hefyd, lle gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â Mathemateg.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl a gallent gynnwys traethawd aseiniadau, cyflwyniadau, prosiectau estynedig, perfformiadau ac arholiadau ysgrifenedig.
Mae gan lawer o fodiwlau Mathemateg arholiadau ysgrifenedig ar ddiwedd semestrau'r hydref neu'r gwanwyn, ac mae gan rai ohonynt elfen asesu parhaus hefyd. Gall hyn gynnwys ymarferion datrys problemau, adroddiadau ysgrifenedig, rhaglenni cyfrifiadurol neu gyflwyniadau. Gweler y disgrifiadau o’r modiwlau am ragor o fanylion.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:
- llythrennedd datblygedig
- llythrennedd cyfrifiadurol
- meddwl yn rhesymegol a dadansoddol am broblemau
- sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
- ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
- creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
- nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Ysgol Cerddoriaeth
Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.
Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.
Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.
Ysgol Mathemateg
Bydd y rhaglenni gradd Mathemateg yn eich arfogi â sgiliau rhifiadol arbenigol ac yn datblygu eich gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn ddadansoddol. Mae'r rhain yn nodweddion y mae galw amdanynt ar draws amrywiaeth eang o yrfaoedd ysgogol a gwerth chweil.
Yn ogystal â’r addysg ffurfiol ar y rhaglen, mae’r Ysgol Mathemateg hefyd yn ymgysylltu'n helaeth â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, nifer o gyflwyniadau gan gwmnïau yn yr Ysgol, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a noddir ar gyfer cyflawniad academaidd.
Lleoliadau
Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.