Ewch i’r prif gynnwys

Sut i wneud cais i ddilyn cwrs i israddedigion

Dysgwch bopeth y mae angen i chi ei wybod am wneud cais i ddilyn cwrs i israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dylai pawb sydd am ddilyn cwrs amser llawn i israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd wneud cais drwy UCAS.

Mae’r broses ymgeisio’n wahanol ar gyfer y rhai sy’n ystyried astudio’n rhan-amser neu ddilyn un o’n rhaglenni ymbaratoi ar gyfer y brifysgol i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol.

Ceisiadau UCAS

Dilynwch y camau hyn i gael gwybod sut a phryd i wneud cais i ddilyn cwrs amser llawn i israddedigion a beth y gallwch chi ei ddisgwyl ar ôl i chi wneud hynny:

  1. Dewiswch beth rydych chi am ei astudio drwy chwilio ymhlith ein cyrsiau.
  2. Gwiriwch ddyddiad cau UCAS ar gyfer gwneud cais i ddilyn eich dewis o gwrs.
  3. Gwiriwch y gofynion mynediad ar y dudalen y cwrs.
  4. Gwnewch gais drwy UCAS.
  5. Arhoswch i ni wneud penderfyniad: Dysgwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais.
  6. Rhowch ateb i’r Brifysgol mewn perthynas â’i chynnig.
  7. Gwiriwch beth mae canlyniadau eich arholiadau’n ei olygu.
  8. Cadarnhewch eich lle yn y Brifysgol.

Ymgeiswyr rhyngwladol

Os ydych chi’n ddarpar fyfyriwr rhyngwladol, efallai y bydd angen i chi hefyd ystyried:

Llwybrau amgen i ddechrau ar gwrs

Rhaglenni rhagarweiniol

Wedi i chi gwblhau un o’n rhaglenni rhagarweiniol yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen i un cyrsiau ar lefel gradd. Dylech chi wneud cais i ddilyn rhaglen ragarweiniol drwy UCAS.

Ceisiadau i ohirio dechrau astudio

Bydd y rhan fwyaf o Ysgolion academaidd yn ystyried ceisiadau i ohirio dechrau astudio. Mae’n rhaid i chi ddewis y flwyddyn ddechrau gywir ar eich ffurflen gais.

Gwneud cais ar ôl cymryd seibiant o addysg

Os byddwch chi’n 21 oed neu'n hŷn pan fyddwch chi’n dechrau astudio, byddwch chi’n cael eich ystyried yn fyfyriwr aeddfed. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr aeddfed o bob cefndir i ddilyn rhaglenni amser llawn a rhan-amser fel ei gilydd.

Rydyn ni’n derbyn amrywiaeth o gymwysterau a phrofiad proffesiynol perthnasol. Dyma ganllawiau pellach ar astudio’n fyfyriwr aeddfed.

Ymgeiswyr ag anableddau neu anghenion penodol

Os oes gennych chi anabledd neu anhawster dysgu penodol (fel dyslecsia), cofiwch nodi hyn ar eich ffurflen gais er mwyn i ni gael gwybod am eich anghenion cyn i chi gyrraedd.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein cyngor i ymgeiswyr anabl.

Cyn i chi wneud eich cais ar-lein, bydd angen i chi gofrestru ag UCAS.

Nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen gais i gyd ar yr un pryd. Gallwch chi ei chadw a mynd yn ôl ati’n ddiweddarach.

Mae UCAS yn rhoi llawer o gyngor defnyddiol, gan gynnwys cyngor ar sut i lenwi’r ffurflen gais, llunio datganiad personol a chasglu geirdaon.

Côd UCAS ar gyfer Prifysgol Caerdydd yw C15. Mae’r côd ar gyfer eich dewis cwrs i’w weld ar frig tudalen y cwrs.

Gallwch chi ddewis hyd at bum cwrs os ydych chi’n gwneud cais cyn y dyddiadau cau perthnasol. Nid oes angen i chi restru’r cyrsiau yn ôl yr hyn sydd orau gennych chi nes eich bod wedi cael eich cynigion.

Dechrau eich cais UCAS

Gallwch chi gyflwyno eich ffurflen gais o ddechrau mis Medi ymlaen yn y flwyddyn cyn i chi ddechrau astudio. Dylech chi wneud cais cyn gynted â phosibl, gan y gallai lleoedd ar raglenni lenwi’n gyflym.

  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o’r DU yw 14 Ionawr* (i ddechrau yn 2026)
  • Tua 30 Mehefin yw’r dyddiad cau arferol ar gyfer ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol.
  • Mae’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i ddilyn rhaglenni clinigol yn gynharach. Ar gyfer Meddygaeth (codau UCAS: A101 ac A104) a Deintyddiaeth (côd UCAS: A200), tua 15 Hydref yn y flwyddyn cyn i chi ddechrau astudio yw’r dyddiad cau.

* 14 Ionawr yw’r dyddiad cau ar gyfer ystyriaeth gyfartal gan UCAS. Mae'n bosibl y byddwn yn dal i ystyried a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn, ond nid oes sicrwydd o hyn. Felly, rydym yn argymell bod pob ymgeisydd o’r DU yn gwneud cais cyn 14 Ionawr.

Cadwch lygad ar ein tudalen sy’n nodi’r dyddiadau allweddol i wneud yn siŵr nad ydych chi’n colli unrhyw beth.

Ceisiadau nad ydyn nhw’n rhai UCAS

Mae nifer o gyrsiau ymbaratoi ar gael i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau priodol i ddechrau blwyddyn gyntaf cwrs gradd.

Dyma ragor o wybodaeth am Raglenni Blwyddyn Sylfaen i Fyfyrwyr Rhyngwladol yng Nghanolfan Astudiaethau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd. Wedi i chi orffen dilyn un o’r cyrsiau’n llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen i un o’n cyrsiau i israddedigion.

Darganfyddwch sut i wneud cais i ddilyn un o’r rhaglenni hyn. Fel arall, gwnewch gais yn uniongyrchol drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn cwrs rhan-amser neu gwrs amser llawn i israddedigion nad yw’n arwain at radd, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r brifysgol.

Help i baratoi eich cais

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth arnoch chi mewn perthynas â’ch cais, cysylltwch â’r tîm Derbyn Myfyrwyr drwy lenwi’r ffurflen ar-lein.

Tîm derbyn

Wrth lenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn ein helpu i ateb eich cwestiwn.

Gall darpar fyfyrwyr rhyngwladol hefyd gael cymorth wrth baratoi eu cais gan ein cynrychiolwyr a’n hasiantau yn eu gwledydd.

Y camau nesaf

Darganfyddwch beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais.

Mae gwybodaeth fwy manwl am y broses derbyn myfyrwyr ar ein tudalennau polisïau derbyn myfyrwyr.