Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

'Twf i mi ddod yn wyddonydd i’r dyfodol'

Aeth Trisha allan i Borneo i ymuno â'r ymchwilwyr yng Nghanolfan Maes Danau Girang fel rhan o'n cyrsiau maes, a ddyluniwyd i roi profiad ymchwil ymarferol i fyfyrwyr.

academic-school

Hyblygrwydd

Mae ein rhaglenni gradd arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yn hyblyg iawn, a gallwch deilwra eich cwrs at eich diddordebau chi.

globe

Ymchwil o safon fyd-eang

Mae ein Hysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn sawl un o Athrofeydd Ymchwil y Brifysgol ac yn gyfrifol am ganolfan maes sy'n canolbwyntio ar gadwraeth yn Borneo, Malaysia.

people

Rhagolygon o ran gyrfa

Dywedodd 93% o’n graddedigion eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (2016/17).

Pam astudio Sŵoleg?

Astudiaeth o bob math o anifeiliaid yw Sŵoleg, o'u geneteg, anatomeg a ffisioleg i'w hymddygiad a sut maen nhw'n addasu i oroesi mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Astudiwch faes eang bioleg anifeiliaid, neu arbenigo mewn maes penodol â’n gradd Sŵoleg ryngddisgyblaethol a hyblyg.

Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Astudiwch faes eang bioleg anifeiliaid, neu arbenigo mewn maes penodol â’n gradd Sŵoleg ryngddisgyblaethol a hyblyg.

Dysgodd fy mlwyddyn hyfforddiant proffesiynol i mi ddefnyddio trapio camerâu fel dull o gasglu data. Dysgais yr anawsterau o gynnal ymchwil wyddonol mewn amgylchedd trofannol a chynyddais fy ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n gysylltiedig ag ymchwil.
Katie Journeaux Myfyriwr Ysgol y Biowyddorau

Cyflwyno Ysgol y Biowyddorau i chi

Chi fydd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr arloesol drwy fod yn fyfyriwr yn Ysgol y Biowyddorau. I roi’r cyfle i chi weld sut beth fyddai astudio gyda ni, rydym yn cyflwyno ein Hysgol i chi drwy gyfres o sgyrsiau gan ein darlithwyr a thaith 360, hefyd.

Mae Dr Emma Yhnell yn ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin a ofynnir am ein cyrsiau.

Mae Dr Andrew Shore, darlithydd ac Uwch-diwtor Derbyn yn Ysgol y Biowyddorau yn trafod mwy o’r cwestiynau cyffredin.

Student trekking in dolomite mountains

Blwyddyn hyfforddi proffesiynol

Cewch brofiad ymchwil ymarferol gwerthfawr drwy gwblhau blwyddyn hyfforddi proffesiynol, a gall fod o fantais i chi ar gyfer gweddill eich gradd a'ch gyrfa ar ôl gadael y brifysgol.

Female on boat looking through binoculars

Gyrfaoedd

Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.

Female student looking at skeleton

Graddau Meistr Integredig

Mae ein graddau meistr integredig yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu sy'n gobeithio cael gyrfa ym maes gwyddoniaeth.

Lleoliadau

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate

Edrychwch ar ein holl gyrsiau yn Ysgol y Biowyddorau

Edrychwch ar ein cyrsiau israddedig.

Download icon

Lawrlwythwch lyfryn Ysgol y Biowyddorau

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.

icon-contact

Cysylltwch â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

O ddiddordeb i chi

Students travelling in a boat

Gwyddorau Biolegol

Mae ecoleg gyfoethog Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu a hogi eich sgiliau fel biolegydd. Mae'r pwnc cyfareddol hwn yn cyfuno damcaniaeth wyddonol a gwaith ymarferol mewn labordy ac yn y maes, ac o'i astudio, byddwch yn meddu ar well dealltwriaeth o'r byd o'ch cwmpas a'r modd y mae'n gweithio.