
Daearyddiaeth ddynol a chynllunio
Ydych chi’n angerddol am fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol byd-eang i wella ble a sut rydym yn byw? Ein rhaglenni daearyddiaeth ddynol a chynllunio yw'r dewis i chi.
Pam astudio gyda ni?
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a datblygu’r mannau sy’n ein meithrin, gwella’r cymunedau sy’n ein llywio, datblygu’r sefydliadau sy’n ein rhwymo, a dylanwadu ar y bobl sy’n ein harwain. Ymunwch â ni a dilynwch yr hyn rydych yn angerddol amdano, rhowch hwb i'ch dyheadau academaidd a datblygwch eich proffil a'ch sgiliau proffesiynol.
Cydnabyddir gan y byd proffesiynol
Achredir yr ymweliadau yn llawn neu'n rhannol gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS), y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
Ar y brig
Rydym ymhlith y 100 o brifysgolion gorau yn y byd ar gyfer Daearyddiaeth (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2022) ac yn yr 14eg safle ar gyfer cynllunio trefol a gwledig a thirwedd (The Times/Sunday Times Good University Guide 2023).
Symud eich gyrfa yn ei blaen yn gyflym
Roedd 98% o'n graddedigion mewn cyflogaeth, a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Cynllunio ar gyfer yfory
Mae cynllunwyr yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn lledu’r ffordd i ddyfodol cynaliadwy, hyfyw a bywiog. Rydym yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.
Roeddwn i wrth fy modd yn astudio Daearyddiaeth ar lefel Safon Uwch ac roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau ei astudio yn y brifysgol, ond roedd hefyd gennyf ddiddordeb mewn cynllunio. Mae amrywiaeth mor eang o fodiwlau’n cael eu cynnig. Yn benodol, rwyf wedi mwynhau’r modiwlau Trafnidiaeth Gynaliadwy, Lleoedd a Chynlluniau a Dinasoedd y Gellir Byw ynddynt. Roedd pob un ohonynt yn cynnwys posibiliadau gwahanol o ran asesiadau megis fideos a phosteri, ac yn cynnig ystod eang o bynciau ac astudiaethau maes, yn ogystal â’r cyfle i gasglu eich gwaith ymchwil eich hun.
Mwy amdanom ni
Trawsnewid lleoedd drwy feddwl yn feirniadol ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad Morgannwg, adeilad eiconig, rhestredig Gradd 1, sydd yng nghanolfan ddinesig Caerdydd ac yn dafliad carreg o ganol y ddinas. Tra bod ein cartref yn hanesyddol, mae ein cyfleusterau'n addas ar gyfer y 21ain ganrif.
Mae ein cyfleusterau addysgu cyfrifiadurol yn llawn yr holl becynnau sy’n berthnasol i’ch astudiaethau, gan gynnwys rheoli cronfeydd data, dylunio â chymorth cyfrifiadur, GIS a meddalwedd ystadegol a graffigol.
Mae'n bwnc cyffrous sy'n ymdrin â materion pwysig yn y byd real, ac yn unigryw mae'n cyfuno elfennau o ddaearyddiaeth a chynllunio. Y cyfle i gwblhau blwyddyn ar leoliad gyda thâl yn ystod y cwrs oedd beth a'm denodd yn benodol i Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â'r cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol. Mae Caerdydd yn brifddinas sy'n esblygu gydag enghreifftiau go iawn o gynllunio'r gorffennol a'r presennol ar stepen y drws!
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Pori drwy gyrsiau Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio israddedig
Edrych ar ein cyrsiau.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth. Data o'r Arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf ar gyfer 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.