Ewch i’r prif gynnwys

Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (MMORS)

  • Maes pwnc: Mathemateg
  • Côd UCAS: 252F
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 5 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn dramor

Pam astudio'r cwrs hwn

Cyfuno'r astudiaeth uwch o fathemateg, ystadegau ac ymchwil weithredol gyda thrydedd flwyddyn llawn antur yn astudio mewn prifysgol dramor.

globe

Blwyddyn dramor

Byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor lle byddwch yn dysgu wrth i chi deithio ac yn profi arferion a diwylliant gwlad wahanol.

book

Gwybodaeth arbenigol

Ochr yn ochr â dysgu technegau mathemategol uwch, byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol drwy edrych yn fanwl ar bynciau y tu hwnt i gwmpas y radd BSc.

scroll

Blwyddyn yn seiliedig ar brosiectau

Yn ystod eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gwblhau prosiect mathemategol sylweddol ar lefel uwch ym maes ymchwil o'ch dewis.

building

Cyfleusterau rhagorol

Byddwch yn cael eich addysgu yn Abacws, cartref newydd yr Ysgol Mathemateg. Mae’r adeilad blaenllaw hwn wedi'i ddylunio mewn cydweithrediad â myfyrwyr a staff academaidd i greu mannau gwaith rhyngddisgyblaethol, hyblyg a chreadigol, ac mae mannau addysgu arloesol yn nodwedd allweddol, gan gynnwys Ystafell Masnachu efelychiadol newydd ar gyfer mathemateg ariannol.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Achredir y radd hon gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau .

Ennill dealltwriaeth ddyfnach o Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth ar y radd MMORS pedair blynedd. Mae’r cwrs yn ymhelaethu ar y BSc i’ch paratoi ar gyfer mynediad lefel uchel i alwedigaethau perthnasol. Mae hefyd yn sylfaen gadarn ar gyfer dilyn gyrfa ymchwil.

Mae'r cwrs MMORS yr un peth â'r BSc tair blynedd mewn Mathemateg, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth gyda blwyddyn astudio ychwanegol lle byddwch chi'n cwblhau darn mawr o waith prosiect. Gallai hyn gynnwys:

  • arolwg o faes theori mathemateg sydd eisoes yn bodoli, ond nad yw'n rhan o’r modiwlau a addysgir
  • prosiect ymchwil rhagarweiniol
  • datblygu darn o feddalwedd mathemategol

Byddwch yn archwilio pwnc ymchwil o'ch dewis ac yn datblygu'r sgiliau rheoli prosiect ac amser y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt. Ar ben hynny, byddwch yn ennill y sgiliau, y dulliau a'r ffyrdd o feddwl angenrheidiol i ddadansoddi a mynd i'r afael â phroblemau trefnu cymhleth a dod yn ddadansoddwr ystadegol hyderus.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor yn ystod eich trydedd flwyddyn cyn dychwelyd i Gaerdydd. Mae gan ein Hysgol gytundebau gyda sefydliadau ledled y byd, a bydd gennych gefnogaeth i wneud cais am eich blwyddyn dramor.

Mae astudio dramor fel rhan o’ch profiad yn y brifysgol yn ffordd wych o ehangu’ch gwybodaeth academaidd, o ymgolli mewn diwylliant arall, ac o ddysgu sgiliau y gallai cyflogwyr eu gwerthfawrogi. Bydd nid yn unig yn gwella eich CV drwy ddangos sgiliau allweddol fel cyfathrebu, hyblygrwydd, a gweithio ar y cyd, gall roi cyfleoedd gwerthfawr i chi rwydweithio hefyd. Yn anad dim, mae'n ddechrau ar antur newydd. Cyfle i brofi gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau, gwneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau bythgofiadwy.

Achrediadau

Maes pwnc: Mathemateg

  • academic-schoolYr Ysgol Mathemateg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAA-AAB. Rhaid i'r rhain gynnwys cynnwys gradd A mewn Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Dadansoddiad a Dulliau Mathemateg neu Fathemateg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ni fydd cyfweliadau. Mae'r dewis wedi'i seilio'n gyfan gwbl ar berfformiad Safon Uwch (neu gyfwerth). Bydd ymgeiswyr cyd-destunol yn cael cynnig a byddant yn amodol i ystyriaeth ychwanegol. Gwahoddir pob ymgeisydd i fynychu diwrnod Agored lle byddant yn ymweld â'r Ysgol Mathemateg. Gwneir cynigion i bob ymgeisydd sydd â'r potensial i fodloni'r cynnig.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,350 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim
Blwyddyn pump £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 Dim
Blwyddyn dau £28,200 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £4,230 Dim
Blwyddyn pedwar £28,200 Dim
Blwyddyn pump £28,200 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Ar gyfer y Flwyddyn Astudio Dramor, mae gan fyfyrwyr hawl i'w Benthyciad Myfyriwr arferol, a 15% yn unig o'r ffi arferol yw'r ffioedd dysgu. Mae angen i fyfyrwyr ystyried costau ychwanegol fel tocynnau awyren, yswiriant iechyd ac ati ond byddai hyn yn cael ei wneud yn glir i fyfyrwyr cyn iddynt gwblhau eu trefniadau ar gyfer eu prifysgol dramor. Mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig cefnogaeth tuag at brisiau tocynnau awyren rhwng £500 a £700. Ar gyfer partneriaid cyfnewid yn yr UE, mae cynllun Erasmus yn cynnig cefnogaeth ariannol.

Dylai myfyrwyr nodi y gallai costau byw mewn gwledydd eraill fod yn uwch na chostau byw yn y DU. Bydd angen yswiriant iechyd hefyd. Mae'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig cyngor ar gost astudio dramor.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Beth y dylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Cyfrifiannell sy'n bodloni rheoliadau arholiadau Prifysgol Caerdydd.

Efallai y bydd myfyrwyr eisiau prynu gwerslyfrau ond mae copïau ar gael drwy lyfrgelloedd y brifysgol.

Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Labordai, labordai cyfrifiadurol a meddalwedd priodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs amser llawn pum mlynedd yw hwn. Ym mhob blwyddyn o’r Rhaglen, byddwch yn cymryd Modiwlau gwerth hyd at 120 o gredydau. Yn y flwyddyn gyntaf mae modiwlau gorfodol mewn Mathemateg Pur, Ystadegau a Chyfrifiadura yn ogystal ag ystod o fodiwlau dewisol.

Mae'r modiwlau craidd ym Mlwyddyn 2 yn parhau i feithrin eich dealltwriaeth sylfaenol o Fathemateg ac Ystadegau, a chyflwynir pwnc Ymchwil Weithrediadol.

Os ydych chi'n dymuno astudio dramor mewn gwlad lle nad Saesneg yw’r iaith swyddogol, disgwylir y byddwch chi'n astudio rhai modiwlau iaith priodol ym Mlynyddoedd 1 a 2.

Treulir blwyddyn 3 mewn prifysgol dramor. Byddwch yn treulio o leiaf 50% o'ch amser yn astudio modiwlau Mathemateg.

Mae Blwyddyn 4 yn cynnwys nifer fawr o fodiwlau dewisol sy'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar y meysydd Mathemateg Pur, Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth y maent yn eu mwynhau yn arbennig.

Mae Blwyddyn 5 yn cynnwys traethawd ymchwil craidd 40 credyd mewn pwnc o'ch dewis, dan oruchwyliaeth arbenigwr blaenllaw. Mae hyfforddiant ymchwil yn cael ei wella ac mae nifer o fodiwlau dewisol uwch.

Mae dosbarth eich gradd yn seiliedig ar y graddau rydych chi'n eu cyflawni yn y modiwlau rydych chi'n eu cymryd ym mlynyddoedd dau, pedair a phump a'r Flwyddyn Astudio Dramor.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ym Mlwyddyn Un, mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n orfodol, ond, mae elfen o ddewis sy'n eich galluogi i ddewis rhwng modiwlau mewn Mecaneg a Chyllid. Mae'r modiwlau mewn Mathemateg yn cwmpasu meysydd sylfaen Calculus, Algebra, Dadansoddi, Cyfrifiadura ac Ystadegau.

Caniateir i chi amnewid rhai modiwlau mathemateg gyda modiwlau iaith os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad nad yw'n siarad Saesneg.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyflawni cyfartaledd o 50% i barhau â'u hastudiaethau i flwyddyn dau o'r cynllun hwn. Os nad ydynt yn cyflawni cyfartaledd o 50%, byddant yn cael eu trosglwyddo i'r cynllun gradd pedair blynedd MMORS Mathemateg, Ymchwil Gweithredol ac Ystadegau, h.y. heb y flwyddyn astudio dramor.

Mae’r rhan fwyaf o Flwyddyn Un yn gyffredin i'n holl gynlluniau gradd ac felly mae fel arfer yn bosib trosglwyddo i radd Mathemateg arall ar ddiwedd blwyddyn un.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Hafaliadau Gwahaniaethol ElfennolMA100110 Credydau
Cyfrifiadura ar gyfer MathemategMA100320 Credydau
GeometregMA100410 Credydau
Sylfeini Mathemateg IMA100520 Credydau
Sylfeini Mathemateg IIMA100620 Credydau
Algebra llinol IMA100810 Credydau
Cyflwyniad i Theori TebygolrwyddMA150010 Credydau
Casgliad ystadegolMA150110 Credydau

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau byddwch yn cymryd 120 credyd mewn mathemateg. Mae 80 credyd yn graidd a bydd y 40 credyd sy’n weddill yn cael eu dewis o nifer o fodiwlau dewisol mewn Mathemateg Bur a Chymhwysol, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Mae canlyniadau Blwyddyn Dau yn cyfrif am 10% o'ch dosbarthiad gradd terfynol.

Gallwch barhau i gymryd modiwlau iaith os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad nad yw'n siarad Saesneg.

Mae'n ofynnol i chi gyflawni cyfartaledd o 55%, o leiaf, a phasio o leiaf 100 credyd i barhau â'ch astudiaethau ar y cynllun gradd MMORS.  Bydd myfyrwyr sy'n methu â gwneud hynny yn cael eu trosglwyddo i'r cynllun gradd BSc Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegau gyda Blwyddyn Astudio Dramor. Cewch gyfle i drosglwyddo rhwng y cynllun gradd â blwyddyn astudio dramor a'r cynllun gradd MMORS safonol tan fis Ionawr Blwyddyn Dau.

Ym mis Tachwedd Blwyddyn Dau, bydd cynrychiolwyr o'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yn ymweld â'r Ysgol Mathemateg a byddant yn cyflwyno manylion i fyfyrwyr am y gwahanol brifysgolion ledled y byd y gall ein myfyrwyr eu mynychu. Bydd cyflwyniadau hefyd gan fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau eu blwyddyn astudio dramor. Yn dilyn hynny, bydd myfyrwyr yn gwneud eu dewis o’r tri prifysgol orau y dymunent eu mynychu; gwneir dyraniadau yn unol â'u cyfartaledd gradd er mwyn ceisio sicrhau bod pob myfyriwr yn mynychu prifysgol o'u dewis.

Ar ddiwedd Blwyddyn Dau cewch gyfle i drosglwyddo i'r cynllun gradd tair blynedd BSc Mathemateg, Ymchwil Gweithredol ac Ystadegau. Gallwch hefyd drosglwyddo i BSc Mathemateg os ydych wedi dewis y modiwlau dewisol priodol ym Mlwyddyn Dau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Calculus o sawl newidynMA200110 Credydau
Dadansoddiad CymhlethMA200310 Credydau
Cyfres a ThrawsnewidiadauMA200410 Credydau
Dadansoddiad go iawnMA200610 Credydau
Algebra llinol IIMA200820 Credydau
Sylfeini Tebygolrwydd ac YstadegauMA250020 Credydau
Ymchwil GweithredolMA260120 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cyflwyniad i Theori Rhif IMA201110 Credydau
Algebra I: GrwpiauMA201410 Credydau
Calculus FectorMA230110 Credydau
Dirgryniadau a ThonnauMA230310 Credydau
Modelu gyda Hafaliadau DifferolMA232010 Credydau
Ystadegau CyfrifiannolMA250210 Credydau
Dadansoddiad RhifiadolMA270110 Credydau
Ymchwiliadau Mathemategol gyda PythonMA276010 Credydau
Cyllid II: Rheoli BuddsoddiMA280010 Credydau
Datrys ProblemauMA290010 Credydau
Datrys ProblemauMA290110 Credydau

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir Blwyddyn Tri mewn prifysgol dramor. Y lleoliadau nodweddiadol yw Canada, Awstralia ac Unol Daleithiau America, yn ogystal â llawer o wledydd Ewrop.

Mae gennych hawl o hyd i wneud cais am fenthyciadau myfyrwyr a dim ond 15% o'r ffi ddysgu arferol yw'r ffi dysgu.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau a dylai o leiaf 50% ohonynt fod yn gysylltiedig â Mathemateg. Bydd y marciau rydych yn eu cyflawni dramor yn cael eu trosi i farciau'r DU gan ddefnyddio tablau trosi safonol Prifysgol Caerdydd. Bydd y marciau hyn yn cyfrannu 80% o'r marc ar gyfer eich blwyddyn astudio dramor. Bydd yr 20% sy'n weddill yn seiliedig ar gyflwyniad y byddwch yn ei roi ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, ac arholiad llafar viva. Bydd hyn yn cwmpasu'r cyrsiau a astudir gennych pan oeddech dramor, a chrynodeb o'ch profiadau diwylliannol a phrofiadau academaidd.

Mae canlyniadau Blwyddyn Tri yn cyfrif am 10% o'ch dosbarthiad gradd terfynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Astudio DramorMA9990120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Nid oes modiwlau craidd ym Mlwyddyn Pedwar. Mae cysylltiad agos rhwng y modiwlau ym Mlwyddyn Pedwar, a diddordebau ymchwil yr Ysgol. Dewisir 120 credyd o fodiwlau dewisol. Mae ystod eang o fodiwlau dewisol, sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar feysydd sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Dylai o leiaf 50% o'ch modiwlau blwyddyn pedwar fod ym meysydd Ymchwil Weithredol neu Ystadegau.

Mae canlyniadau blwyddyn pedwar yn cyfrif am 30% o'ch dosbarthiad gradd terfynol.

Gall fyfyrwyr ar ddiwedd Blwyddyn Pedwar ddewis graddio gyda gradd BSc.

Blwyddyn pump

Ym Mlwyddyn Pump mae'r cwrs yn datblygu hyfforddiant ymchwil a sgiliau mathemategol uwch. Mae darn mawr o waith prosiect hefyd, lle byddwch yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd ym mhedair blynedd gyntaf y radd, er mwyn mynd i'r afael â rhai problemau ymarferol neu ddamcaniaethol. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, yn ogystal â defnyddio eich sgiliau mathemategol mewn pwnc ymchwil o'ch dewis.

Darperir hyfforddiant ar gyfer y traethawd hir ar ddechrau Blwyddyn Pump gyda nifer o ddarlithoedd ychwanegol a fydd yn ymdrin â sgiliau ymchwil a chyfathrebu.

Mae amrywiaeth o fodiwlau dewisol ar gael mewn Mathemateg Bur, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol.

Mae canlyniadau Blwyddyn Pump yn cyfrif am 50% o'ch dosbarthiad gradd terfynol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Prosiect MMathMA490040 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Damcaniaeth Gwybodaeth QuantumMA401620 Credydau
Calculus o AmrywiadauMA402320 Credydau
Pynciau Uwch mewn Dadansoddiad: Gofodau Sobolev a PDEs ElliptigMA402420 Credydau
Bioleg FathemategolMA430920 Credydau
Ystadegau Data MawrMA451120 Credydau
Sgôr Risg CredydMA451210 Credydau
Rhaglennu Ystadegol gyda R a ShinyMA451410 Credydau
Chwilio ac Optimeiddio StocastigMA460120 Credydau
Modelu Cadwyn GyflenwiMA460610 Credydau
Modelu Gofal IechydMA460910 Credydau
Modiwl DarllenMA490120 Credydau
Modiwl DarllenMA490220 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae gwybodaeth graidd yn cael ei haddysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarfer, sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach ac astudio dan arweiniad. Mae Mathemateg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, gan adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol

Mae'r ddwy flynedd gyntaf yn canolbwyntio ar roi dealltwriaeth sylfaenol. Mae Blynyddoedd Pedwar a Phump yn ymdrin ag ystod o ddeunydd pwnc cyfoes, gan adlewyrchu diddordebau ymchwil yn yr Ysgol. Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a thaflu goleuni ar y pwnc.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach yn cael eu cynnal ym mhob modiwl mathemateg. Mae ymarferion yn rhan annatod o‘r holl fodiwlau sy'n seiliedig ar ddarlithoedd. Mae'r rhain yn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth a gwella eich sgiliau datrys problemau. Ar hyn o bryd cynhelir dosbarthiadau ymarfer neu enghreifftiau ychwanegol ym mhob modiwl mathemateg. Yn y rhain, bydd darlithydd yn trafod problemau ychwanegol gyda chi, yn rhoi adborth cyffredinol ar lafar ac yn rhoi atebion enghreifftiol i fyfyrio arnynt ymhellach.

Ym Mlwyddyn Pump, byddwn yn disgwyl i fyfyrwyr chwarae rhan fwy amlwg oherwydd bydd rhai darlithoedd yn cael eu cynnal ar ffurf seminarau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ddechrau pob blwyddyn, bydd arweiniad ynghylch nodau'r modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen ar gael i chi. Byddwch hefyd yn cael tiwtor personol yn yr Ysgol Mathemateg. Bydd hwn yn aelod staff academaidd sy'n gallu rhoi cefnogaeth fugeiliol a chyngor academaidd yn ogystal â'ch helpu wrth ddewis modiwlau a chynllunio gyrfa. Trefnir cyfarfodydd rheolaidd â'ch Tiwtor Personol i roi cyfle i chi drafod eich cynnydd unigol a datblygu sgiliau cyffredinol fel gweithio mewn tîm a sgiliau cyflwyno.

Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ysgol Mathemateg eich cynghori ar faterion academaidd, ac mae gan bob blwyddyn astudio gydlynydd blwyddyn sy'n gallu cynnig cyngor ar faterion gweinyddol. Mae gan yr Ysgol Reolwr Addysg a Myfyrwyr hefyd sy'n gallu cynorthwyo gydag ymholiadau gweinyddol. Mae'r Swyddfa Israddedig mewn Mathemateg yn ffynhonnell wybodaeth bellach.

Mae gan yr Ysgol Mathemateg Gydlynydd Blwyddyn Astudio Dramor sy'n gallu ateb unrhyw gwestiynau am astudio dramor. Hefyd, mae aelod staff yn gyfrifol am gyfnewid myfyrwyr o dan gynllun Erasmus. Byddant yn cynorthwyo i baratoi ceisiadau i astudio dramor, rhoi cefnogaeth fugeiliol pan fyddwch dramor ac yn ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Cewch ragor o gymorth dysgu hefyd drwy Wasanaeth Cefnogi Mathemateg cyffredinol y Brifysgol. Sesiynau hamddenol ac anffurfiol yw'r rhain lle gallwch alw heibio i drafod unrhyw elfen o'ch astudiaethau gyda thiwtor naill ai mewn cyfarfod wyneb yn wyneb, neu mewn grŵp bach.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.

Cyn cychwyn ar eich traethawd hir, bydd darlithoedd ychwanegol yn eich paratoi ar gyfer sgiliau ymchwil a chyfathrebu. Bydd modiwlau cyfrifiadurol craidd ym Mlynyddoedd Un a Dau yn rhoi sylfaen ar gyfer unrhyw waith cyfrifiadurol sy'n ofynnol ar gyfer y traethawd hir. Bydd y darlithoedd ychwanegol yn ymdrin â materion ymarferol fel gweithio gyda goruchwyliwr, fformat a strwythur traethawd hir, cyfeirnodi a sut i ysgrifennu mewn modd academaidd. Byddant hefyd yn cwmpasu'r sgiliau sy'n ofynnol i gynnal ymchwil fathemategol yn annibynnol.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog. Mae aelod staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol Mathemateg ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol ar gael.

Sut caf fy asesu?

Most modules have closed book written examinations at the end of the autumn or spring semesters, with some also having an element of continuous assessment. This may include problem-solving exercises, written reports, computer programs and oral presentations. Feedback on progress is typically provided through a combination of discussion in class, written comments on submitted work and review of outline solutions to problems. You are encouraged to discuss any queries related to specific modules with individual lecturers. All students can review their examination scripts and discuss their performance with the corresponding module lecturer.

Your major research project in Year Five is assessed through a written report (85% of the mark) and an oral examination (15% of the mark).

The pass mark for each module is 40%. Students can progress to resit as long as they have failed no more than 60 credits. They can progress to the following year as long as they have failed no more than 20 credits.

The grade of your final degree is currently based on 10% from your Year Two studies, 10% from your Year of Study Abroad, 30% from Year Four and 50% from Year Five. The marks achieved while abroad are converted using Cardiff University conversion tables. Students are required to give a 20 minute presentation upon return to Cardiff University near the beginning of their final year. This presentation will include details of their time abroad, both academically and socially. These presentations are assessed and will contribute to 20% of their Year of Study Abroad grade.

Feedback:

Written feedback and outline solutions on in-course assessment give you an opportunity to reflect on your progress. Further feedback is provided in examples classes and tutorials (in year one) to review problems in more detail and discuss potential solutions. You should discuss any queries related to specific modules with individual lecturers. There are a number of further feedback mechanisms in place to support your study.

The majority of coursework in the School of Mathematics is formative, that is the mark does not form part of the students overall mark for the module. This is to encourage students to learn the intrincis value of doing the work in itself and for the educational benefit rather than just to gain a given mark. In this way it is expected that students will carefully consider their feedback and use it to ensure their understanding of the material.

In Year One, students are required to regularly submit work to help to ensure that their understanding of the course material is progressing. Detailed formative feedback is provided to help students identify their strengths and weaknesses and areas that need further work, and for staff to identify means of supporting students. This continues in later years of the course, though the frequency of submitted work will vary from module to module.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich galluogi i gaffael a datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Byddwch yn:

  • Dangos hunanreolaeth effeithiol a'r sgiliau trefnu effeithiol sydd eu hangen i ymgymryd â phrosiect sylweddol mewn maes mathemateg o'ch dewis.
  • Gwella eich sgiliau TG, adalw gwybodaeth a thrin gwybodaeth
  • Datblygu eich gallu i feddwl mewn ffyrdd rhesymegol a dadansoddol wrth ystyried problemau mewn disgyblaethau eraill
  • Dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol.
  • Datblygu sgiliau gwrthrychedd, creadigrwydd a meddwl yn annibynnol
  • Datblygu eich gwybodaeth am gysyniadau Mathemateg craidd fel calcwlws a dadansoddi, prawf, algebra a modelu
  • Cynyddu eich dealltwriaeth o egwyddorion a thechnegau prawf
  • Datblygu sgiliau fydd yn eich galluogi i gynnal dadl feirniadol ac i gyfleu syniadau a damcaniaethau yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniad llafar
  • Dysgu sut i ddatrys problemau penagored a ddiffiniwyd a nodi materion allweddol
  • Cynnal ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell fel gwerslyfrau, cyfnodolion gwyddonol a chronfeydd data electronig
  • Defnyddio cyfrifiadau manwl gywir mewn sefyllfaoedd priodol
  • Datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol

Beth yw deilliannau dysgu'r cwrs/rhaglen?

The Learning outcomes for this Programme describe what you will be able to do as a result of your study at Cardiff University. They will help you to understand what is expected of you and academic staff will focus on precisely what they want you to achieve within each Module. 

Knowledge & Understanding:

Students completing the Programme will demonstrate:

  • An ability to analyse and interpret data and to apply modern statistical methods
  • An ability to use the latest operational research techniques to solve real life problems
  • An understanding of the underlying principles and mathematical theories underpinning modern statistics and operational research
  • An understanding of the ideas of proof, calculus, algebra, analysis and applied mathematics
  • Enhanced understanding of the academic culture of higher education in a foreign country

Intellectual Skills:

Students completing the Programme will demonstrate:

  • The ability to formulate and solve mathematical models
  • The skills of using analytical and logical thinking to draw conclusions based on quantitative information.
  • Communication skills and the ability to communicate mathematical knowledge and understanding
  • Plan and conduct a piece of novel research

Professional Practical Skills:

Students completing the Programme will be able to:

  • Use a number of modern software packages
  • Assimilate and communicate detailed mathematical arguments

Transferable/Key Skills:

Students completing the Programme will demonstrate:

  • Logical reasoning
  • Independent thinking
  • Critical thinking
  • The ability to apply mathematical skills to solve problems
  • Use of information technology and library resources
  • Time and workload management
  • The ability to conduct independent research

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Gallwch ddefnyddio eich gradd MMORS Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth gyda Blwyddyn Dramor fel llwybr i'r gweithlu lle gallwch gwrdd â'n cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd, megis gwyddor data, ymchwil weithredol, technoleg rhyngrwyd, meddygaeth, bancio, logisteg, rheoli risg, a marchnata. Neu, efallai byddwch chi’n dewis ehangu eich opsiynau gyrfa i gynnwys ystod o feysydd cysylltiedig trwy gwblhau PhD mewn mathemateg, y gwyddorau, cyfrifiadureg neu beirianneg.

Cymorth Gyrfaoedd Mathemateg

Yn Semester y Gwanwyn yn eich blwyddyn gyntaf, bydd amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar gael i chi i helpu i gefnogi eich rhagolygon gyrfa. Mae’r dosbarthiadau’n ymdrin â phrofiad gwaith, CV a llythyrau esboniadol, ffurflenni cais, technegau cyfweliad, a chyflwyniad i LinkedIn.

Mae gennym ni fwrdd swyddi myfyrwyr sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gydag amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion, gwirfoddoli, interniaethau a lleoliadau. Ar ben hynny, rydym ni’n trefnu rhaglen lawn o gyflwyniadau gan fyfyrwyr a chyflogwyr bob blwyddyn gyda chyflogwyr fel Grŵp Bancio Lloyds, HSBC, PwC, Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid, Sainsburys, Network Rail, GSK, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dŵr Cymru, a’r Swyddfa Feteorolegol.

Mae'r Ysgol Mathemateg hefyd yn cynnig Rhaglen Sgiliau Rheoli Gyrfa, cyflwyniadau gan fyfyrwyr sy'n dychwelyd o fyd gwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o wobrau a ddyfarnir am gyflawniad academaidd.

Lleoliadau

Mae'r rhaglen radd hon yn cynnwys blwyddyn o astudio dramor. Gall myfyrwyr drosglwyddo i'r radd MMORS pedair blynedd safonol ar unrhyw adeg.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 39% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.